Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

!, aY"oLrau athrawon YsgollonI…

I ?RFOD YMADAWOL Y PARCH .,.,…

-VWVVVVVVV "V V VTVVVVWWWWW…

Family Notices

Ymweliad y Royal Oakeley SilverI…

I NODION O'R CYLCH.

News
Cite
Share

I NODION O'R CYLCH. YR oedd Arwest Farddonol Glangeirionydd eleni yn un ddymunol ar lawer o gyfrifon, er fod Gwilym Cowlyd yn absenol o ran ei gorph. credwn fod ei ysprydiaeth yno, os nad ei yspryd. Collwyd llawer iawn gormod o amser gyda'r Ilythyrau basiodd rhwng Dr. Gibson ac Isgoed yn nglyn a cbael derbyniad yn aelod o'r Frawdoliaeth. Yr oeddid wedi myned drwy y cyfan yn y pwyllgor, a buasai crybwylliad syml o'r ffaith yn ddigon. Nid oedd grym o gwbl yn y Pellebyr anfonodd Isgoed i Arweinydd yr Eisteddfod Genedlaethol, gan na wyddai vr Arwestwyr ddim am dano hyd nes yr hysbys- wyd hwy ei fod wedi ei anfon pe am anfon buasent yn gwneyd hyny yn Gymraeg fel yr arbedasid y drafferth i'r Manchester Guardian feirniadu Seisneg diffygiol y pellybr. Os anfon pellebyr o gwbl dylasai fod yn enw Prif-fardd ac Arwydd-fardd yr Orsedd. Bid a fo, mae yn rhy ddiweddar i gwyno yn awr ar ol i'r afryf- usedd dctigwydd. WRTH son am yr Arwest, da genym ddeall y bydd i Dlysau Barddas gael eu badfer yn yr Orsedd nesaf Tlws y Gadair, Tlws y Delyn, a Thhvs y Tafod Arian. Gwneir y Testynau yn Viv^hvc mown q o O'I"'Ic."t'\rI; u W t""J-, » Õ'V.JVU.l.4 j OGIJFUNAU UICWU trefn at y dyfodol. Ni olygir yr Arwest fel gwrth-ymgeisydd i'r Eisteddfod Genedlaethol e modd yn y byd ond yn hytrach fel ysgd?i egluro cyfrinion a Defion Barddas yn Ngorsedd. Cynhelir yr Orsedd yn hollol yn ei dull cynhwynol heb ymhoni diwygio dim arni, gan nad oes diwygio arni amgen na'i chadw yn ei phurdeb a'i symledd hanfodol ei hun. DYLAI amaethwyr Trawsfynydd gymeryd sylw o'r dyfarniad am iawn a wnaed i fferm- wyr Swydd Surrey golledion honedig yn dilyn yr ymarferiadau milwrol yn y Sir hono. Eu dadl oedd fod syniadau y milwyr a'r saethu yn eu gorfodi i gadw y defaid a'r wyn o dan gysgod a bod hyny yn golygu lleihad mawr yn ngwerth y stoc. Penderfynwyd eu hachos trwy gyflafareddiad, a dyfarnwyd iawn i'r amaethwyr am eu colled. Gwyddis fod yr ymarferiadau milwrol yn Nhrawsfynydd yn peri llawer o drafferth a cholled, ac ni ddylai y rhai y perthyn iddynt orphwys heb gael ym- chwiliad i'w achos a chael eu digolledu. Yr wythnos hon y mae y cylch yn cael colled am ddau o'i gweinidogion-y naill a'r llall yn wyr cedyrn a chyflawn o bwyll a doethineb, Cyfeirio yr ydym at y Parch. Philip Price, gweinidog y Wesleyaid, yn Llanrwst, a'r Parch, Moses Roberts, gweinidog y Bedyddwyr, Seion, Blaenau Ffestiniog. Bu Mr. Roberts gyda ni am dros bedair-blynedd-ar ddeg, ac ymdaflodd i fywyd cyhoeddus y lie i'r graddau y mae yn weddus i weinidog yr efengyl wneyd