Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Heddlys B5aen.au Ffc^irrfog.…

-Lladrata Dillad yn y Penrhyn.I

LLANRWST. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANRWST. I TREFN Y MODDION SABBATHOL, Yr Eglwys Sefydlcdig, St. Mary.—10, Parch C. W. Davies. 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst,-10, Parch. J. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.-Parch. Morris Morgan, Abertawe. Heol Scotland—Parch. Yr Annibynwyr. Tahernacl-Parch. W. Cynwyd Williams. Ebenezer—Parch. D. S. Thomas, Towyn. Y Wesley aid. uc-ieb—Parch. W, Lloyd Davies, Penmachno. St. James (English Chapel).—Rev. A. F. Hubbard, Conway. Y Bedyddwyr. Penuel.—Parch. M. F. Wynne, Prestatyn. DYCHWELYD.—Da genym weled Mr. Hugh Wynne, mab Mr. George Wynne, yr Arolygydd Iechydol, yn edrych mor dda ar ei ddychweliad adref gyda'i long o Jamaica. Y mae yn dod yn mlaen yn rhagorol yn ei alwedigaeth, a dymunwn ei lwyddiant pellach. Y WESLEYAID.—Tymor y symudiadauydyw gyda gweinidogion y brodyr Wesleyaidd y dyddiau hyn. Y mae y Parch. Phillip Price wedi ein gadael, a'r Parch. Edward Davies wedi dod yma yn ei le o Penmachno a'r Parch. W. Lloyd Davies wedi dod i Penmachno o Talsarnau. Y Sabbath diweddaf bu y Parch. Evan Roberts, Harlech, mab Mr. William Roberrs, Maentwrog yma yn gwasanaethu, ac yr oedd ei weinidogaeth yn cael ei mawrhau. MEWN GWAELEDD.—Drwg genym ddeall fod yr henafgwr poblogaidd a chymeradwy, Mr. Hugh Pierce, Bod Ynyr yn bur wael er's rhai dyddiau. Eiddunwn iddo adferiad buan, a nawnddydd tawel. MARWOLAATH.—Wedi cryn nychdod a llesg- edd, farw Mr. Robert Wynn, cigydd, (George Street, gynt), yn y Tlodty, Awst 27, yn 76 mlwydd oed. Dangoswyd pob gofal a chared- igrwydd iddo gan y Meistr a'r Feistres tra bu yn y Ty. Yr oedd yn gymeradwy ac uchel ei barch gan ei holl gydnabod. YMADAEL.—G;m fod Mr. Frank Parry, Ysgrifenydd Gweithgar Cymdeithas Ddiwyll- iadol a Duwinyddol Horeb yn ymadael am Leeds, bu i'r Aelodau gvflwyno Rhodd hardd iddo ar ei waith yn rhoddi i fyny ei swydd fel Ysgrifenydd y Gymdeithas. Dilyned llwydd- iant ef lie bynag yr elo. LLWYDD GYDA MEL.—Llongyfarchwn yn gynes Mr. H. Berry, mab Mr. John Berry (ieu), ar ei waith yn enill 1 a 3 wobr gyda'i fel yn Arrldangosfa Talybont, ddydd Sadwrn. Hefyd cafodd wobrau yn Cartmel, Amwythig, a Chaer yr wythnos ddiweddaf. Mae ef a'i dad yn ad- nabyddus fel Gwenwynwyr trwy yr holl wlad. SEIBIANT.-Dychwelodd Mr. R. R. Owen, y Clerc poblogaidd i'r Cyngorau a Bwrdd y Gwarcheidwaid adref nos Wener o'r Ynys, Werdd. Y mae y daith wedi gwneyd lies dir- fawr iddo, ac aeth ef a Mr. John Roberts, Cadeirydd y Gwarcheidwaid i Gynhadledd y Tlodion ddydd Mawrth i Gorwen, fel cynrych- iolwyr y Bwrdd. HEDDLYSOEDD ARBENIG.—Dydd lau, o flaen Mri. O. Isgoed Jones, H. J. W. Watling, a W. J. Williams. Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd John Slackley a Joseph Elliott o fod yn feddw ac afreolus y noson cynt. Yr oedd y ddau mewn cysylltiad a'r gwaith yn Nolgarog, ac ymladd- ent a'u gilydd yn y dref.—Anfonwyd hwy i garchar am 14 niwrnod gyda llafur caled. Yr un Swyddog a gyhuddodd William Coleman, un o weithwyr Dolgarog, o fod yn feddw ac afreolus. Yr oedd ei iaith yn warthus.—Anfonwyd ef i garchar am 14 niwrnod gyda llafur caled. Dydd Mercher, o flaen Mri. W. T Williams a William Hughes, yr Heddgeidw, Jones a gyhuddodd John Gormas, llafurwr Glasgow o fod yn feddw y noson cynt. Addefodd y trosedd.—Dirwy 5/- a'r costau, neu 14 diwrnod o garchar. Dewisiodd fyned i garchar. Dydd Gwener, o flaen Mri. Edward Mills a William Hughes, yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd John Cox, llafurwr o Lerpwl, o fod yn feddw ac afreolus y noson flaen orol. Addefodd ei euogrwydd.—Dirwy 5/-a'r costau, neu 14 niwrnod o garchar. Aeth i garchar. Dydd Llun, o flaen Mri. Dr. Jones a L. W. Jelf Petit, yr Heddgeidwad Jones a gyhuddodd John Cain, llafurwr o Aberdeen, o fod yn feddw ac afreolus ar ffordd Talybont, Llanrwst. —Dirwy 10/-a'r costau, neu saith niwrnod o garchar. Aeth i garchar. Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd Thomas Wilson, llafurwr o Manchester, o fod yn feddw ac afreolus, ac o ymosod arno fel swyddog.—Tystiodd y swyddog ei fod wedi cymeryd y carcharor i fyny prydnawn Sadwrn am fod yn feddw ac afreolus yn y dref. Pan ar y ffordd i'r carchar daeth yn ymosodol iawn, a thynodd gyllell allan i geisio ei drywanu ef (y tyst).—Ystyriodd y Faingc yr achos mor ddi- frifol fel y gohirbvyd ef am wythnos er mwyn cael Maine lawn i'w wrandaw.

-1-?,,?l - 1-?11-1-11 .OAPEL…

[No title]

BETTWSYCOED. I

PENMACHNO.

[No title]

Cystadleuaeth y Seindyrf ynI,'…

j TALYBONT, DYFFRYN CONWY.I

[No title]

[No title]

-__-j O'R PEDVVAR CWR. j -…

v - PENRHYNDEUDRAETH. -

r V V V VVV V V VVVV V V VVVVV…