Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
-UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU.
UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU. Cynhaliwyd Cyrddau Blynyddol yr Undeb uchod, yr wythnos ddiweddaf yn nhref benafol Llanelli, yr hon, ar lawer ystyr yw Jerusalem yr enwad yn y wlad. Nid oes cynifer o fedydd- wyr mewn cylch mor fychan, drwy yr holl fvt: ag sydd yn nhref Llanelli a'r cylch. Yr oedd Bedyddwyr yma tua 1,640, y rhai re 'dynt yn aelodau o eglwys Ilston, yr hon a fTuta^yd vn 1649, ac ar yr hon yr oedd yr enwog John Miles yn weinidog. Codwyd y capel cvntuf ') n y cylch, sef Adulam, yn y flwyddyn 1700 Nid oedd gan y Bedyddwyr yng Nghym, cyn yr adeg hon, ond tri chapel, sef Liaretwprth, yr hwn a adeiladwyd yn 1695, RhydvuKm (1701) a Llangloffan (1706). Heddyw rn", gan y Bedyddwyr yng nghylch Llanelli ddwy ar bvm- theg o eglwysi, gydag agos i wyth mi' o aeiod- au. Rhoddwn yma rif rhai o'r eglwysi gydag enwau eu gweinidogion a maint eu capel au Nifer eistedda'r Gweinidog. Aelodau. Capel. Seion-Parch. E, T. Jones 996 15)0 Adulam-Parch. B. Humphreys S56 950 Soar-Parch. J. R. Evans 775 900 Bethel-Parch. Hugh Jones 736 900 Moriah-Parch. Dr. Rowlands. 592 1000 Greenfield (S.), 613 750 Bethania-Parcb, W. T. Jones. 450 1000 Tabernacl-Parch. B. Williams. 428 800 Gyda naw o Eglwysi eraiil yn rhrio ar gyfar- taledd dri chant o aelodau yr un. Gwelir felly, fod yr Undeb wedi ei gynal eleni yng nghanol nerth yr enwad, ac yr oedd y croesaw roddid iddo yn ddibendraw. Eglwys Bethel oedd wedi gwabodd yr Undeb y tro hwn. Yno y gweinidogaetha y Parch. Hugh Jones, un o bregethwyr mwyaf hyawdl yr oes. GWAITH YR UNDEB. Cadeirydd yr Undeb eleni oedd y Parch. J. W. Maurice, gweinidog Tabor, un o eglwysi mawrion Sir Benfro. Yr Is-gadeirydd oedd y Prifathraw T. F. Roberts, Aberystwyth, ac iechyd i galon oedd gweled y gwr dysgedig hwn yn eistedd mewn pwyllgorau, ac yn myn- ychu cynhadleddau ar hyd yr wythnos, gan brofi fod llwyddiant achos y Gwaredwr yn agos iawn at ei galon. Nis gall dylanwad gwr o fath Dr. Roberts lai na bod yn iacbusol a dyrchafol iawn ar y cannoedd myfyrwyr sydd dan ei ofal. Ysgrifenydd yr Undeb yw y Parch E. Edmunds, Abertawe, yr hwn a roddodd i fyny ofal ei eglwys gref rai blynyddcedd yn ol, er mwyn rhoddi ei holl amser, a'i dalentau dis- glaer i wasanaeth ei enwad. Efe yw arolygydd y Llyfrfa sydd newydd ei sefydlu yn Abertawe, a than ei arweiniad ef y dygir yn mitten aith gwahanol gymdeithasau yr Undeb. Y mae yn Ysgrifenydd delfrydol, a pharod iawn yw Bedyddwyr Cymru i gario allan ei gynlluniau, ac i udilyn ei arweiniad. Dan nawdd yr Undeb Cynhelir Cenhadaeth Gartrefol (Forward Movement), yr hon sydd eisoes wedi gwneud gwaith mawr. Sefydlwyd nifer o eglwysi ganddi, mewn manau lie na chynrychiolid yr enwad o'r blaen, a chynorthwywyd amryw o eglwysi gweiniaid i gynal gweinidogaeth. Yr oedd dros £ 600 o ddyled ar y Gymdeithas hon, ond addawodd boneddwr o'r De y rhoddai efe £60 at ei thalu ymaith, os cliriai yr eglwysi y gweddill erbyn yr wythnos diweddaf. Gwnaed hyn gyda brwdfrydedd a