Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL |

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL Senedd Llafur. Yn Nghaerbaddon y cynhaliwyd cyfarfod- ydd blynyddol Cyngres Undebau Llafur eleni ac y mae hanes y cyfarfodydd yn ddyddorol ac yn fuddiol i'w darllen. Dengys mor aruthrol ydyw y cynydd y mae Undebau Llafnr wedi ei wneyd y blynyddoedd diwedd- af, a'u bod erbyn hyn yn allu cryf iawn ac yn ddylanwad mawr iawn yn y wlad. Yr oedd yn Nghaerbaddon 520 o genhadon ac yr oeddynt yn cynrychioli 1,700,000 o aelod- au. Yn mhlith y cenhadon yr oedd 34 o Aelodau Seneddol, ynghyd ag ugeiniau lawer o Gynghorwyr Trefol a Sirol a Gwarch- eidwaid y Tlodion. Dengys hyn fel y mae Llafur yn cael ei gynrychioli ar Fyrddau Cyhoeddus yn mhob rhan o'r wlad, ac nid ydym yn petruso dywedyd fod hyny yn fantais nid i unrhyw ddosbarth neillduol ond i'r cyhoedd yn gyffredinol. Oblegid fel, rheol, mae Cynrychiolwyr Llafur mewn gwahanol gylchoedd yn meddu cymhwysder- au neillduol i'r gwaith a ymddiriedir iddynt, ac yn cyflawni eu dyledswyddau gyda chred- yd iddynt eu hunain ac i'r rhai a'u hetholant. Gyda golwg ar y cyfarfodydd yn Nghaer- baddon, mae'n wir nad oeddynt bob amser yn cael eu dwyn ymlaen gyda'r urddas ellid ei ddymuno. Arferai ambell gynrychiolydd weithiau iaith heb fod yn rhy foneddigaidd dywedwyd unwaith neu ddwy wrth y Llywydd (Mr. A. H. Gill, A.S.) eiriau yn ymylu ar fod yn anfoesgar; a chafwyd gormod o barodrwydd drosodd a throsodd drachefn i ddywedyd geiriau anmharchus am Mr. John Burns. Cymer gelynion Undebau Llafur fantais ar bethau fel hyn i gondemnio yr arweinwyr, ac i haeru nad ydynt gymwys rhan yn y gwaith o ffurfio barn gyhoeddus a chymeryd rhan yn Llyw- odraethiad y deyrnas. Ein hatebiad i hyn ydyw nad yw y pethau hyn oil yn ddim ond brychau bychain, nad yw yn rhesymol disgwyl am iaith fursenaidd oddiwrth ddyn- ion nad ydynt igan mwyaf wedi cael ond ychydig fanteision addysgol, ac na ddywed- wyd dim yn ystod y cyfarfodydd nad yw ei waeth yn cael ei ddywedyd yn Nhy'r Cyffredin yn fynych-a hyny gan aelodau o'r blaid Doriaidd y rhai a honant mai hwy sydd yn cynrychioli boneddigeiddrwydd y wlad. Dywedwu yn bendant fod gan weith- wyr Prydain Fawr achos i fod yn falch o'r Gyngres, ac na ddywedwyd ac na wnaed ynddi ddim ac y mae ganddynt achos i gywilyddio o'i blegid. Ar y Haw arall cafwyd gan gryn lawer o'r aelodau amlyg- iadau o allu, doethineb, craffder a chryfder sydd yn profi fod gweithwyr y deyrnas yn edrych am gymhwysder yn y rhai a ddewis- ant i'w blaenori, ac yn llwyddo i'w gael hefyd.

I Y Gyngres a Rhyfel.

i Chwedl -Ffol. I

Y _Senedd-dymor -nesaf.I

Toriaid Bwrdeisdrefi Dinbych.

Etholiad Kirkdale.i

-.M. # w - ii IYsgol Talacre.…

PENRHYNDEUDRAETH.-

GARDDWRIAETH- . uan-

Family Notices