Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Undeb y Bedyddwyr.

--ARDDANGOSFA ARDDWROL.I DYFFRYN…

Advertising

CYNGOR - SIROL MEIRION.--

News
Cite
Share

CYNGOR SIROL MEIRION. Cynbaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor yn yr Adeiladau Sirol, Blaenau Ffestiniog, ddydd Mercher, Mr. Evan Jones, Arenig, yn y Gadair, a Mr. D. G. Jones,.Blaenau Ffestiniog, yn yr Is-gadair. Anfonodd Mr. David Edwards, Corwen, ei ymddiswyddiad i mewn, ac etholwyd Mr. Jon- athan Davies. Commerce House, Corwen, yn Henadur yn ei le, ac i lanw ei le ar y gwahanol Bwyllgorau. Wrth drafod adroddiad Pwyllgor y Prif- ffyrdd, bu i Mr. A. Osmond Williams, ein Haelod Seneddol, alw sylw at gyflwr gwarthus y ffyrdd rhwng Talsarnau ac Abermaw.—Mr. W. J. Williams (Trawsfynydd) a dywedodd fod y ffyrdd rhwng Tynant a'r Ganllwyd mewn cyflwr difrifol.—Mr. John Hughes (Llan) a ofynodd pa gyfrif ellid roddi dros fod arian yn cael eu talu ar argymelliad yr Arolygydd, ac eto y ffyrdd yn y cyflwr hollol anfoddhaol yr oeddynt ?-Yr Arolygydd, "Am y gwaith sydd yn cael ei wneyd y telir, ac nid am yr hyn sydd heb ei wneyd."—Mr. Morris R. Morris (Trawsfynydd) A oes arian yn cael eu dal am nad yw y ffyrdd yn cael eu cadw fel y dylent ?" -Yr Arolygydd, Y maent yn gosod cerrig ar y ffyrdd a thelir iddynt am hyny."—Mr. Osmond Williams, Ni ddylid talu iddynt am osod cerig tra y mae y ffosydd ar ochrau y ffyrdd heb eu glanhau talu arian yn ofer yw peth felly. Y mae y ffyrdd yn llawer iawn gwaeth nag oeddynt cyn i'r Cyngor eu cymeryd o dan ei gofal. 'Mr. G. H. Ellis, "ac eto yr ydym yn talu llawer iawn ychwaneg o arian i Y mae yn bryd edrych fod rhywbeth yn cael ei wneyd. Y mae cytundebrhyngom a'r contract- ors. A ydyw yncael ei gadw ?"—Yr Arolygydd, "Nag ydyw, yn llythrenol Syr."—Y Cadeirydd (wrth Mr. Vaughton, yr Arolygydd), "yr ydym yn edrych atoch chwi, ae yn eich dal chwi yn gyfrifol, i edrych fod y cytuudeb yn cael ei gario allan, a bod y ffyrdd yn cael eu gadw mewn cyflwr priodol. Bydded i chwi gymeryd sylw difrifol o bobpeth ddywedwyd yma heddyw. Ail etholwyd Mr. Osmond Williams, A.S., i gynrychioli y Cyngor ar Fwrdd Canolog Addysg. Pasiwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol yn dangos fod eisiau talu ;,C,9,968 19s llc, ar gyn- ygiad Mr. Haydn Jones. Pasiwyd adroddiad y Pwyllgor Addysg ar gynygiad Mr. W. P. Evans. Pasiwyd fod y tri aelod oedd yn cynrychioli y Cyngor ar Gyngor Coleg Aberystwyth i bar- hau yn eu swydd, a bod y Parch. John Owen, M.A., i'w ychwanegu atynt. Penodwyd yr Anrhydeddus Charles Wynn, Rug; W. Hughes Jones, Aberdyfi; a John Evans, Abermaw,; i gynrychioli y Cyngor ar Fwrdd Pysgodfeydd Morawl y GorUewinbarth. Pasiwyd i Yswirio y rhai oedd yn ngwasan- aeth y Gyngor gyda Cwmni y Law Union am £ 6 5s Oc y flwyddyn. Cymeradwywyd deisebu y Llywodraeth i ddeddfu nad oedd yr heddlu na'r galluoedd dinesig i wario heb fod o dan reolaeth y Cyngor, gan y dylai y rhai oeddynt yn codi yr arian feddu yr awdurdod dros eu gwario hefyd. Cymeradwywyd i ddeisebu i gael cadwraeth y Ffyrdd ar y dreth ymerodrol. Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Meddyg- ol (Dr. Richard Jones) i'r Cyngor, a chafwyd crynhodeb dyddorol o hono gan Dr. Jones. Mr. W. P. Evans a ddywedodd y buasai yn well pe wedi caei yr adroddiad nifer o ddyddiau cyn y Cyngor i'w ystyried.—Clerc, "Nidbai Dr. Jones yw ei fod yn ddiweddar, ond bai yr argraffydd. Mae yn eu llaw er mis Mehefiu." —Cadeirydd, "Newidiwch yr Argraffwyr ynte."—Dr. R. Roberts, fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechydol a ddywedodd na chafwyd cyfle i ystyried yr Adroddiad fel ag i gyflwyno argymellion i'r Cyngor.-Teir- yn anfodd- haol iawn am na chafwyd yr adroddiad yn' gynt, a phasiwyd i ofalu am ei gael yn brydlon y flwyddyn nesaf. Adroddai yr Is-bwyllgor fu'n ystyried y cais o gaal ffordd newydd ar Benycafn, rhwng gorsaf Trawsfynydd ar pentref. Argymellent i ofyn i'r Swyddfa Ryfel i gyfaanu tair rhan o bedair o'r gost o gael y tir a gwneyd y ffordd ar y deall na byddai y gost dros ^2,400. a bod y cynllun i fod yn ddarostyngedig i fod y tir at ei gwheyd yn cael ei/werthu am bris rhesymol Hefyd fod y Swyddfa ryfel i dalu tair ran o bedair o'r draul o'i chadw mewntrefn trabyddo yn cael ei defnyddio gan y giversyll yn Traws- fynydd.—Y Clerc a dywedodd nad oedd wedi cael atediad y Swyddfa Rhyfei, yn mhellach na bod ei lythyr wedi cael ei dderbyn.—Mr. G. H. Ellis a ofynodd beth oedd y pris a rodd- id ar y tir. Yr oedd yn hollol afresymol pasio i gyfranu at wneyd ffordd yn y lie heb gael rhyw ddeall am y sail ar ba un yr oeddid am weithredu. Mr. Morris R. Morris a ddywedodd iddynt yn Trawsfynydd fod yn siarad a'r ddau berch- enog tir, a tua dau swllt oedd y pris a gawsant. —Mr. Ellis, Dyma fo Canoedd o bunau am y tir. Yr wyf yn cynyg i'r mater fyned yn ol i'r Pwyllgor."—Mr. W. J. Williams a ofynodd a oedd y Clerc wedi gohebu a'r perchenogion. —Clerc, "Naddo. Ni chefais gyfarwyddyd i wneyd hyny."—Y Cadeirydd, mewn atebiad i Mr. W. P. Evans, a ddywedodd fod y £2,400 yn cynwys tal am y, tir.-Ar gyaygiad Mr. Moses Kellow pasiwyd argymelliad yr Is- bwyllgor. Y Parch. John Hughes a ofynodd a dderbyn- iwyd rhywbeth oddiwrth Gyngor Dinesig Ffestiniog yn nghylch Ffordd Tanygrisiau ac atebodd y Clerc na chlywodd ef ddim.

Advertising

I MINFFORDD.

ITRAWSFYNYDD.

Advertising

[ BLAENAU FFESTINIOG.