Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ARDDAMGOSFA ARDDWROL I PENMACHNO.

rvVYVVYVV PWLLHELI.

News
Cite
Share

rvVYVVYVV PWLLHELI. REGATTA.-Dydd Mawrth Medi 3ydd cyn- haliwyd yr ucbod o flaen y West End, er ad- loniant yr ymwelwyr ac eraill. Dyma y Rhag- len:—1, Races Sailing Boats; 2. Single Sculling, open, Ditto (visitors only): 3, Double Sculling (with Coxwain) Canoe Race, ditto (Ladies), ditto (boys under 15); 5, 100 yards swimming race; 6, Greasy pole, Duck hunt, Water Derby; 7, Best Sand Castles (children). Yr oedd yr ymgeiswyr yn hynod o fedrus gyda rhwyfo, a nofio, yn feibion ac yn ferched. Ond yr hyn oedd yn ddyddorol oedd eu gweled yn cerdded y polyn wedi ei iro ac yn disgyn i'r dwfr. Ond y mwyaf hwyliog oedd gweled tri yn ceisio dal hwyaden yn y dwfr ond yr oedd hi yn ddigon yn mlaen arnynt ac ar y lan y daliwyd hi gan un o'r nofwyr a laniodd gyntaf ar ei hol. Aeth y cwbl drosodd yn llwyddian- us heb i ddim anhapus ddigwydd, a phawb wedi mwynhau eu hunain: a therfynwyd y cwbl gan gawod o wlaw. Y FARCHNAD.—Diwrnod pur brysur oedd dydd Mercher, er nad oedd Ilawn cymaint wedi dod ag arfer gan fod y Mownti dranoeth. Yr oedd y prisiau fel y canlyn :-Wyau 8/- yr 120; Ymenyn -/ll y pwys; Cywion o 3/4 i 4/-y cwpl: Hwyaid o 4/- i 4/6 y cwpl; Fowls 2/- y cwpl; Pytatws o 3/9 i 4/- y cant. Y LLYS.-Gofidus oedd gweled bachgen ieuaingc yn cael ei anfon i'r Clio o'r Llys am ladrata oriawr, yr oedd ei fam yn edrych yn drallodus iawn. Y MOUNTI.-Dydd Iau oedd y diwrnod ag yr edrychai pawb yn mlaen ato ac o'r diwedd cafodd miloedd o bobl y cyfle eleni eto i fod yn bresenol. Golwg wan am dywydd i gynull oedd arni, ac felly fe gychwynodd yr amaeth- wyr yn gyffredinol am yr Arddangosfa i'r dref. Yr oedd yno ugeiniau o gerbydau yn llawn o deithwyr. ac anifeiliaid yn cael eu tywysu a'u gyru o bob cyfeiriad am y cae. A thystiolaeth y rhai sydd yn arfer mynychu y "Show "oedd ei bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus yn mhob ystyr. Nid y lleiaf pwysig i lawer ychwaith oedd y ffair wagedd oedd ar y maes a phrysur iawn oedd "Wild man gyda'i" Hobby Horses," y cychod, y Pullaway &c. A diau fod y bechgyn a'r genethod wedi mwynhau y diwrnod yn ar- dderchog. Yr oedd yn ddiwrnbd ffafriol o ran tywydd hefyd. Cafodd y Rhingyll Owen, Bl. Ffestiniog, yr ail wobr gyda Llew Tudno," ei Ddaeargi rhagorol, yr hwn a dynai sylw cwn- garwyr yr holl le.

-VWV I TREFN OEDFAON Y SULI

Advertising