Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Heddlys B5aen.au Ffc^irrfog.…

-Lladrata Dillad yn y Penrhyn.I

LLANRWST. I

-1-?,,?l - 1-?11-1-11 .OAPEL…

[No title]

BETTWSYCOED. I

PENMACHNO.

News
Cite
Share

PENMACHNO. Cynhaliwyd Nodachfa ar raddfa eang ynglyn ag Eglwys Penmachno ddyddiau Iau, Gwener, a Sadwrn diweddaf. Yr oedd ddydd Iau braidd yn anffafriol, ond cafwyd tywydd dym- unol o hyny i'r diwedd. Trodd y Nodachfa allan yn hynod lwyddianus, yn enwedig pan gymerir i ystyriaeth hir-barhad marweidd-dra masnachol yr ardal. Agorwyd ddydd lau gan yr Anrhydeddus Mrs. Lloyd Mostyn, yr hon foneddiges a anwylodd ei hun i bawb trwy fyned o gwmpas a siarad yn Gymraeg gyda gwahanol bobl. Rhoddodd araeth Saesneg wrth ddechreu, a diolchwyd iddi yn garedig gan Arglwydd Esgob Bangor, yr hwn yn gar- edig ddaeth yr holl ffordd i'n cynorthwyo. Gyda Mrs. Lloyd Mostyn yr oedd ei mhab, Mr. Evan Lloyd Mostyn. Yr oedd Ann Hughes, Elusendy, wedi ymwisgo mewn hen wisg Gymreig yn ennyn dyddorbeb mawr y ddau.—Dydd Gwener agorwyd gan Mrs. Wynne-Finch, Voelas Hall, yr hon a ddaeth yr holi ffordd o Leyn yn ei motor. Gyda hi yr oedd Mr. a Mrs. George Bovill, Rhydycraeau. Ar ol ei chyflwyno gan y Rheithor, rhoddodd Mrs. Wynne-Finch araeth fer a hapus, yn dat- gan ei llawenydd o fod yn bresenol ac i wneyd yr oil a allai dros achos mor deilwng-Cynyg- iwyd diolchgarwch iddi gan Dr. Michael Wil- liams, yr hwn a sylwodd mor garedig oedd Mrs. Wynne-Finch mewn pob achos o gyfyng- der yn Pentrevoelas ac Ysbytty, a hyderai y cofiai o hyn allan am Penmachno.—Dydd Sadwrn agorwyd gan Dr. Michael Williams, yr hwn a draddododd araeth nodweddiadol yn diolch am yr anrhydedd osodwyd arno, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r anturiaeth. Yr oedd y Stalls yn benaf dan ofal y rhai can- lynol :—(1) Mrs. 13. Jones, Rheithordy; Miss H. E. Thomas, Eagles Hotel; Mrs. Davies, Police Station; a Miss Ella Jones yn ngofal y nifer fawr o Doliau. (2) Miss Myfi Williams, Mostyn Villa, Mrs. D. A. Hughes, School House, a Miriam Davies; (3) Miss Roberts, Glandwr, Mrs. Robert Lloyd, Bod Awel, Miss Vaughan Jones, Gorphwysfa; (4) Miss Roberts, Machno Hotel, Miss Hughes a Miss Winifred Hughes, Glasgwm Road, gyda cynorthwy Mrs. Margaret Roberts, Church View, Mrs. Ellen Jones, Glanrafon a Miss Mary Jones, Rectory; (5) Mr. W. G. Jones, Glandwr, John Richards, Caellwyd, Taliesyn Huges, School House. Yr oedd Stall y Sannau dan ofal Mrs Ann Hughes. Shooting Gallery dan ofal Mri. Edward Hughes, Willie Jones, School House, Robert Owen, Cwm Bran Tub, Howell Thomas a John Davies. Pull Away, Mri. W. Jones Hughes, Ralph Hughes, Hugh Parry Roberts ac Annie Jones. Cloak Room, Maggie Davies ac Ellen Jones, Gyda'r drysau gweJsom Mri. Richard Hughes, Glasgwm Road, H. O. Hughes, John Morris Roberts, Robert Lloyd, a Evan Jones. Yr Ysgrifenydd oedd Mr. D. A. Hughes, School House, gyda Mrs Jones, Rectory, yn Drysor- yddes. Yr ydym yn deall fod cyfanswm y derbyniadau dros ?130, yr hyn sydd yn datgan yn groeyw fod gweithio caled ac aberth mawr wedi cael ei wneyd.

[No title]

Cystadleuaeth y Seindyrf ynI,'…

j TALYBONT, DYFFRYN CONWY.I

[No title]

[No title]

-__-j O'R PEDVVAR CWR. j -…

v - PENRHYNDEUDRAETH. -

r V V V VVV V V VVVV V V VVVVV…