hyny, a phob amser gydag yni ac unplygrwydd nad ellid lai na'i edmygu. Colled fawr i ni yw ei symudiad, a mynegiad o hyny oedd y cyfarfod nos Fawrth. Bu Mr. Price hefyd yn wr o gyngor a gwasanaeth yn nhref Llanrwst, ond gyda phregethu ac anerch cynulliadau crefydd- ol yr amlygodd ef ei hun yn benaf. Bydd gwagle ar ei ol yn y cylchoedd hyny. Yr ydym yn cyduno a'n holl garedigion yn y cylch i ddymuno iddynt hwy a'u teuluoedd bob bendith yn eu lleoedd newyddion. YN Nghyngor Geirionydd ddydd Mawrth, codwyd mater trwsio y Ffyrdd i sylw mewn canlyniad i lythyr oddiwrth Mr. Norman Ellis, yr hwn sydd wedi prynu Anedd-dy-Coed godwyd ar lan Llyn William, Pontypant. Fel y gwyr y sawl sydd yn pasio y lie, y mae Mr. Ellis yn prydferthu y llecyn lie saif ei Anedd arno, trwy ei droi a'i drin i fod yn bleser-Ianerch i dyfu blodau a phlanigion, Cafodd amryw waith am wythnosau i wneyd yr olwg geir ar y lie yn awr mor wahanol i'r hyn ydoedd gynt ond nid hyny yw y pwngc i'w ystyried pan y mae arian y cyboedd yn dod o dan ystyriaeth. Yr oedd yr hen ffordd basia y lie yno ugeiniau o fiynyddoedd cyn i Mr. Norman Ellis weled y lie. Pwy oedd yn ei hadgymeirio ar hyd y blynyddoedd hyny ? Pa nifer sydd yn ei defnyddio yn awr ? Gwelsom y lie y dydd o'r blaen, a dylai rhai o Aelodau y Cyngor ei weled; aelodau wyddai am y lie o flaen dydd- iau Mr. Norman Ellis a'r Parch. J. Llewelyn Richards. A wyr Mr. Richards am y traws- feddianiad pwysig ar eiddo y cyhoedd yn y lie dan sylw edrychai i'r mater cyn dadleu y tro nesaf yn y Cyngor. Cynrychioli y phvyf y mae yr aelodan o Dolwyddelen ac nid neb na dim arall. Nid gweddus ynom fyddai gadael buddugol- iaethau cyfeillion y cylch hwn yn Eisteddfod fawr Abertawe fyned heibio heb i ni longyfarch y cyfryw yn y modd mwyaf calonog a diffaant. Yr oedd y fuddugoliaeth a gafodd Seindorf Frenbinol Oakeley yn un nodedig o bwysig, nid yn unig ar gyfrif nifer y Seindyrf a gystadleu- ent, ond befyd ar gyfrif safle y rhai hyny. Yr oedd Seindyrf blaenaf y De yn y gystadleuaeth hon, ac o dan reolau Cymdeithas Seindyrf y De y cystadleuid. Yn mhellach, bu i'r Pwyll- gor weithredu yn hollol afreolaidd yn ein tyb ni, trwy newid y dernyn cystadleuol ar fin y gystadleuaeth, a hyny ar gais Semdyrf y De, am d dernyn arall, yr oedd.un ohonyntwedi bod yn fuddugol arno dair gwaith yn flaenorol. 0 dan yr amgylchiadau hyn. gallwn ar dir teg ymffrostio yn ein Seindorf fel yr oreu yn Nghymru benbaladr. Hir y parhaont i gadw y safle hono. Hefyd yr ydym yn llon- gyfarch Mr. D. R. Jones, Rhiw, ar ei fuddug- oliaeth gyda'i draethawd ar John Penri a Mr. D. D. Parry, Llanrwst ar ei fuddugoliaeth gyda'r ddau brif ddarn cerddorol,- a chvda Deuawd: enillodd £ 23 2s 6c a Thlws Aur gwerth [5. Llwydd etc a ddilyno bob un o honynt.

Family Notices