Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

ENILLWYR YR EISTEDDFOD I GENEDLAETHOL.…

I Damwain i Frodor o'r BlaenauI…

'"."Owmni Chwareli Cymreig-,…

Qwers i Gerbydwyr.I

Advertising

Damwain ErchyEI i Motor Char-a-banc.

Cloi y Gweinidog a Lladratta…

'-'TI Atal Gweithwyr Gwaith…

Ymweliad y Band a Tonypandy.I

!HARLECH.I

PENRHYNDEUDRAETH.I

Advertising

O'R PEDWAR CWR.

News
Cite
Share

O'R PEDWAR CWR. YN hwyr nos Wener cafwyd hyd i gorph William Davies, yr hwn a foddodd yn y Porth, Caernarfon, ddydd Iqu, trwy i'w gwch droi. FEL yr oedd y trcn cyflym o Glasgow yn neshau at Preston, boreu ddydd Gwener, bu i ddynes o'r enw Louisa Steadman dynu y llinyn defnyddir mewn achos o berygl i atal y tren. Pan awd ati, caed ei bod o'i phwyll, a chymer- odd yr awdurdodau ei gofal. WRTH olwyno ar Allt y Graig, ger Castell Dysertb, collodd un o'r enw Brammar, o Stoke-on-Trent, reolaeth ar ei beiriant, a thaflwyd ef yn erbyn mur y castell. Gorwedda yn awr mewn cyflwr peryglus, gan ysgydwad yr ymenydd, yn Ysbytty y Rhyl. Y MAE Ty yr Arglwyddi wedi cydsynio a'r awgrym o Dy'r Cyffredin y gall Merched gael eu hethol yn Faerod, ac yn Gadeirwyr Cyngor- au Sirol, ond nad ydynt yn rhinwedd y swyddi hyny i ddod yn Ynadon. CYMERODD Etholiad Bury St. Edmunds, le ddydd Sadwrn, i lenwi sedd Cadben F. W. E. Hervey, Undebwr, yr hwn a gafodd 434 o fwyafrif ar Mr. W. B. Yates, Rhyddfrydwr, yn yr Etholiad Cyffredinol. Daeth Mr. Yates allan yn erbyn yr Anrhydeddus W. Guinness, Uudebwr; ond cadwyd y sedd gyda mwyafrif o 890. DAETH dyn dyeithr i westy yn Oldham, ac archodd ystafell wely yno. Wrth fwyta swper, glynodd darn o gig yn ei wddf, a bu farw cyn i'r meddyg allu cyraedd. Cafwyd swm o arian yn ei logell, a'r enw Joseph Hawksworth, Hartford, Connecticut, U.S.A." ANFONWYD un Abraham Lassam, cylch- werthwr o Lundain, i sefyll ei brawf ar y cy- huddiad 0 dwyllo trwy werthu modrwyau pres yn enw rhai aur, a dywedyd ei fod yn trafaelio dros Mri. Samuel, Manchester. Morwyn a gwas a brynodd y Modrwyau ganddo. MEWN trengholiad gynhaliwyd ddydd Sadwrn yn Caister, dychwelwyd rheithfarn o o "Cafwyd wedi boddi," ar gorph Sarah Sophia Pike, merch y diweddar Filwriad William Pike, Cyn-faer, Abertawe. Gwelwyd hi yn cerdded y traeth prydnawn ddydd Gwener, a chodwyd ei chorph o'r mor yn mhen tuag awr ar ol hyny. Y MAE y Cadben Bailey, Lerpwl, o Fyddin yr Iachawdwriaeth, wedi troi i'r Neuadd Ger- ddorol. Dadleua nad oeddei dalent gerddorol yn cael digon o gefnogaeth gan y Fyddin, ac nad oes anuwioldeb fel y siaredir tu ol i lwyfan y chwareudai. Yn 1890 yr unodd a'r Fyddin, a tbeithiodd lawer gyda'r cyfryw, nes enill y safle yr oedd ynddi yn bresenol. GADAWODD Mrs. Ellen Hotham, 18, St. James' Street, Piccadilly, gwraig y diweddar Major Hotham, £ 32,126 at ddau Sefydliad Pabyddol. CAFODD Cangen Mon o Gymdeithas y Diwydianau Cymreig gyfarfod tra llwyddianus yn Parciau ddydd Sadwrn o dan lywyddiaeth yr Arglwyddes Boston. Yr oedd amryw Urdd- asolion yn bresenol, a rhanwyd gwobrwyon am waith cartref i lu o ymgeiswyr. Bu i gath arddangosfa o eiddo boneddiges yn Washington lyngcu modrwydiamwnt. Awd a hi at Law-feddyg, a IIwyddwyd i gael y fodrwy heb ladd y gath. Y MAE y Parch. J. N. Philpott, Rheithior Southchurch, Essex, wedi cael trwydded gan y Cyngor trefol i werthu llaeth yn ei reithordy. YR oedd canwr crwydrol yn cael ei ddirwyo am feddwi yn Nelson ddydd Sadwrn, a ddadleu- ai nad oedd vn pwnevn dim niwpd-Vr TJprurl- ur Greenwood, Nid yw yn bosibl i chwi feddwi a pheidio gwneyd niwed."