Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Ysgoloriaethau Sir Ddinbych.

Methdaliad dau o Oruchwylwyr…

. Castell y Penrhyn ar Osoti.I

Cosb drom am Fygwth y Gyllell…

Colli ei hun ar y Mynydd.…

I - - N, -111,11o"- N/? Anghydwelediad…

--.v,- I Twyil T reihgasglydd.…

ER COF

Y GWYDYR, LLANRWST.

- - Rhyfeddodau yn SVSycS…

[No title]

I O'R PEDWAR CWR.

News
Cite
Share

I O'R PEDWAR CWR. Y mae y Bwrdd Addysg wedi anfon i hysbysu nad allant gydnabod Ysgol Talacre, Sir Fflint, yn yr hon y mae yr addysg o dan lywodraeth y Pabyddion, fel Ysgol Elfenol gyhoeddus i'w chynal o'r trethi. CAFODD Herbert Elsie, High Road, Chiswick, ei ddirwyo yn Caernarfon i ddeg punt a'r costau, am yru ei fodur yn or-wyllt. Ei esgus ydoedd, ei fod "eisiau dal y tren ar fusnes pwysig." CAFWYD Corph Mr. John White Leahy, Ynad a thir berchenog mewn cae yn ymyl ei dy ddydd Sadwrn gydag arwyddion o hunan- laddiad. Mis yn ol y priododd. Y MAE y Parch. D. J. Hiley, gweinidog y Bedyddwyr yn Eglwys Broadmead, Bristol, wedi derbyn galwad i fod yn olynydd y Parch. Archioald Brown, yn Llundain. Mab i weithiwr alcan o Ddeheudir Cymru yw Mr. Hiley lie y bu yntau yn gweithio yn nechreu ei yrfa. Y MAE yr heddgeidwaid Birmingham wedi dod o hyd i 55 o olwynfeirch lladratedig wedi eu hystorio yn nhy un Frank Duckhouse i un George Taylor, gwerthwr olwynfeirch. Dadleua Taylor iddo eu prynu yn onest, a Duckhouse ei fod yn rhoddi lie i'w cadw i Taylor. Nid yw yr heddlu yn credu stori yr un o'r ddau, ac y maent yn awr yn y carchar i aros eu prawf. Y MAE Signor Caruso wedi ei gyflogi am bedair noson i ganu yn Vienna, yn ol pum cant o bunau y noson. Mae yr holl eistedd- leoedd wedi eu gosod, er mai ar Hydref 6 y bydd yn dechreu y gyfres o nosweithiau. YR OEDD Mr. a Mrs. W'Namara, ar ea mordaith o Washington i Europe yn cario eu heirch gyda hwy a balm i eneinio y cyrph, fel na byddont yn cael eu claddu yn y dyfnder pe digwyddasent farw ar y mor. YR oedd gwerthwr myglys yn Caergrawnt wedi cuddio deugain punt yn y llestr ysgarthrio yn ei fasnachdy. Daeth y drol ysgarthion heibio, a gwaghawyd y llestr iddi. Cofiodd y dyn am yr amryfusedd cyn i'r oil gael ei taflu i'r dinystrydd ysgarthion sydd yn perthyn i'r lie. TAENIR y gair fod yr Anrhydeddus D. Lloyd George yn debyg o sefyll fel ymgeisydd dros Caerdydd. Ni raid dywedyd mai dyfais ddisail yw y chwedl hon, a gofalwya am ei thaenu pan yr oedd Mr. George oddicartref. DYDD Llun, bu farw Mr. John Owen, Dref- newydd. Yr oedd iddo air uchel fel gwawl- lunydd am haner can' mlynedd. Tynodd ddarlun o'r Arglwyddes Wynn pan dorodd y dywarchen gyntaf o Linell y Cambrian yn Groesoswallt, ac enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 gyda gwawl-luniau. GWERTHWYD chwe mil a haner o ddefaid yn