chaed gweddill. Ysgrifenydd ac arolygydd y mudiad hwn yw y Parch. J. D. Hughes, Blaenywaen. Dan arolygiad yr Undeb y dygir yn mlaen waith yr Ysgolion Sul drwy Gymru. Llafuria yr holl ysgolion yn yr un maes, a chynbelir arholiad blynyddol yn Mis Mawrth bob blwy ddyn, yn yr hwn eistedda rhai miloedd. Mae y gwaith hwn yn dod yn fwy perffaith yn flynyddol. Symudiad newydd yn yr Enwad yw Undeb Bedyddwyr leuangc Cymru. Trefnir rhaglen ragorol ar gyfer Cymdeithasau y bob! ieuangc yn yr eglwysi nodir llyfrau i'w hastudio, a threfnir arholiad yn y Gwanwyn. Mae y mudiad hwn, dan lywyddiaeth y Prif-Athraw W. Edwards, Caerdydd, yn cymeryd gafael dvitfr yn ieuengctyd yr Eglwysi. Mae Cymdeithas Ddirwestol hefyd yn gwneyd gwaith ardderchog, mewn darparu llyfrau priodol i'r gobeithluoedd, a threfnu i ddal hawliau yr achos da hwn yn gyson o flaen yr eglwysi. Perthyna i'r Undeb hefyd, Gym- deithas hanes, yr hon sydd yn gwneud gwaith rhagorol, mewn symud y Ihvch oddiar hanes y Cewri fu yn llafurio yn yr enwad mewn oesau fu, Darllenwyd papur yng nghyfarfod blyn- yddol y Gymdeithas bon eleni ar y Dr. Thomas Llewelyn, gan y Prif athraw Silas Morris, M.A., Gelltr nodi hefyd, y Gymdeithas Ddarbodol, trwy yr hon y darperir ar gyfer gweinidogion mewn henaint aliesgedd, a'r Drysorfa Adeiladu, amcan yr hon yw rhoddi benthyg arian yn ddilog i eglwysi i adeiladu addoldai, Rhydd yr uchod gipcrem ar y gwaith mawr wneir gan yr LnaeD. YR UNDiES A CHYNGRAIR YR E Q L'l Y S I SKYDrtGPi. Mater y caed trafodaeth ddyddorol iawn arno yn Llanelli oedd, pertbynas Bedyddwyr Cymru Ir G,I-ngrai- uchod. Fel y gwyddis, y mae yr enwad yng Nhymru \Vedi ei gau allan o'r Gyngrair uchod, hyd yn bresenol, drwy foci y Cymundeb yn cael e:l weinyddu yng cglyr. a gweithrediadau y Cycgrair, ac yng ng'yn a rhai cyBghorau v C,yEgr;ii, ac yrg Bedyddwyr Cymru fel miliycau Bedyddwyr America ac amryw o eglwysi yr enwad yn Lloegr yn gaethgymunwyr. Credai Bedydd- wyr Cymru pan flur6'Ayd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion os disgwyiid iddvnt gydweithredu ag emvadrui eraiH mewn m;:tterion Cymdeith2s- Oi, na ddvlasai eu hcjwyddortor. gwahani^etb- 0} FE4 einva G gae. eu sat h rn.- Gwnaed y ffordd yn ehr i boo er -v? d avail ymur:o heb wadu ? !Dob v;,f3 a-I? gormod oedd civ 1 i" Ped/cr .vyr ddivstvru eu hsr- ¡¡¡;j;,j¡;E#if;;i[ j n*e v U i J a i -ycorau « penrier- fY:1 T T i.4 f s -t h' .vy o gwbl, yn yr un o'u cyfarfodydd er mwyn ciirio y ffordd i'r Bedyddwyr gyd-weithredu, ond dadl Undeb y Bedyddwyr yw na ddylid caniatau gweinyddu'r Cymundeb yng nglyn a gweithrediadau y Cyngrair o gwbl. Fodd bynag, ymddengys fod y ffordd ar gael ei gwneyd yn glir i Fedyddwyr Cymru ymuno a'r Cyngrair. Dywedodd y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd; a'r Parch. J. Morgan Jones (M.C.), wrth groesawu yr Undeb i Gaerdydd, flwyddyn yn ol, nas gallai y Cyngrair wneud ei waith yng Nghymru heb y Bedyddwyr, ac fod yn rhaid cael y Cymundeb o'r ffordd er mwyn eu cael i gydweithredu. Dywedodd y Parch. H. M. Huyhes mai ordinhad eglwysig yw y cymundeb ac na ddylid ar un cyfrif ei