Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG. )

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. ) ARDDANGOSFA LLANGOLLEN.—Dymunir i Gystadleuwyr gofio fod yr Entries yn yr Adran Amaethyddol yn cau yr wythnos hon, ac yn Adran y Cvm a'r Ednod yr wythnos nesaf. EISTEDDFODOL.—Llongyfarahwn ein cyfaill cyfaill talentog Mr. D. R. Jonef, ar ei lwydd- iant yn cipio y wobr yn yr eisteddfod Gened- laethol gyda'i Draethawd ar "JohnPenri;" Testyn i'r dim at ei chwaeth. Disgwyliwn yn awchus am gael darllen y Traethawd.-Hefyd. yr oedd y Bardd Cadeiriol Bryfdir wedi anfon dau gyfansoddiad i mevra, y naill a'r Fyfyr- draeth a'r Hall a'r Bryddest-goffa i Hwfa Mon. Enillwyd y ddwy wobr gan y Parch. Ben Davies, a Bryfdir yn ail ar y naili a'r Hall. Llongyfarchwn yntau ar y ganmoliaeth uchel a gafodd i'w ddau gyfansoddiad, er na chafodd y fuddugoliaeth y tro hwn. SALE.—Dymunwn alw sylw at y Sale sydd gan Mr. John Davies ddydd Sadwrn nesaf ar ddodrefn o'r fath oreu yn nhy Mr. David Roberts, Pantllwyd, Ffestiniog. Cyfle campus i gael dodrefn da. YMFUDO.—Heddyw (dydd Iau), bydd y cyf- eillion canlynol yn myned am America, a bwriadant sefydlu yn Utica: 'Mrs. Ted Lloyd; Mr. R. O. Davies, Bethania; a Mr. Griffith Morris Williams a'i deulu, 1, Manod Road Thomas Jones, 13, Tan'rallt Terrace, a Wil- liam Owen, Trefeini. TREN RHAD.—Tri o'r gloch, boreu ddydd Llun, bydd tren rhad yn cychwyn am Man- chester, a'r pris o'r Blaenau a Dolwyddelen fydd 5/ ac o'r Bettws iGlanconwy 4/9. Bydd ugain o Seindyrf yn cystadlu am y gwobrau o /350, a Her-gwpan baner can' gini, ar ddatgan "Robin Hood (Macfarren), wedi ei drefnu yn arbenig at y gystadleuaeth hon gan Lieut. Charles Godfrey, ac ni chafodd y Seindyrf ond chwech wythnos i'w ddysgu. Dyma enwau y Seindyrf sydd wedi eu dethol i gystadlu:— Wingates Temperance (Westhoughton) Good- shaw (near Rawtenstall); Irwell Springs (Bacup) Luton Red Cross; Hebden Bridge; Shaw (near Oldham) Pemberton Old Lind- ley; Royal Oakeley (Blaenau Festiniog) Crossfield's Soap Works (Warrington) Black Dike (Queensbury); Wyke Rochdale Public Batley Old; Kettering Rifle; Linthwaite; Pendleton Old; Cossage's Soap Works (Widnes); Northfield (near Birmingham) Lea Mills (Matlock). Dymunwn yn dda i'r Royal Oakeley yn y gystadleuaeth hon eto. SALES.—Dymunwn alw sylw y cyhoedd at y ddwy Auction bwysig sydd gan Mr. George Hughes ddydd Sadwrn nesaf, Awst 31, sef Caeclyd am 1-30 p.m., a 5, Tanymanod Terrace, am 4-30 p.m. Cyfle rhagorol am bob math o ddodrefn. MARWOLAETH Y PARCH. T. T, HUGHES (B) .-Gyda gofid dwys yr ydym yn croniclc am farwolaeth y gweinidog galluog a hyawdl, y Parch. Thomas Tower Hughes (Chronos), gweinidog y Bedyddwyr yn Mountain Ash, yr hon a gymerodd le ddydd Mercher yn Caer- fyrddin. Bu ei yrfa yn un nodedig o lwydd- ianus, a chofir yn dda am dano yn weinidog yn Calfaria, yr hon oedd yr Eglwys gyntaf i weinidogaethu iddo. Gweithiodd yn rhy galed i'w nerth. corphorol, a torwyd ef i lawr yn nghanol ei ddyddiau.

BETTWSYCOED.

Advertising

Family Notices

Advertising

II T rawsfynydd.I

Advertising