arwerthiant flynyddol Kerry, Sir Drefaldwyn dydd Llun, a sylweddolodd 120 o Hyrddod y swm o £ 1,200. BODDODD William Jones, gwr priod o Sand Street, Pwllheli, wrth ddilyn. ei alwedigaeth gyda'r Harbwr newydd yn y lie, boreu Llun. YN Wrecsam y mae y Parch. J. R. Campbell y dyddiau hyn yn ceisio dysgu y bobl fod sosialiaeth am gymeryd lie crefydd Crist i ddyrchafu dynoliaeth, ac i wneyd trefn ar y byd Onid yw yn resyn gweled dyn fel Mr. Campbell yn cerdded ar draeth byw." DIRWYWYD porthmon moch o'r enw Wililam Henry Gosmore, o Great Broughton, Caer i bymtheg punt am gymeryd 44 o foch o Amlwch amgylch ogylch Caer, yn He myned a hwy ar eu hunion i Audlem lle'r oeddynt i fyned. CAFODD William Walker, cigydd, yn byw yn Ramsder Terrace, Bradford, ei ddirwyo ugain punt a'r costau am gadw ei fasnachdy i fetio. WRTH geisio amddiffyn eu hunain o flaen ynadon Llangollen yn ngwyneb cyhuddiad o feddwdod, dywedodd James Baker, cylch- werthwr ar ei ran ei hun a'i wraig fod cwrw Llangollen yn eu meddwi ar unwaith. Cymer- asant ychydig o gwrw y cynhauaf, a cheisiasant frysio am y tren, ond nid oedd modd symud. BRYDNAWN Sul, digwyddodd damwain ddifrifol i ddeurodwr o'r enw Mr. Berry, ymwelydd a'r Borth, ger Portmadog. Aeth i wrthdarawiad a cherbyd modur, a derbyniodd niweidiau difrifol i'w ben. Y mae mewn sefyllfa anobeithiol. Gweinyddwyd arno gan ddau feddyg, a bu farw mewn ychydig oriau. DEALLWN mai dal yn ddrwg iawn ac yn hollol anymwybodol y mae Mr. Biggs, yr ymwelwr a anafwyd yn namwain Cegin y Diafof ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Mae dan driniaeth yn Ysbytty Chwarel y Penrhyn. YN Llys Apel Wellington, New Zealand, cadarnhawyd dedfryd y Barnwr Cooper, i'r perwyl fod y dynion ar streic a wrthodasant dalu dirwy a osodwyd arnynt am gymeryd rhan mewn streic yn agored i gael eu car- charu, Drwy hyn gwelir fod gweithwyr New Zealand, drwy gymeryd rhan mewn stroic, yn troseddu yn erbyn dyfarniad y Llys Cyf- lafareddol. Os gwnant hyn, y maent yn agored i gael eu dirwyo; ac os na thalent, gellir eu hanfon i garchar am gyfnod heb fod dros fiwyddyn. DYDD Mawrth cafodd pobl Lerpwl a'r cylch eu gwahodd i'r ageriong Lusitania," perthynol i Gwmni Cunard. Aeth miloedd i'w gweled. Dydd Sadwrn diweddaf yr oedd yn cychwyn ar ei mordaith gyntaf—i Efrog Newydd. Bernir i ddeng mil o bobl fyned i'w gweled ddydd Mawrth. Nid yn unig y mae'r llestr vn un fawr, eitbr hefyd dodrefnwyd ei hystafelloedd eang yn orwych. Hi yw y fwyaf sydd yn uofio'r moroedd. DYVTEDIR fed yn mwriad Mr. Oscar Lf.rv-isohn,_ priod Edna May," i wneyd apel yr, erbyn dyfarniad Inadon Eastbourne, pa rai a oscdwvd dlrv.-y o (25 avno ddydd Gwener diweddaf, an; yn; ei Fodnr gyda chyflymdra perygius. V

I Damwain gyda Ffrwydron,…

I Myned i Cerbydres Lawn.…