Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

!, aY"oLrau athrawon YsgollonI…

I ?RFOD YMADAWOL Y PARCH .,.,…

-VWVVVVVVV "V V VTVVVVWWWWW…

News
Cite
Share

-VWVVVVVVV "V V VTVVVVWWWWW Damwain Angenol 1 Ddyn o Pen-I machno yn America. Prydnawn dydd Gwener, Awst 2il, cyfarfu Richard L. Hughes, peirianydd, a'i ddiwedd trwy gael ei falurio gan olwyn yn argraphdy McDonald, Cincinatti. Genedigol ydoedd o Benmachno; ond aeth i America yn lied ieuanc, a daeth yn beirianydd cywrain. Ystyrid ef yn un o'r rhai goreu yn y ddinas. Trwy ei fod yn 73 mlwydd oed, yr oedd wedi ymneillduo oddiwrth waith rheolaidd ac yn byw yn ham- ddenol yn yr Indiana Hotel; ond yn absenol- deb William F. PLillipsar ei seibiant yn Oak Hill, O., aeth i Ian w ei le, a gwnaeth yn ar- dderchog am bron vythnos, Pa fodd bynag wrth roddi olew a,r y peiriant, cipiwyd ef gan y flywheel anferthol, a drylliwyd ef yn ddarnau. Bu Hughes yn ddyn diwyd ar hyd ei oes, ac wedi paratoi ar gyfer diwrnod gwlawog. Yr oedd nid yn unig yn beirianwr da ei hun, ond gwnaeth lawer er hyfforddi ereill.

Family Notices

Ymweliad y Royal Oakeley SilverI…

I NODION O'R CYLCH.

Family Notices