Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

I -I-At - ein Gohebwyr.I

INODIADAU WYTHNOSOL I

News
Cite
Share

I NODIADAU WYTHNOSOL I Diwedd y Senedd-dymor. I Ddoe, ddydd Mercher, daeth diwedd y Senedd-dymor, ac ymwasgarodd aelodau Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi am rai misoedd. Er fod yr Wrthblaid yn Nhy'r Cyffredin wedi arfer ei gallu hyd yr eithaf i dreulio amser yn ofer gyda'r unig amcan o rwystro'r Llywodraeth rhag gwneyd ygwaith yr oedd hi wedi rhoddi ei llaw iddo a'r wlad yn galw am dano, ac er fod Ty yr Arglwyddi wedi gwneyd yn ofer gryn lawer o waith Cynrychiolwyr y Bobl, mae mwy na haner cant o gyfreithiau newyddion wedi eu gosod ar ddeddf-lyfr y -v lad. Mae'n wir mae cyd- marol ddibwys ydyw y rhan fwyaf o honynt, ond y mae nid ychydig o honynt yn gyf- reithiau trwy weinyddiad y rhai y daw, fel y Credwn, fantais a budd sylweddol iawn i'r deyrnas. Dau fesur o bwysigrwydd eith- riadol i fasnach y deyrnas ydyw'r Mesur Llongwriaeth a'r Mesur Breintiol, y naill a'r llall o'r rhai a aethant drwy Dy'r Cyffredin dan ofal Mr. Lloyd George. Gwnaeth ef ei waith gyda medrusrwydd a gydnabyddir nid gan ei gyfeillion Rhyddfrydol yn unig ond gan ei wrthwynebwyr Toriaidd hefyd, yn ac oddiallan i Dy'r Cyffredin. Cafwyd y gwr y mynai rhai edrych arnofel dyn eithafol, yn rhagori mewn gallu ymosodol ond yn ddi- ffygiol mewn pwyll a chyngor, yn barod i wrando ar reswm gan bwy bynag y'i traeth- id ac i dderbyn awgrymiadau a gwerth ynddynt o ba le bynag y deuant. Y canlyn- iad ydyw ei fod wedi cadarnhau ei nerth yn fawr yn y senedd ac y cydnabyddir ar bob Haw na fu ei gyffelyb fel Llywydd Bwrdd Masnach yn ngof neb sydd yn fyw. Safai yn rheng flaenaf gwleidyddwyr o'r blaen; yn awr y mae trwy gydsydiad cyffredinol yn sefyl) yn uchel ymhlith gwladweinyddion y dydd. 0 herwydd hyn mae gan Gymru gyfan achos i lawenychu. Mae Mr. Haldane yntau wedi dyfod i fyny a disgwyliadau penaf ei edmygwyr. Nid ydym am gymer- yd arnom ein bod yn deall Mesnr y Fyddin a ddygwyd ganddo gerbron y Senedd. Ychydig iawn o aelodau'r Senedd oedd yn deall-y rhaijhyny ag y mae neu y bu cys- ylltiad rhyngddynt a'r fyddin. Ond yr oedd yn hollol amlwg fod Mr. Haldane wedi cym- eryd traffcrth fawr i'w ddeall drwyddo draw a'l fod wedi meistroli ei fanylion lleiaf. Dangoswyd hyn gan ei barodrwydd hynod i ateb pa gwestiwn bynag a ofynid iddo a chan y rhwyddineb gyda'r hwn y troai y byrddau ar ei feirniaid. Yn wir, y gwyn a ddygir yn ei erbyn gan rai ydyw ei fod yn gwybod gor- mod. Gwnaeth Mr. Asquith waith rhagorol efo'i gyllideb-gwell gwaitbnag a ddisgwyliai neb iddo ei wneyd yn yr amgylchiadau yr oedd ynddynt. Gellir bwrw, er hyny, nad yw y gwaith da y mae wedi ei wneyd yn ddim amgen na pharotoad ar gyfer gwaith gwell a wna y flwyddyn nesaf. Y mae ei allu tu hwnt i bob amheuaeth heblaw hyny, mae ganddo uchelgais a bair iddo drethu'r gallu hwnw hyd yr eithaf er mwyn rhagori fel Canghellydd y Trysorlys. Yn ngwyneb y ffaith fod Syr Henry Campbell-Bannerman yn myn'd yn henafgwr ymhlith gwyr," bydd yn rhaid wrth Olynydd iddo fel ar- weinydd Ty'r Cyffredin, ac y mae Mr. Asquith yn gyflym iawn yn cymhwyso'i hun i gymeryd y lie hwnw. Teimla Cymru ddyddordeb neillduol yn Mr. Reginald Mc Kenna, Llywydd B\v;dd Addysg,ac y mae ei Uvyddiant hyd yn hyn yn foddhaol hollol. Mae'n deall ei waith yn dda mae'n barod, iawn mewn dadl ac ) n gleddyfwr nad gwiw I i'w wrthwynebydd ei ddiystyru. Ei beryg! ydyw bod yn rhy ymosodol. Tuedda ei ddull o ateb rhai cwestiynau a roddir iddo i gyffroi yspryd ei holwyr ac i chwervvi eu teimladau tuag ato. Rhaid iddo gadw gwyl- iadwriaeth arno ei hun yn y peth yma os myn fod yn wir lwyddianus fel un o Weini- dogion v Goron. Da y gwna i ddysgu oddi- wrth Mr. Lloyd-George. O'r tu allan i'r Cyfringylch y gwr mwyaf amlwg ydyw Mr. Winston Churchill. Trwy weithgarwch a medr, mae'n gwneyd yr hyn a wnaeth Mr. Chamberlain o'i flaen-yn cadw Swyddfa'r Trefedigaethau yn y golwg. Arglwydd Elgin ydyw Ysgrifenydd y Trefedigaethau, ond y mae yn sefyll megis yn nghysgod yr Is-ysgrifenydd Mr. Winston Churchill sydd yn y golwg. Yn ddiweddar gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin-Gyngor gellir cymeryd fel awgrym y chwanegir ef at y Cyfringylch (Cabinet) gynted ag y bydd hyny yn bosibl. Hyfryd yw deall fod Syr Henry Campbell- Bannerman yn llawn gymaint ei ddylanwad a'i fod mor gymeradwy a hoff gan ei blaid ar ddiwedd ag ydoedd ar ddechreu y Senedd- dymor. Ni ellir dywedyd mwy na hyn. Mae'r blaid yn credu ynddo a'i holl galon teimladau agos bob un o'i haelodau ymlyn- iad personol wrtho. Nis gall ei wrthwyneb- wyr ei gasau, ond y maent yn gorfod ei ofni. .4811.-

Gwrthod -Dau -a -derbyn Dau.

Mr. John Redmond yn Bygwth.I

Etholiati Bury St. Edmunds.-

IPriodas a Chwaer-ynnghyfraith.I…