llusgo o'i chylch priodol ei hun a phroffwydai ef y byddai y maen tramgwydd wedi ei symud oddiar ffordd y Bedyddwyr ar fyrder. Hysbysodd y Dr. J. Rendel Harris, Cadeir- ydd y Cyngrair am eleni, os na adewir y Cymundeb allan o'r gweithrediadau yn y Cyrddau Blynyddol yn Southport yn y flwydd- yn hon, y bydd iddo ef aros gartref, ac na fydd dim a wnelo ef a'r Cyfarfodydd. Gwahoddodd y Parch, Thomas Law, nifer o arweinwyr y Bedyddwyr yng Nghymru i'w gyfarfod ef, er trafod y cwestiwn. Ffrwyth y drafodaeth yw addewid y bydd y mater yn cael sylw arbenig Pwyllgor y Cyngrair yn y Cyrddau Blynyddol nesaf. Teg yw hysbysu fod nifer o weinidogion blaen- llaw yr Annibynwyr yn y De, wedi cydweithio a'r Parch H. M. Hughes, Caerdydd, er dod a'r mater hwn i bwynt. Y tebygolrwydd yw y caniateir Home Rule i'r Adran Gymreig o'r Cyngrair, ac na fydd y Cymundeb i'w weinyddu ynglyn a'r Cyngrair yng Nghymru. Dywedai y Goleuad dair wythnos yn ol, mai Y rhes- wm am fethiant Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion yn Nghymru yw y Cymundeb," a theimlodd anghydffurfwyr y Rhondda mai gwell oedd ffurfio Cynghor Anghydfturfiol" gan nas gall- ent gario eu gwaith ymlaen mewn Cwm lie y mae'r Bedyddwyr mor luosog, heb eu cyd- weithrediad. Yn Llanelli, rhoddodd y Prif- athraw Roberts anerchiad dylanwadol ar y mater hwn, gan anog gwneyd pob ymdrech i gael cyd-ddealltwriaeth, a dangos y pwysig- j rwydd i'r pedwar enwad yng Nghymru gyd- weithio mor bell ag y gallent heb i argyhoedd- iadau un o honynt gael eu diystyru. Pasiwyd yno, yn frwdfrydig iawn, "Ein bod yn llawen- hau fod y ffordd ar gael ei chlirio i ni fel Bed- yddwyr uno ag enwadau eraill yng Nghymru yng Nghyngrair yr Eglwysi Rhyddion, ac yn datgan ein p" radrwydd i wneyd hyny y foment y symudir yr hyn sydd wedi ein cadw allan hyd yn bresenol." AREITHIAU YR UNDEB. Yng nghyfarfod cyhoeddus cyntaf yr Undeb, llywyddid gan Llewelyn Williams, Ysw,, A.S., yn absenoldeb D Lloyd George, Ysw., yr hwn fethodd a chadw ei gyhoeddiad. Baich araeth odidog Mr Williams ydoedd anog Cymru gyfan i gydweithredu tan arweiniad ei thywysog Lloyd George. Ein hanes yw man-ymraniadau. Collasom ami i gyfle euraidd drwy ddiffyg Un- deb. Bellach, meddai, y mae genym ein Mor- decai yn llys y Brenin, a'n Ile yw ymddiried ynddo, a buan y tyr gwawr ar achos Cymru. Caed anerchiadau brwd yn ystod yr wyth- nos ar Berthynas Credo a Bywyd," gan y Parch D. Collier, Abertillery; Dirwest," gan y Parch. D. Davies, Brighton; Y dyrus-bwnc parthed y bobl ieuaingc," gan y Parch Herbert Morgan, B.A.; "Perygl Cymru oddiwrth y Babaeth," gan Llifon; "Rhwymedigaeth y gwragedd i bleidio Dirwest," gan Miss Ellen Williams, a thraddodwyd araetb rymus iawn o'r Gadair ar"Yr hen grefydd a'r ddysgeid iaetb newydd." Caed hefyd gyfarfod Cenhad- ol eneiniedig. Dydd Iau, pregethwyd yn nghapel Seion i gynulleidfa anferth gan y Parch John Thomas, M.A., Myrtle Street, Lerpwl. Prer'othwyd yn ystod y dydd mewn chwech o gap [au y dref gan weinidogion yr enwad drwy G, ,ru. Caed cyrddau a'r Arglwydd yn amlwg ;ddynt o'r dechreu i'r diwedd. E. CEFNI JONES.
