Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Ysgoloriaethau Sir Ddinbych.

Methdaliad dau o Oruchwylwyr…

. Castell y Penrhyn ar Osoti.I

Cosb drom am Fygwth y Gyllell…

Colli ei hun ar y Mynydd.…

I - - N, -111,11o"- N/? Anghydwelediad…

--.v,- I Twyil T reihgasglydd.…

ER COF

Y GWYDYR, LLANRWST.

News
Cite
Share

Y GWYDYR, LLANRWST. CARTREF LLEN A CHAN. Palas hardd pa le sydd Ei lanach—mae'n ysblenydd! 0 mor hoff i mi yr hedd Geir yno mewn gwirionedd, Teilwng i Wynne a'r teulu Fu y lie—eu cartre cu Yno'n ddewr Syr John Wynne ddaeth Yn noddwr i lenyddiaeth. Yn y wlad ei oludoedd Roes i lu yn gu ar goedd, Hwn a'i swynol wasanaeth Yn wr dewr yn arwr daeth Ei enw mad i'r wlad fu'n wledd A'i nwyfiant yn dangnefedd. Plas lion ar ddyffryn Conwy Oddi mewn byth iddo mwy, Yno'n gu y Gwydyr ges Yr hynaf d'wed yr hanes O'r palasau geiniau gaf Yn y frodir hyfrydaf Mi ganaf am ei geinedd Diameu hwyl dyma hedd, Yr hen anedd gywreiniol Hwylio wnawn rhyw lu yn ol Yno i gyd i'r amser gynt Yr hwyliwn er ei helynt. Drwy y ddol hyfrydol fro Yn addas rhodiwn iddo, Man hoffusaf lanaf le, I A gwiriaf dyma'r gore' Dan y nef, a dyna ni Yn filoedd yn ei foli. Y noddwr mawr llenyddol 'Roes y nef i'r oes yn ol, 0 un farn gwnai Cymru fu Dy addas anrhydeddu. Hen frodor dy hyfrydwch Oedd codi'n plaid o'r llaid a'r llwch Y wlad fach lediai o'i fodd I fyny Cymru fynodd Aberthu i oes-rhoes hi'n rhydd I'w chenedl er ei chynydd, I anwyl wlad fy nhadau Ei awen glws ro'es yn glau; Gwr uniawn mewn gwirionedd Heno'n fud sydd yn ei fedd. Yn ei sedd mae bywiol swyn Gwir noddfa'r gwron addfwyn, Hardd adail o urdd ydyw Yna fyth yr hoffwn fyw, Lie mae blodau lysiau lu Ganoedd o'i gylch yn gwenu Mawr ei werth ble'n brydferthach Yn y byd, bobol bach. Ei wir ddelw arddelir Hwn i'r Bardd sai hardd yn hir Celfyddydau borau'r byd Ynddo ef a gawn hefyd. A methodd dawn gwyr Hawn Hid A darnio'i fawr gadernid, Ei gogoniant fyddant fyth A'r gofal yn dragyfyth. Yn y wlad gan eu tadau Ini'n glir o'r gallu'n glau, Dedwyddwch heddwch o hyd A genfydd ei deg wynfyd. Pur odiaeth fel paradwys Yw ei glan, glan geiriau glwys A'i deg emau dygymod Wna y byd rhagora'n bod, Y geilw ei thrigolion Y diail hardd adail hon Diameu anedd dymunaf Wenau'r Ion o rin yr haf, Haf rodle iach hyfrydlawn Yma i gyd diameu gawn. Yn y gwanwyn mor ganaidd k Yw ein bro heb ei hail braidd. 0 haf len be'n amgenach Yn y byd na'r blodau bach, Rhosynau gwenau gwynion Yno sydd a mawr y son. Yn y wlad ireiddiol wlith Yn gwnu'r meusydd gwenith Gwna'r wlad yn ail baradwys Yn y byd mae'n lie o bwys Ini bawb o swn y byd I ganfod ei deg wynfyd Pendefigion ddigon ddygir Yn ei hen aneddau'n hir, Do'i arfog Dywysogion Yn eu hwyl i'r anedd hon. Gwylient fuddianau Gwaiia A'i harfau noeth wr doeth da Yn y byd, ond heddyw'r bedd O'i rhodau mewn anrhydedd. Dyma fan fydd yn anwyl I ni gyd tra Sul a Gwyl, E' genir am ei gynydd A'i fawl gan Cymru fydd.

- - Rhyfeddodau yn SVSycS…

[No title]

I O'R PEDWAR CWR.

I Damwain gyda Ffrwydron,…

I Myned i Cerbydres Lawn.…