Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

-UNDEB BEDYDDWYR r CYMRU.

---- - - -I Cyngor Gwledig…

.Bwrdd -Gwarcheidwaid -Penrhyn-I…

BETTWSYCOED.-

News
Cite
Share

BETTWSYCOED. Llaw-weithfa Diodydd Anfeddwol Benar View, Blaenau Ffestiniog. Diodydd Anfedd- wol o'r Dosbarth Uwchaf. Yn cael eu dos- barthu yn wythnosol yn eich ardal. Anfonwch lythyr-gerdyn am restr o'r prisiau. CYFARFOD ODYDDOL.—Cynhaliwyd cyfar- fod pedwar misol Odyddion Dosbarth Dyffryn Conwy yn Ysgoldy Bettwsycoed, dydd Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth yr Urddasol Feistr (y brawd John Jones Penmachno), yn cael ei gynorthwyo gan yr Is-urddasol Feistr (y brawd O. Jones, Dolwyddelen) a swyddog- ion eraill y Dosbarth. Yr oedd cynrychiolwyr yn bresenol o Penmachno, Dolwyddelen, Bettwsycoed, Llanrwst, Pentrevoelas, Eglwys- bach, Capel Curig, a Caerhun. Darllenwyd rhestr o aelodau, a gwragedda phlant i aelodau oeddynt wedi marw yn ystod y pedwar mis, a thalwyd £ 50 10 sOc i'r cyfrinfaoedd y perthyn- ent iddynt. Gwnawd rhodd o £ 5 i Gyfrinfa sydd yn dioddef oherwydd y byd gwan presenol, a rhodd o £ 4 i aelod mewn cyfyngder. Pen- derfynwyd codi levy o 7c yr aelod tuag at Drysorfa lywodraethol y Dosbarth, ac amlyg- wyd boddhad fod y levy mor gymedrol. Cafwyd adroddiad calonogol gan y brawd Wm. Hughes (cyn U.F.D.), o agoriad Cyfrinfa newydd yn Llangernyw, a diolchwyd yn gynes iddo am ei waith. Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth Ysgrifenydd Gohebol yr Urdd yn dwyn perthynas a materion o ddyddordeb i'r frawdoliaeth a phenderfynwyd fod y llythyr ynglyn ac aelodaeth yr Urdd i gael ystyriaeth pellach gan y gwahariol Gyfrinfaoedd, ac fod Ysgrifenydd Gohebol y Dosbarth i'w ateb dros y Dosbarth. Cyfarwyddwyd yr Ysgrif- enydd i anfon llythyrau o gydymdeimlad a theuluoedd brodyr ymadawedig oeddynt wedi: bod yn aelodau ffyddlon a defnyddiol o'r Dosbarth. Derbyniwyd oddiwrth y Cyfrin- faoedd y swm o f 83 4s 6c a thalwyd £ 67 14s 8c, yn gadael gweddill o £ 20 9s 9jc. Trosghvydd- wyd £ 20 i'r Bank, a gadawyd y gweddill yn nwylaw y Trysorydd. Enwyd Swyddogion am y.flwyddyn nesaf i gael eu hethol yn y cyfarfod blynyddol sydd i gymeryd lie ar y Sadwrn olaf yn Rhsgfyr.

Advertising

PENMACHNO. ' - -I

- - - jCodi Pris y Bara. --'..

Advertising