---- - - -I Cyngor Gwledig…
Cyngor Gwledig Llanrwst. Cynhaliwyà cyfarfod rheolaidd y Cyngor prydnawn ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri, John Davies (Nebo), yr Is- gadeirydd, yn y Gadair; Edward Edwards David Owen; David Lewis; Rowland Hughes John Davies, Gwytherin Maurice Roberts (Arolygydd) a Thomas Hughes (Clerc Cynortliwyol). Arolygydd. li Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr. Edward Edwards, ail benodwyd Mr. Maurice Roberts yn Arolygydd y Ffyrdd ac yn Arol- ygydd lechydol am flwyddyn arall. Rhoddwvd gair uchel iawn i Mr. Roberts am ei ofal am y Ffyrdd yn y Dosbarth.—Diolchodd yntau* am yr arwydd o ymddiriedaeth a ddangoswyd gan y Cyngor trwy ei ail ddewis yn Swyddog iddynt. Y Gwyn o Talycafn. ivtr. Anourin O. Evans, binbych, ar ran Mr. David Hughes, Taiycafit, yri nghylch y fiieidd-dod bonedig sydd yn coiii oduswriii garthftos y "gwesty gerllaw.— Hysbyswvd tou v Clerc wedi anfon at berchenog y gwesty, ac at av/durdodan y Reilffordd, Yr oedd y nsater yn av.r yn cael pob sylw posibl, a disgwylid y symudid achos y gwyn yn ddiym- droi. Cyflenwad Dwfr. Ysgrifenotid Mr. Meeson, Furness, Talycafn, i ofyn caniatad i gael dwfr at wasanaeth ei fferm o'r bibefl a gyflenwai dref Conwy. Hvs- bysvvya fod y cais wedi ei wneyd at berchr.noi.j- ion y gwaith, ond 'gan fed Mr. Meeson yn byw mewn Dosbarth arall yr oedd yn. rhaid i'r cais Udod trwy gyngar v Dosbarth. hwnw.—Pasiwyd i gymeradwyo y cais at' ran Mr. Meeson, GwyL C,ur.;at:r.\ yd pyihefnos c ssibiant i'r Arm- ygyda. "ct'l;1(C,)¿'cf ;s. c,i;ri i fed am' fyned i Gynhadledd yr Arolygwyr Iechydol a I gynhelid yn Llandudno. Iechydol. I Dr. Frazer, y swyddog meddygol, a adrodd- odd i saith gael eu geni yn mis Awst, a bu farw pump. Awst y llynedd ganwyd un, a bu farw chwech. Sarn y Bettws. Yr Arolygydd a ddywedodd iddo ef, a'r Parch. H. Rawson Williams, Cadeirydd y Cyngor, gyfarfod Arolygydd a Chadeirydd Cyngor Dinesig y Bettws ddydd Sadwrn i weled y Sarn oedd wedi ei hadgyweirio gan Mri. Hughes a Rowlands, Colwyn Bay. Yr oeddynt yn cael y gwaith yn hynod foddhaol, ond nid oedd y tair careg ar ochr y Bettws mewn llinell unionsyth a'r gweddill o'r Cerig fel y dylent fod. Yr oeddynt yn cydsynio i argymell talu y swm o £ 22 i'r Cymerwyr, ar y deall eu bod hwy yn gwneyd yr hyn oedd yn angenrheidiol i'r tair careg a nodwyd. Hefyd, yr oeddynt yn barod i ymrwymo i ofalu am y swm am flwyddyn. Yr oedd y Cymerwyr yn gofyn am swm o arian ar y gwaith uchod ac eglurodd yr Arolygydd yn mhellach mai y llifogydd oedd wedi symud y ceryg o'u lie ar ol i'r Cymerwyr eu hail osod dylent gael eu gosod mewn cement os am iddynt sefyll nerth, y llifogydd. Yr oedd y llwybr at y Sarn wedi ei adgyweirio yn eithriadol o dda, a'r gwaith yn glod mawr i'r rhai a'i gwnaeth. Yr oedd y Cyngor yn talu £ 5 10s Oc ychwanegol at wneyd y llwybr ar eu hochr hwy a phasiwyd i argymell Cyngor y Bettws i ganiatau ychydig yn ychwanegol at osod y tair careg ar eu hochor hwy mewn cement.—Pasiwyd i dalu £22, a'r £ 5 10s Oc dyledus am wneyd y llwybr. Cerig a chario. Pasiwyd i dalu am y cerig oeddid wedi eu I cario ar y ffyrdd gan Amaethwyr trwy y Dosbarth ar argymelliad yr Arolygydd,
