Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION O'R CYLOH. I

T 1-RHOS -A:R -CYLCH.I T I-…

LLANRWST.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBATHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Mary.-IO, Parch C. W. Davies. 6. Parch. J. Morgan. St. Crwst.-IO, Parch. J. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.—Parch. William Glynne, B.A., Man- chester. Heol Scotland-Parch. R. H. Thomas, Llan- sanan. Yr Annibynwyr. Tabernaci.-IO, Cyfarfod Gweddi; 6, Parch. W. Cynwyd Williams. Ebenezer-Mr. Robert Edmnnds, Blaenau Ffestiniog. Y Westeyaid, Horeb-10, Cyfarfod Ysgol; 6, Parch. W. J. Jones, Eglwysbach. St, James (English Chapel).—Mr. A. Fisher, Colwyn Bay. Y Bedyddwyr. Penuel.-Cyfarfod Gweddi. LLWYDDIANT.- Llongyfarchwn Mr. C. Roberts, Plas Isa, ar ei waith yn enill deg o wobrau cyntaf, a dwy ail wobr yn Arddangosfa Arddwrddol Penmachno. Yr un modd Mr. J. E. Humphreys, a enillodd ddwy wobr gyntaf, a dwy ail wobr. Mr. Hugh Berry y wobr gyntaf gyda Mel. Mr. George Pettigrew, un wobr gyntaf, a phedair ail wobr gyda nwyddau gardd. Mr. John Kershaw yn gyntaf gydag Peneuryn (Gold finch), a Mr. Willie Jones yn drydydd gyda'i Golomen. SALE CAE'RGRAIG,-Yr oedd Sale Cae'r- graig ddydd Mawrth yn boblogaidd lawn, a nodweddid yr oil a bywiogrwydd neillduol. Gwerthid y Gwartheg cyflo a blithion am £ 11 12s 6. Gwartheg a lloi o £ 10 i 12. Gwartheg Tewion £ 10 2s 6c. Bustych a Heffrod cadw £ l i £ 8. Myherint3 5 's Oe. Mamogiaid at Fagu o 16/9 i 25/ Wyn cadw 13/9. Wyn tewion (crossbred) o 18/- i 24/ MARCHNAD.—Marchnad hynod fechan oedd ddydd Mawrth, ond yr oedd nifer lied dda i'w gweled gyda Llysiau a ffrwythau o'r gerddi. Gwerthid y Percbyll am o 20/- i 24/- yr un. Ymenyn, lie i 1/- y pwys. Wyau 10 ac 11 am swllt. Hwyaid o 5/- i 6/- y cwpl. leir o 3/- i 4/6 y cwpl. Tatws am 4/- y cant. SALE TALYCAFN.—Dydd Llun, yn y Mart, cafodd Mri. Robert a Rogers Jones sale fiwiog, ac yr oedd prisiau da yn cael ei sylweddoli. Gwerthwyd y Bustych, Gwartheg, a Heffrod Tewion am brisiau yn cyraedd £ 20 12s 6c. 40 o Wartheg Cyflo a Blithion am £ 14 10s Oc. Bustych a Heffrod Cadw am £ 10 10s OCt 512 o Famogiaid a Myllt Tewion am 33/ 1,706 o Wyn Tewion (Crossbred) am 30/ Lloi Tewion £ 4 12s 6c. CYFARFOD PREGETHU.—Cynhelir Cyfarfod Pregethu Blynyddol y Tabernacl ar y 25 a'r 26ain o'r mis hwn. Dysgwylir i wasanaethu eleni y Parchn. H. Ifor Jones, Caer; H. Michael Hughes, B.A., Caerdydd; a D. Stanley Jones, Caernarfon. Bydd yr Wyl bregethu yn y Tabarnacl yn arferol a bod yn boblogaidd iawn, ac y mae y gweinidogion uchod yn rheng flaenaf yr enwad yn Nghymru, fel y gellir edrych yn mlaen am gyfarfod da y flwyddyn hon eto. PRIODAS FFASIWNOL.—Dydd Mawrth yn Eglwys Gadeiriol Bangor, gan Deon Bangor, a'r Parch. W. Edwards, Ficer, unwyd mewn glo,i briodas, Mr. Arthur Lloyd Griffith, C'-f.eithiwr, Llanrwst, mab y diweddar Mr. Lloyd Griffith, a Mrs. Lloyd Griffith, Caernarfon, a Miss Enia Dew, merch ieuengaf Mr. a Mrs. W. A. Dew, Wellfield, Bangor. Y Morwynion priodas oeddynt, Misses Peggie ac Eva Williams, a Miss Joan Hortin, wyresau y priod fab, a'r gwas priodas ydoedd Mr Hamlet Roberts, Penygroes. Boed iddynt s bir a llawn bendith. "MOTOR GYMKHANA."