Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Heddlys Blaenau Ffestiniog.…

News
Cite
Share

Heddlys Blaenau Ffestiniog. I Dydd Iau (beddyw) o flaen J. Parry Jones, Ysw., (Cadeirvdd), a G. H. Ellis, R. Roberts, W. P. Evans, J. Vaughan Wil- liams, a David Williams, Ysweiniaid. MEDDW.—Y Rhingyll Owen a gyhuddodd John Hughes, 160, High Street, o fod yn feddw Mai 18.-Gohirwvd yr achos o Lvs Mehefin am dri mis, gan fod y cyhuddedig yn addaw diwygio ac wedi myned i Berthyn i'r capel- Nid ynddangosodd a dirwywyd ef i 5s a 10s 6c o gostau. MEDDW. Yr Heddgeidwad Mayberry Morgan, Maentwrog, a gyhuddodd Jane Jones, Bodafon, Blaenau Ffestiniog, o fod yq feddw Mai 11. Gohiriwyd yr achos am dri mis yn Llys Mehefin, er mwyn gweled pa fodd yr vmddygai y Ddiffynyddes yn y cyfamser.—Nid ymddargosodd, ond tystiwyd iddi ymddwyn yn gamoliaethus.-Dirwy o swllt heb gostau. MEDDW AC AFREOLUS.—Yr Heddgeidwad Owen Jones a gyhuddodd William Thomas, Lower Cwmbowydd Road, Bl. Ffestiniog, o fod yn feddw ac afreolus ar Awst 10.-Nid ymddangosodd.—Tystiwyd ei fod ef a'r teulu wedi ymadael a'r ardal.—Dirwy o 10/- a 9/6, neu 14 diwrnod o garcbar. MEDDW AC AFREOLUS: ACHOS GOFIDUS. -Y Rhingyll Owen a gyhuddodd Hugh Morris Hughes, Back Park Square, Blaenau Ffestiniog, o fod y feddw ac afreolus ar Awst 23. Hefyd yr un Swyddog a'i cyhuddodd o fod yn feddw ac afreolus ar Awst 15.— Addef- odd y trosedd, ac yr oedd yn ddrwg ganddo.— Sylwodd y Faingc ei fod yn bla ar y lie, er nad oedd ond 25ain oed, yr oedd rhestr fawr o gyhuddiadau yn ei erbyn.—Yr oedd ei fam yn pleidio yn daer drosto.-Arolygydd, Y mae y tafarnwyr yn cwyno yn ei gylch.Mr. R. Roberts, Eto yn rhoddi diod iddo, y mae hynv yn anghyson iawn."—Cadeirydd, Cyfle i wella."—Dirwy 2/6 yn mhob achos a'r cost- au £1 2s Oc trwy'r oil. MEDDW.—Yr Heddgeidwad Mayberry Morgan a gyhuddodd Margaret Lewis, The Cliffe, Maentwrog, o fod yn feddw ar Awst 30.-Addefodd y trosedd, yr oedd yn ddrwg iawn ganddi.—Dirwy o swllt a'r costau. MEDDW AC AFREOLUS.—Y Rhingyll Owen, a gyhuddodd Edward Jarvis, gwerthwrpysgod. Glynllifon Street, Blaenau Ffestiniog o fod yn feddw ac afreolus ar Medi 3. Addefodd y trosedd, ac mai wrth yfed wisci at wella y ddanodd y meddwodd aeth y wisci i'w ben.— Taflwyd yr achos allan, gyda rhybudd. MEDDW GYDA CHEFFYL A CHERBYD.—Yr Heddgeidwad Richard Price a gyhuddodd Jivan Evans, Penybryn Ffestiniog o fod yn feddw gyda cheffyl a cherbyd Awst 9.—Yr oedd yn gorwedd yn berffaith feddw yn y cerbyd.—Gwadai y trosedd, ond addefodd iddo gael tri neu bedwar peint.—Dirwy 5/- ac 8/6 o gostau. CADW CI PERYGLUS.—Yr Heddgeidwad Josiah Jones a gyhuddodd Robert Griffiths, 2 Parry's Terrace, o gadw ci peryglus, Awst 15.Tynwyd yr achos yn ol, am fod y c, wecli ei ddinystrio. TADOGI,-Lizzie Thomas, Porch, Church Street, Trawsfynydd' a ofynodd am archeb yn erbyn Robert Simon Hughes, 100. Caerphilly Road, Sengbengydd, Deheudir Cymru, i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon o honi.— Gwnaed yr archeb ond gwrthodwyd y costau. TRWYDDED GLYNDWR. Gwnaed cais ffurfiol am archeb amddiffynol ynglyn a'r drwydded uchod.—Penderfynodd y Faingc ganiatau y cais hyd nes y penderfynir yr achos gan y Pwyllgor lawnyddol. & & Jo

Gwalljgo-Fdy Dinbych.

Damwain Angeuol yn Chwarel…

RUABON. I

.-..,..- - - - - - - - - -…

Advertising