Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Rheolwyr Ysgol GaraolraciclolI…

Cyngor Dinesig Bettwsycoed.…

Heddlys Penrhyndeudraeth.…

TANYGRiSSAU 1

PWLLHELI.----------I

I-I- -'IN  rvvvvčridŠ;;;;d;IVVV1

Ysmaldod gyda'r " Limerick."…

Gwerthu Diod ar y Sul.I

1VVVVVVVi j Damwain Angeuol…

News
Cite
Share

1VVVVVVVi Damwain Angeuol yn y "Gegin." Prydnawn ddydd Sadwrn bu damwain arswydus yn "Ngegin y Cythraul" fel y gelwir yr hafn du sydd uwchlaw Llyn Idwal yn Ngwrdd uchaf Nant Ffrancon. Ymddengys fod dau ddyn ieuangc arhosent yn Fronheulog, Capel Curig, wedi myned i fyny am y Gegin gyda rhaff i'w canlyn. Yn ddiweddarach ar y prydnawn, aeth Dr. Scott, Brigton, yr hwn sydd yn aros yn y gymydogaeth, i fyny at y Gegin, ac er ei syndod a'i fraw gwelodd ddau ddyn ieuangc ar lawr yn nghanol y meini yn hollol lonydd. Canfu fod un o honynt wedi marw, a'rllallynanadluynwanaidd. Gwnaeth ei oreu o dan yr amgylchiadau. Dygwyd y truan oedd yn fyw i Ysbytty Chwarel Penrhyn, He y gweinyddwyd arno gan Dr. Mills Roberts a'r staff. Ymddengys fod pen ac arlais chwith y truan wedi eu hanafu yn dost, a phen ei lin wedi ei hollti. Enw y dyn hwn yw Brigg, a daw o'r Iwerddon. Ymwelodd ei fam a'r Ysbytty ddydd Sul, lie y gorwedda ei mhab mewn cyflwr peryglus, ac anwybodol. Enw y dyn gafwyd yn farw ydoedd, A. T. Reid, mab y Proff. Reid, o Caergrawnt, ac yr oedd yn ddeg a'r hugain. Pa fodd y bu'r ddamwain, ni ydys yn gallu ond dyfalu, a gellir tybio fod un o'r ddau yn myned o lfaen y llall i fyny y Gegin gan dynu ei gyfaill i'w ganlyn, a bod un wedi IIithro gan dynu y llall i w ganlyn. Yr oeddynt yn rhwym wrth eu gilydd gyda rhaff o ganol un am ganol y llall pan gafwyd hyd iddynt. Hon yw y bumed ddamwain gymerodd le yn y Gegin yn ystod yr haf presenol, a chollodd dau eu bywydau yn y fan a'r le. Ni ddylai neb dyeitbr ryfygu ceisio myned ifyny y Gegin, a gweithred o drugaredd fyddai gosod rhybudd i fyny yno gyda rhestr o'r damweiniau gym- erodd le yno ar gwr isaf y Gegin ac ar ei chwr uchaf. Y TRENGHOLIAD. Nos Lun, yn Ysbytty y Chwarel, bu Mr. Pentir Williams (crwner), yn cynal cwest ar gorph Reid. Gwasanaethai Mr. Owen Jones, High Street, Bethesda, fel blaenor y rheith- wyr. Tystiodd John Arnold White, masnachwr o Lerpwl, ac yn aros yn Mronheulog, Capel Cur- ig, ei fod yn adwaen y trancedig yn dda. Trig ai yn Lisborn, Caergrawnt, ac yr oedd yn fab I i'r Athro Reid, o Goleg Gains. Yr oedd y trancedig oddeutu 24 mlwydd oed, ac yr oedd wedi graddio yn B.A., yn 1905. Dydd Gwen- er, aeth tri allan i ddringo, ond dydd Sadwrn, aeth trancedig a chyfaill o'r enw Biggs allan yn unig, oddeutu deg yn y boreu ac oddeutu tri yn y prydnawn hysbyswyd hwy yn Nghapel Curig gan Mr. Glynn Williams, o Ysgol Friars, Bangor, fod damwain wedi digwydd. Yn ddi- oed aeth mab y tyst gyda dyn o'r enw Holmes allan i gyfeiriad y Gegin. o Wallsall, ei fod yn Tystiodd Mr. Hulton, o Wallsall, ei fod yn dringo yn y lie pryd y clywodd Biggs yn gwaeddi, ac o ganlyniad aeth ato. Yr oedd Biggs yn ymwybodol pan y gwelodd ef, ond yr oedd Reid wedi marw. Cafwyd gwasanaeth Dr. Scott, a oedd yn pysgota yn Llyn Ogwen, ac onibai am hyny diau y buasai Biggs yntau hefyd wedi marw. Torodd y tyst y rhaff oedd am dano fel ac i'w ryddhau oddiwrth y tranc- edig. Dangosodd y Rhingyll Rowlands, Bethesda, oriawr y trancedig, oedd wedi ei malurio, ac hefyd bwrs yn cynwys £ 3 15s, a godwyd i fyny gan was ffarm. Dywedodd y Crwner fod yr achos yn un difrifol iawn, ac nis gwyddai ef pa amcan a gyrhaeddid trwy ddringo y lie. Diolchodd i Dr. a Mrs. Mills Roberts am eu caredigrwydd at Biggs, a giudwyd i'r ysbyty, ac hefyd i Dr. Scott ac ereill. Bwriwyd rheithfarn 'o "Farwolaeth Ödam- weiuiol," a chymdeimlwyd a'r teulu. Mae Mr. Biggs yn gwella yn foddhaol, er ei fod wedi ei niweidio yn dost.

..-1>..tI:o& I'''''''' 1!''"'''f',!\,'…

" LOCK-UP."

ER SERCHOG GOF

Advertising