.Bwrdd -Gwarcheidwaid -Penrhyn-I…
Bwrdd Gwarcheidwaid Penrhyn- I deudraeth. Dydd Mawrth yn y Tylotty, o dan lywyddiaeth Mt. W. Jones (yr is-gadeirydd), ac yr oedd hefyd yn bresenol Mr. Richard Roberts, W. W. Morris, Richard Williams, W. Wil- liams, D. Tegid Jones, John Roberts (Talsarnau), Edward Llywelyn, O. V. Lewis, John Williams, David Pugh, Owen Evans, William Williams (Trawsfynydd), N. W. Vaughan, J. Pritchard, R. Richards, R. Bowen Jones, Cadben Morgan Jones, John Pritchard, Dr. Jones (Meddyg), W. Thomas, J. Bennett Jones, a Richard Parry (Swyddogion Elusenol)', D. J. Jones (Meistr y ty), a D. Jones (Clerc Cynorthwyol). Gwaith Pwy ? Yr oedd mercb, yr hon oedd yn bygwth cymeryd ei bywyd ymaith, wedi dod i'r Ty, ac yr oedd rhai o'r Gwarcheidwaid yn ystyried mai gwaith yr Heddgeidwaid ydoedd, ond wedi trafodaeth, hysbyswyd ei bod wedi ymadael o'r Ty, i fyned i wasanaeth (clywch, clywch). Gwyliau. I Pasiwyd i'r Weinyddes sydd yn y Ty gael dwy wythnos o Wyliau. Y Ty. Medi 7, daeth Ellen Roberts, Garn, 26 oed i'r Ty yn feichiog, ac yr oedd ganddi 24/- yn ei mheddiant. Medi 7, aeth Elizabeth Yoxhall, 51 oed, allan o'r Ty i fyned adref. Yr oedd Mary Jane Hughes yn dymuno ym- ddangos o flaen y Bwrdd. Yn y Ty 74 ar gyfer 76 v flwyddyn flaenorol, a galwodd 12 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y bythefnos diweddaf ar gyfer 20 yr un adeg cyferbyniol y llynedd. Arianol. I Yn ystod y pythefnos ddiweddaf talwydallan fel y canlyn :—Dosbarth Tremadoc, £71 18s; Dosbarth Ffestiniog, CIIO 8s 2c; Dosbarth Deudraeth, £ 67 19s 7c. Cyfanswm /250 5s 8c, ac yr oedd eisiau y symiau canlynol at y bythefnos nesaf :—Dosbarth Tremadog, £ 73 Dosbarth Ffestiniog, £ 110; Dosbarth Deu- draeth, £67. Cyfanswm £ 250. Gweddill yn yr Ariandy y 9fed o Fedi, 1907, 1909 6s lie. Tenders am Nwyddau. I Derbyniwyd y Tenders canlynol am gyflenwi nwyddau i'r Ty:-Groceries, T. W. Jones & Son, Penrhyn; Joseph Humphreys, R. Edwards, R. Isaac Jones, Minffordd Thomas Roberts, Maentwrog. Llefrith, Mrs. Williams, Cae Ednyfed Bara, Hugh E. Roberts, Pen- rhyn; Cig, R. Newell, Portmadog; Eirch. J. Parry Jones; Esgidiau, Ellen Williams; Drapery, T. W. Jones & Son, a Thomas Rob- erts, Maentwrog Glo, Evan Jones, Penrhyn a J. E. Humphreys. Wedi Gwella. Y Cadeirydd a ddywedai fod yn dda ganddo weled Mr. W. Thomas wedi gwella yn ddigon da i ail-ddechreu ar ei ddyledswyddau, ac yr oedd yn sicr fod yr holl Fwrdd yn falch o hyny (cym.). Mr. W. Thomas a ddywedai ei fod yn dym- uno diolch i'r Bwrdd am eu teimladau da tuag ato yn ystod ei waeledd. Yr oedd wedi bod yn gynorthwy mawr iddo wella. Nis gallai dalu swllt. Darllenwyd liyihyr oddiwrth un o Ffestiniog yn dyweyd nas gailai dalu 1/- yr wythnos tuag at gadw ei fam, oherwydd iselder masnach, a'r pedwar diwrncd. Yr oedd yn foddlawn i dalu 