—Carcharor, "Y mae Mr. Plowden yn dywedyd ei bod yn naturiol i feddwi. Yr wyf wedi colli fy chwi- banogl geiniog, neu buaswn yn gallu enill 0 saith i wyth swllt yr wythnos." DIRWYWYD crydd o'r enw Hatton, gadwai fasnach ar gyfer gorsaf yr Heddlu yn Kenning- ton, i haner can' punt a'r costau am gadw ei le i gyngwystlo. Y MAE un Blecha, yn y ddalfa am lofrudd- iaeth a lladrad yn Vienna. Y mae wedi gwrth od cymeryd tamaid na llymaid er's dros wyth- nos. Y mae yn gymeriad peryglus a dygir ef i'r Llys mewn cage. Bu i fachgen daflu ei gap o flaen Olwynfarch yn y Wyddgrug ddydd Llun, ac aeth y cap i'r olwyn blaen. Disgynodd y marchogwr ar ei ben, a derbyniodd niweidiau difrifol, a thorwyd y peiriant yn ddau. Y MAE cynwys ewyllys y diweddar Mr David William Davies, cyn-berchenog Y Genedl Gymreig" wedi ei gwneyd yn hysbys. Yr oedd ei eiddo yn werth £ 7,602, a gadawodd ugain punt yr un i amryw sefydliadau crefydd- ol a dyngarol. LLADDWYD geneth chwe' mlwydd oed, o'r enw Hilda Hewitt, merch i signalman, ar y South Eastern, dydd Sadwrn, o dan amgylch- iadau calonrwygol i'r tad. Yr oedd tren cyflym yn dyfod i lawr y llinell. Gwelodd y tad berygl ei blentyn, a chan nad allai adael ei le heb beryglu y tren, gwaeddodd ei oreu ar yr un fach o ffenestr y signal-box. Ond ni chlywyd ei waeddiadau, a gwelodd yntau yr express yn cipio y plentyn i fyny ac yn ei mhalu yn ddarnau. BODDODD dau ddyn ieuainc, James Herbert Law, Blackpool, a Herbert Street, Rochdale, y ddau yn ugain oed, yn Blackpool ddydd Llun. Yr oedd-y ddau yn gyfeillion mynwesol, ac wedi myned allan i ymdrochi. Boddodd tri o Stourbridge yn yr un lie ychy" dig ddvddiau i yn flaenorol. i GOFYNAI barfwr gochelgar i'r Faingc yn Heddlys y Dafwys, dydd Llun, a oedd yn drosedd o dan Ddeddf Llwgrwobrwyaeth, os byddai iddo roddi tegan i blentyn i'w gadw yn llonydd tra y byddai ef yn tori ei wailt Yr oedd yn rhyddhad iddo ddeall y gallai wneyd hyny heb beryglu ei hun. DYMA benili Taldir, y bared Llydewig, yn ei dafodiaith ei hun :— Gorsedd Barzed Cymru, bro lawen 2wen ha mad, Da zoludi hanout, zo dent ugent Brelzad, Hag ar gwad en hon 'chalon a lam gant lawenez 0 weled pobl Cymru, ken nerzus vid e iez, DYMA fel yr anerchodd Elfyn, yr hwn fel y gwyddis oedd yn un o brif feirniaid Eisteddfod Abertawe, un o gyfarfodydd yr Orsedd :— "Hyd ein hoes newid y nen,—newid gwn. Newid gwedd daearen Ond i newid hoen awen Ymarhous yw Cymru Wen." YMDDANGOSODD y penillion teirnladwv a ganlyn ar Hen Aelwyd glyd fy Mam," yn y Drych. Eu hawdwr yw Mr. Owen Williams (Eos Gwynant), gynt Nantgwynant, Beddgel- ert, a brawd Mrs. John M. Jones, Alon House, Blaenau Ffestiniog. 'Rwy'n cofio'r boren hwnw, Cychwynais inau'n lion, Drwy awel oer yr hydref A'm gwyneb tua'r don Gadewais hen gyfeillion Pur, anwyl a dinam, Ond gofid im' oedd gadael Hen aelwyd glyd fy mam. Hi yw yr aelwyd anwyl A'm cododd i mor iach I ganu'n nghor y teulu Pan oeddwn blentyn bach; Yn blant 'roedd saith 0 honom, Y rhai na chawsant gam, Cerddoriaeth dlos a lanwai Hen aelwyd glyd fy mam. 'Rwy'n cofio'r boreu hwnw, Pan gollais 'nhad oedd gu, A'i roddi yn y beddrod Yn nhol y fynwent ddu Ni fu yr aelwyd bellach Yn gyflawn, dyna'r pam Ond angau dorodd ymaith Hen aelwyd glyd fy mam. Mae plant yr aelwyd heddyw Ar wasgar hyd y byd Y rhai ni ddeuant mwyach I'r aelwyd hoff ynnghyd Gwirionedd 'rwy'n ei garu, Mae ynwyf fel y fflam, Fod Barnwr mawr y weddw Yn gweled aelwyd mam. Providence, Pa. Eos GWYNANT.

DOLWYDDELEN.

Advertising