Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION O'R CYLOH. I

T 1-RHOS -A:R -CYLCH.I T I-…

LLANRWST.

TANYGRISIAU.

News
Cite
Share

TANYGRISIAU. ADRODDWR.—Drwg genym i ni adael allan yr wythnos ddiweddaf enw Mr. Robert Jones, Cwmorthin Farm, cafwyd adroddiad rhagorol ganddo yn Nghyfarfod Blynyddol Cwmorthin. SWN—Symud ac ymadael sydd i'w glywed yn barhaus yma, ac yn wir y mae yn ofid calon i edrych ar deuluoedd yn gofod symud, a theuluoedd eraill yn cael eu bylchu o herwydd y dirwasgiad presenol. Y mae .yma amryw wedi myned i'r De yr wythdos hon, ac yn eu plith yr oedd Mri. Hugh R. Williams, Pen-y- bont a John E. Williams, Dolydd Terrace yr oedd y cyntaf yn chwareu yr offeryn yn nghapel Gorphwysfa (W), a'r llall yn aelod o'r String Band yn Carmel (A). Mae caniadaeth y cysegr wedi cael colled fawr yn yr holl gapelau trwy fod y rhai sydd yn arfer chwareu yn ymadael fel hyn yn barhaus. Ond da genym ddeall oddiwrth y paragraph a ganlyn fod y rhai sydd yn myned oddi yma o wasanaeth yn y lleoedd y maent yn aros ynddynt. CENHADOL.—Nos Sul, ar ol y bregeth yn Bethel, cafwyd anerchiad ar ran y Genhadaeth Gartrefol gan y Parch. John Williams, B.A., Wrexham. Yr oedd yn galw sylw at ddwy adran, sef y Cymry sydd ar wasgar,sa'r achos ion Saesneg. a sylwai mai cenedl yn cael ei gwasgaru yw ein cenedl ni, y Cymry. Fod un o bob pump yn symud dros Glawdd Offa fel rheol ar hyd yr amser, a'r wahan i'r symud eithriadol sydd yc awr. Cyfyngodd ei syl- wadau i Ogledd Lloegr, a sylwai fod yno achos- ion Cymreig, a golwg llwyddianus arnynt yno, er fod amryw o honynt yn weiniaid. Bu ef yn ymweled a'r eglwysi hyn yn Cleveland, Sun- derland, a Durham, a cbafodd fod yno lu yn y gwahanol Eglwysi o'r cylch hwn yn golofnau cedyrn o dan yr achos yno, yn ysgrifenydd- ion i'r Eglwysi, yn Arologwyr yr Ysgolion Sul, &c., ac yn cymeryd rhan flaenllaw gyda phob peth yno. Yr oedd yn enwi bechgyn o Tany- grisiau, Bowydd, a'r Tabernacl, a lleoedd eraill yn y cylch hwn, ynghyda rhai sydd yn perthyn i enwadau eraill hefyd sydd yn dra ffyddlon ac yn cydweithio a hwynt er gwneyd cartref crefyddol oddicartref. Yn Ferry Hill, y mae yno gynydd mawr yn y He, y mae yno tuag 1100 o dai wedi eu hadeiladu yno o fewn y tair blynedd diweddaf. Ar ran yr Achosion Seisnig, sylwai fod ein Cyfundeb ni yn gofalu nid yn unig am Gymru ar wasgar, ond am Saeson yn Nghymru hefyd. Heblaw hyny, fod un o bob pedwar yn Ngogledd Cymru heb fedru dim Cymraeg ac y mae mwy na haner poblogaeth Cymru gyfan yn Saeson uniaith, ac nis gellir eu gadael heb ddarparu ar eu cyfer. Ac erfyniai ar i bawb yn ol fel y mae Duw yn ei lwyddo i gofio am y naill achos a'r llall. MARWOLAETH.—Boreu dydd Mercher, bu farw Mr. Robert J. Rowlands, Tynliwyn, Tan- ygrisiau, yn 53 mlwydd oed, ar ol saith wyth- nos o gystudd caled. Dioddefodd ef yn hynod o dawel. Yr oedd yn enedigol o'r ardal hon, ac wedi bed yn hynod o selog gyda gwahanol symudiadau, yn enwedig gyda'r Odyddion, y Feibl Gymdeithas, a Fund OEikeley. Quarries, ac yr oedd yn aelod ffyddlon yn BetheL Gad- awaweddw a phlentyn ar ei ol, a pha rai y mae ein cydymdeimlad llwyraf, ac a:i frodyr Mri. W. J, Rowlands, E- R„ j. R., dc R. Rewlands. Bwriedir ciadda dydd Sadwrn, yii" fiethesda, yn cychwyn am ddau o'r gloch. l

I TRAWSFYNYDD. I

BETTWSYCOCD.I

I BLAENAU FFESTINIOG. I

Family Notices

BALA.

[No title]