6c. Y Cadeirydd a ddywedai fod yn amlwg fod riiywun yn dysgu y bobl yma pa fodd i ysgrif- enu at y Bwrdd, ac yr oedd yn bryd i roddi atalfa arnynt. Mr, Richard Williams Y nts.e clywed cyn fel chwi yn myned i feirniadu sut y rnae y bobl yma i fyw yn ofnadwy i wmndaw arnoch. Y IDaey dynion ynvj mor a clr.vithau, beth bynag ydych. Y Cadeirydd: Ni ddywedais i air nad oedd- ynt yn onest, a phaham y mae eisiau i chwi deimlo mwy na rhywun arall? Yr oeddych yma pan oeddym ni yn pasio yr archeb. Mr. Richard Williams Oeddwn, ond y mae amgylchiadau yr ardal wedi newid erbyn hyn. Cadben Morgan Jones "Chair, Chair." Gormod o Swn. Pan symudwyd at y mater nesaf, yr oedd I amryw o'r aelodau yn siarad gyda'u gilydd, a sylwodd Mr W. W. Morris: Y mae yma gryn lawer o swn, nid yw yn bosibl clywed dim. Mr Richard Williams Ar y Cadeirydd y mae y bai am hyny (chwerthin). Y Cadeirydd yn Teimlo. Y Cadeirydd a ddywedai ei fod yn teimlo oherwydd y sylwadau hollol ddialw am danynt oedd yn cael eu gwneyd yma. Nid oedd yn myned i gymeryd gan Richard Williams na neb arall yma. Mr. Richard Williams Arnoch chwi y mae y bai. Ddylech chwi ddim ceisio anmharchu y tlawd. Y Cadeirydd Ni fu i mi erioed anmharchu y tlawd, yr wyf yn ymddwyn yr un fath tuag at bawb, ond yr ydych chwi fel pe buasech yn talu y trethi i gyd. Mr. Richard Williams Yr wyf fi yn talu fel chwithau. ac yn talu ugain swllt y bunt. Protestiai amryw o'r aelodau yn erbyn sylwadau fel hyn, a dywedodd y Cadeirydd os na byddai Richard Wiliiams yn ddistaw y byddai iddo roddi y gadair i fyny. Mr. Richard Williams Gellwch ei rhoddi yn awr os mynwch. Cadben Morgan Jones At y mater nesaf, Mr. Cadeirydd, a symudwyd ymlaen. Cynhadledd y Tlodion. Yr oedd Mr. Tegid Jones wedi bod yn cynrychioli y Bwrdd yn yr uchod yr hon a gynhaliwyd yn Nghorwen, ond nid oedd ei adroddiad yn hollol barod, a phasiwyd i'w gael yn y Bwrdd nesaf. Pasiwyd hefyd i gael copi o'r areithiau ddarllenwyd yno i bob aelod o'r Bwrdd. Gofidiai Mrs. Casson oherwydd ei hanallu i fyned i'r Gynhadledd ar ol ei dewis gan y Bwrdd. Geneth Amddifad. Ymddangosodd gwraig, (sef chwaer i fam yr eneth) o flaen y Bwrdd i geisio cael eglurhad pa fodd yr oedd y Bwrdd yn myned neu wedi derbyn merch Borthwen Bach i'r ty am 5/- yr wythnos, tra yr oedd Thomas Roberts, wedi gwario ei harian. Yr oedd 500 o bunau wedi eu gadael i'r eneth er's tuag wyth mlynedd yn ol, ond yn awr nid oedd ond £45 ar ei chyfer, a £ 25 o'r rhai hyny wedi eu gwario. Yr oedd Thomas Roberts wedi codi 10/- yr wythnos am ei lie, ond nid oedd wedi cynyg ond 51- yr wythnos iddi hi am ei chymeryd. Yr oedd yn hyderu y byddai i'r Gwarcheidwaid edrych fod yr eneth amddifad hon yn cael chwareu teg. Mr. Thomas a ddywedodd fod Note of Hand am £25 i'w dalu yn ol 5/- yr wythnos wedi di arwyddo gan Thomas Roberts. Ymddangosai yr holl achos yn dywyll iawn i'r Gwarcheidwaid, a buasai cael rhywun i'w goleuo ar y mater yn fendith fawr iddynt hwy a'r eneth druan sydd ar hyn o bryd yn y Tylotty yn y Penrhyn.