—Dyma enw roddid ar yr ymrysonfeydd campiau gyda moduriau fu yn Mharc Castell Gwydr prydnawn Sadwrn. Daeth yn agos i haner cant o Moduriau i'r ymrysonfa o wahanol fanau o Ogledd Cymru, a nodid yr Arddangosfa hon gan Glwb Automobile Gogledd Cymru. Yr oedd y Cerbydau yn cael eu rhanu yn ddau ddosbarth: rhai gydag olwynion naw troedfedd, a rhai gydag olwynion dros naw troedfedd. Yn y dosbarth cyntaf yr oedd enwau Mri. A. E. Crowdy; A. C. Davies; a Phil. Lee; ac yn y dosbarth arall yr ac,:d Mri. J. E. Alkin.; W. H. Buxton; E. O. Watkin Davies; R. Norton Francis Nunn Owen Watts Miss Gwladys Davies; Parch. F. P. Watkin Davies; Dr. H. Grey Edwards; Colonel 1 Sanbach; Mr. H. D. D. Walthall; a Mr. I Smith, Colwyn Bay. Colonel Thomas Gee; a Mri. J. H. Burton, a George Bovill oeddynt y Beirniaid, a Mr. J. A. Turner yn gychwyn- ydd. Yr Arghvyddes M'LarrsBodnant, a gyflwynoddy gwobrwyon ar y cliwedd. A ganlyn oeddynt y buddugwyr :-Rhcdcgfa Datxvs.—Rhedegfa oedd hon ar hyd llinell uniawn, ac yr oedd y gyriedydd i ddisgyn taten i, nifer o flower-pots oedd ar y llinell; ac yr re U1 un boneddiges i fod yn y 'cerbyd i ddal y t fc) x byddai eu hangen. Os methid i y daten i'r pot neu os neidiai allan o hono ar 01 iddi gael ei thaflu i mewn yr oedd yn rhaid dod i lawr o'r cerbyd a'i dodi ynddo cyn y ceid myned yn mlaen yn mhellach. Y cyntaf oedd Mr. W. H. Buxton, gyda'r hwn yr oedd Miss Edwards, o'r Plas Esgobol, Llanelwy; ar ail oedd Mr. Francis Nunn, gyda'r hwn yr oedd Miss Nunn. Rhedegfa Victoria Cross.-Yr oedd y cystadleuydd i yru ei gerbyd ar linell uniawn, yna godi trosol a gyru yn ol i'r fan y cychwynodd. 1, Mr. A. E. Crowdy 2, Mr. J. E. Alkin. Rhedegfa Llwy ac Wy.—Yr oedd pob cerbyd i gario tair boneddiges, gan y rhai yr oedd llwyau a pheli billiard yn lie wyau. Y goreu am beidio gadael i'r bel syrthio ydoedd Mr. Crowdy a'r ail oedd Mr. Buxton. Rhedegfa Bomb.—Yr oedd chwech o awyren bychain wedi eu gosod mewn llinell arbenig, a'r goreu am redeg drostynt a'u ffrwydro oedd yr enillwr. 1, Mr. Crowdy; 2, Mr. Phil. D. Lea; 3, Mr. Buxton; 4, Mr. Walthall. Ond gan i Mri. Crowdy a Buxton enill yn flaenorol, cyflwyn- asant eu gwobrau i Mri. Lee a Walthall. Rhedegfa Modrwyau.—Yr oedd y boneddig- esau yn y rhedegfa hon i godi modrwyau oddiar bolion ar y'llinell, a'r sawl godai fwyaf o honynt oedd y buddugol. 1, Mr. Buxton a Miss Edwards 2. Mr. a Miss Smith 3, Mr. E. 0. Watkin Davies a Mrs. Yale. Rhoddwyd gwobr arbenig i Miss Edwards gan iddi godir holl fodrwyau. Rhedegfa Blygu.-Ymrysonfa i blygu i mewn ac allan rhwng polion oedd hon ac yr oedd yn gyfyngedig i Gerbydau gydag olwynion naw troedfedd:-I, Colonel Sanbacb; 2, Parch. F. P. Watkin Davies. Yn yr ymrysonfa i Gerbydau dros naw troedfedd yr oedd Mr. Crowdy yn gyntaf, a Mr. R. E. Birch yn ail. Ysgrifenydd y Clwb ydyw Mr. H. R. Davies, Bangor. Cafwyd hwyl anarferol gyda'r holl gampiau uchod, a gadawyd y Pare yn rhydd i'r holl edrychwyr. HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen y Milwriad Sanbach (Cadeirydd), Milwriad Johnstone, O. Isgoed Jones, L. W. Jelf Petit, Milwriad Higson, a William Hughes, Ysweiniaid. MEDDW AC AFREOLUS.—Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd David William Jones, Crydd. Scotland Street o fod yn feddw ac afreolus Awst 30.-Dirwy 10/- a'r costau. Yr Heddgeidwad Williams a gyhuddodd Robert Stephen Mc'Dongall, Colwyn Bay, o fod yn feddw ac afreolus yn Llansaintffraid.- Dirwy 10/- a'r costau. MEDDW.—Yr Heddgeidwad Jones a gyhudd- odd William Roberts, Narrow Street, o fod yn feddw Medi 4.-Dirwy 5/- a'r costau. BYGWTH EI GYLLELL.—Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd John Wilson, Nafi, o fod yn feddw ac afreolus, ac o'i fygwth a chyllell. —Anfonwyd ef i garcbar am chwe' mis.

TANYGRISIAU.

I TRAWSFYNYDD. I

BETTWSYCOCD.I

I BLAENAU FFESTINIOG. I

Family Notices

BALA.

[No title]