BETTWSYCOED.-
BETTWSYCOED. Llaw-weithfa Diodydd Anfeddwol Benar View, Blaenau Ffestiniog. Diodydd Anfedd- wol o'r Dosbarth Uwchaf. Yn cael eu dos- barthu yn wythnosol yn eich ardal. Anfonwch lythyr-gerdyn am restr o'r prisiau. CYFARFOD ODYDDOL.—Cynhaliwyd cyfar- fod pedwar misol Odyddion Dosbarth Dyffryn Conwy yn Ysgoldy Bettwsycoed, dydd Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth yr Urddasol Feistr (y brawd John Jones Penmachno), yn cael ei gynorthwyo gan yr Is-urddasol Feistr (y brawd O. Jones, Dolwyddelen) a swyddog- ion eraill y Dosbarth. Yr oedd cynrychiolwyr yn bresenol o Penmachno, Dolwyddelen, Bettwsycoed, Llanrwst, Pentrevoelas, Eglwys- bach, Capel Curig, a Caerhun. Darllenwyd rhestr o aelodau, a gwragedda phlant i aelodau oeddynt wedi marw yn ystod y pedwar mis, a thalwyd £ 50 10 sOc i'r cyfrinfaoedd y perthyn- ent iddynt. Gwnawd rhodd o £ 5 i Gyfrinfa sydd yn dioddef oherwydd y byd gwan presenol, a rhodd o £ 4 i aelod mewn cyfyngder. Pen- derfynwyd codi levy o 7c yr aelod tuag at Drysorfa lywodraethol y Dosbarth, ac amlyg- wyd boddhad fod y levy mor gymedrol. Cafwyd adroddiad calonogol gan y brawd Wm. Hughes (cyn U.F.D.), o agoriad Cyfrinfa newydd yn Llangernyw, a diolchwyd yn gynes iddo am ei waith. Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth Ysgrifenydd Gohebol yr Urdd yn dwyn perthynas a materion o ddyddordeb i'r frawdoliaeth a phenderfynwyd fod y llythyr ynglyn ac aelodaeth yr Urdd i gael ystyriaeth pellach gan y gwahariol Gyfrinfaoedd, ac fod Ysgrifenydd Gohebol y Dosbarth i'w ateb dros y Dosbarth. Cyfarwyddwyd yr Ysgrif- enydd i anfon llythyrau o gydymdeimlad a theuluoedd brodyr ymadawedig oeddynt wedi: bod yn aelodau ffyddlon a defnyddiol o'r Dosbarth. Derbyniwyd oddiwrth y Cyfrin- faoedd y swm o f 83 4s 6c a thalwyd £ 67 14s 8c, yn gadael gweddill o £ 20 9s 9jc. Trosghvydd- wyd £ 20 i'r Bank, a gadawyd y gweddill yn nwylaw y Trysorydd. Enwyd Swyddogion am y.flwyddyn nesaf i gael eu hethol yn y cyfarfod blynyddol sydd i gymeryd lie ar y Sadwrn olaf yn Rhsgfyr.
Advertising
Nid ces dim llawn mor ddymunol i'ch oeri sr adiwrnod poeth a Tin dau bwys o Apricot, yr hwn ell\\ch ei -gae, am 6i gan E, B. Jones Co. A glywsocii chwi am y B«%rgcii:ion dignro sydd yn Shop E. B. Jones & Co. Pine Appie (Chunks), yn pwyso 2 bwys am SJ-c. yr un, ac Apricot mawr am
PENMACHNO. ' - -I
PENMACHNO. EWYLLYS.-Y mae^ ewyllys y diweddar Mf. Robert Thomas, Plas Isa', wfedi ei phrofi yn werth £ 4,616 10s 6c, gyda'r gw'erth personol YLI £ 2,870 Is lc. Yr ysgutorion enwir yn yr ewyllys ydynt ei ferched, Mrs. Mary, Ellen Griffiths, Plas Isa, gweddw; a Mrs. Elizabeth Catherine Hughes (priod Mr. Alfred Hughes), Compton House, Llanrwst, a hwynthwy sydd wedi cael caniatad i weinyddu yr ewyllys. ÐYCHWELIAD, Fel hyn y canodd Mr. Joseph Jones (Ehedydd Machno), yn awr o Faesteg, ar ei ddychweliad MY CONVERSION. I was wandering far and wide, I was wicked, vile, and sad; But Jesus sought and saved my Soul, And now my Heart is glad I'll love my bless'd Redeemer, I'll love him, yes, I will, And should all turn against me, I, will love my Master still. I, will love my blessed Saviour. As long as I, may live, My sins which were a multitute, i He freely did forgive; < And should all the world despise me, That, my love can never kill, I, will love him all the better. And I 11 sing his praises still. I will ne'er forget the evening When I knelt on Maesteg Square, There is no one but myself and Hid. Can tell, what I saw there; Yes, I'll love my blessed Jesus, To my Soul's delight I will, And in the dreary vale of Death, He'll be dearer to me still. Maesteg. JOSEPH JON) (Ehedydd Macbno. LLWYDDIANT.—Da genym weled 11[wyddiant ein cyfeillion yn yr Arddangosfay,id Sadwrn. Y mae rhai o honynt yn  ddwylaw" gyda'u gerddi, ac yn arferol ag enI 'll- Cafodd Mr. Griffith Davies, Londo  gynifer ag wyth gwobr gyntaf, saith all A,obr, ac un drydedd wobr. Cafodd Mr. F-- Fl. Roberts, White Street, bedair gwobr SY ?{, pump ail wobr, ac un drydedd. Mr. T. F,. Jones, Moss Hill, a gafodd un wobr 9YJ2taf, a phump ail wobr, ac un drydedd. r oedd amryw eraill yn gwneyd yn dda iawn ja'r pethau a arddangosid ganddynt. Yr oedd Y" dda genym weled y Parch. Ben J.oQeSi Rheithor, yn cymeryd y fath ddyddora?? t-yo yr Arddangosfa Arferai ei rhago?ay '? Parch. Moses Roberts, a bod yn kur j0g gyda hi bob amser. Ni welsom Y — ?tor rhadlon o Mostyn Villa, na Mr. Hughes.?o Hysgolfeistr yn yr Wyl. Yr oeddy? gynt yn wyr blaenaf y He gyda'r gerd yr ydym yn gobeithio eu gweled yn ail afae Y eU gwaith at y flwyddyn nesaf.
- - - jCodi Pris y Bara. --'..
Codi Pris y Bara. A godir pris y bara yn Uundain 2 y pwnc a drafodir gan Gymdejthsau r:taledd Pobyddion yr wytbnos yma. Pris cyfart,ledd presenol torth bedwar pwys yw pum ??-;og a dimai. Mewn rhai manau, y mae n?r g? a pedair ceiniog tra yn ydosbarthgorsuy ?g chwe' cheiniog a dimai a saith 9' ainiog Yll brisiau cyffreain. Edrycha llawer 0 feistri pobyddion ar chwe cheiniog fel Pri_ s._ tebygolrwydd yw y codir dimai yn y I )ris. y waith gyntaf er's ugain mlynedd, Y ?ae' galw am wenith yn debyg 0 fod y» Da-f cyflenwad. Yn ystod y chwech wythno?; diweddaf, yr oedd y IIwythi tramor y 0 400,000 o chwarteri na'r angen FwrOlp,'idd.
Advertising
01114 J makes K d good cakes. {* CAKEOMA Is the NEW way-the better way-of making cakes. It is a perfectly pure cake 3# -J flour of fine quality, with all J the dry ingredients wanted in a cake. The proportions are exact and the mixing 15 per- If feet. ? It saves time and troubl 2 and it makes the nicest and ??' '? lightest cakes possible. ?' J It makes any and every  J? cake and not only one kind. ? And it is economical in   use—it costs less than the $| old (-"rj eci' ?  ,1 M -1;5 i? ? From a. Urúcrs, Stereo and   Six in the British Isles, !n-3id. packets, Cac' ?? cn= containing a shed of u?iu:?d ,? t; pracUeaJ caYe rccipcs. jj^ LATMAM & Co., Ltd., G* L.-venPOOi-   M. t ?'" ) h Q m '<'> s;