Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

-.- I Transvaal a'r Brenin.

VP Anghytundeb yn Belfast.:…

[No title]

NODION O'R CYLCH. I -.-I

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. I I DA genym weled i Arddangosfa Llanrwst, ac Arddadgosfa Ardudwy droi allan mor lwydd- ianus. Y mae nifer yr enillwyr yn y ddwy yn rhy luosog i ni eu henwi yn y fan hon ceir eu henwau yn adroddiadau y ddwy arddangosfa mewn colofnau eraill, fel mae'r oil a wnawn yma yw eu llongyfarch yn galonog iawn. Tyn- ai rhai pethau sylw arbenig ar gyfrif eu rhagor- iaeth yn eu dosbeirth. Dangosodd Mr. W. G. Powell ei Gwn Defaid penigamp, ac enillasant y gwobrau blaenaf yn rhwydd. Gwelwn i Mri Hughes ac Owen, Blaenau; W. Jones Humphries, Peorhyn, a Dr. D. Livingstone Davies, Criccieth, wneyd marc gyda'u cwn. WRTH son am Arddangosfeudd, goddefer i ddatgan ein boddbad wrth weled enwau Mri John Berry, ac Owen Williams, Llanrwst, yn mhlith y Beirniaid, y naill gyda Mel, a'r llall gyda'r Cwn. Clywsom ganmoliaeth iddynt am eu tegwch ac uniondeb eu dyfamiadau. Y mae y ddau yn hen gyfarwyd ag anhebgorion y gwaith a ymddiriedwyd iddynt, I ba beth yr eir i gyrchu Beimiaid o Loegr tra mae genym gystal dynion yn ein plith eln hunain all wneyd y gwaith i foddlonrwydd. YN Mwrdd Gwarcheidwaid Llanrwst, ddydd Mawrth, galwodd Mr. Edward Edwards, sylw at fater yr ydym wedi bod yn meddwl am dano yn ddifrifol ar hyd y blynyddoedd, sef yr elusen prin a ganiateir gan y Bwrdd hwnw ar gyfer plant amddifaid. Y mae bron fel deddf y Mediaid a'r Persiaid yn 1/6 yr un. Golyger fod dynes ieuangc wedi ei gadael gyda dau o blant bychain, yr oil a roddir gan y Bwrdd fydd tri swllt: swllt yr wythnos ar gyfer y tri at dalu y rhent, cael glo, dillad, esgidiau, a bwyd! Rhoi angen un rhwng naw meddai Dewi Wyn ar achos arall, ac yn y fan hon y mae llai na digon at gael bwyd i'r fam yn unig, heb son am ei phlant, yn cael ei roddi. Dylai y fam enill at gadw cartref i'r plant," meddi'r; gwir, ond nid hawdd iawn yw i fam fyned allan i enill tra y mae y plant bach o dan ei gofal. Pe digwyddai rhyw anffawd i'r rhai bach, y fam gaffai ei beio. AR fater y gwragedd gweddwon ieuaingc, y mae yn ofid clywed y Swyddogion Elusenol yn dywedyd, Hon a hon. Gwraig weddw a thri o blant, wedi cael gwerth pedwar swllt a'r ddeg yn ystod y mis." Yna'r cwestiwnyn cael ei ofyn paham na roddi'r elusen fel i'r tlodion eraill mewn arian ac atebir, Y mae wedi tori ei gweddwdod." Daliai Mr. Edward Edwards, fod gwasgu gweddwon ieuaingc gydag elusen brin yn eu gyru i ollwng eu hunain i fywyd aniwair. Y maej ffeithiau yn profi yr hyn ddywed Mr. Edwards, mor bell agy mae Undeb Llanrwst yn myned, yn hollol gywir, ac nid oes dim yn rhy fuan i'r Gwarcheidwaid ddeffro i'w cyfrifoldeb yny mater, gan na ddylai moesol- deb ddyoddef er mwyn arbed, ychydig sylltau o'r trethi. Ymddangosodd y frawddeg a ganlyn yn yr Herald Cytnraeg am yr wythnos hon: Bu cynrychiolydd yr Herald yn ymholi sut yr oedd pethau yn Abergynolwyn yr wythnos ddi- weddaf. Yr ateb oedd, gwerthu a chlirio da ar y llechi. Gofynai yn mbellach pa reswm oedd am y gwananiaeth rhagor mewn Ileoedd eraill, yn arbenig Ffestiniog, ac un ateb pwysig i hyn oedd eu bod yno yn gwerthu yn ol pris y farch- nad ac yn Ilwyddo, yn hytrach na chael colled- ion mawrion trwy gadw cronfeydd ar law." Os yw yr uchod yn gywir, y mae yn haeddu sylw perchenogion chwareli trwy yr hoM wlad. I'n tyb ni,y bobl ganol "yw yr atalfa benaf ar ffordd llwyddiant y fasnach lechi, gan eu bod yn sefyll rhwng y cwmniau a'r prynwyr, yn lie bod y cwmniau yn gosod eu nwyddau ar y farchnad yn uniongyrchol, trwy gadw eu tra- faelwyr eu hunain i gymell y cyfryw i'r sawl fydd mewn angen am danynt. Gresyn gweled ein pobl oreu yn dal i droi eu cefnau ar eu car- trefi os oes rhyw feddyginiaeth rwystrai hyny yn gyrhaeddadwy. Newyddbeth hollol yn ein hardal ydoedd y cynhebrwng milwrol a welwyd y dydd o'rblaen ac nid rhyfedd fod cynifer o bobl yn tyru i'w weled ar hyd y ffordd yr elai. Dyma yr unig un, meddir, a fu yma erioed. Mae y parch hwn a delir gan fyddin ein gwlad i'r milwyr b, tiy fuont unwaith yn ei rhengoedd yn beth hardd a chanmoladwy. Yr oedd presenoldeb y gwyr meirch yn gwisgo yr orymdaith brudd- aidd a rhyw urddas effeithiol. Gwnaeth ar- graff dda ar yr ardal. Hir y parhao byddin Prydain i barchu llwch ei milwyr ymadawedig. Gall y wlad wneyd un peth gwelleto.euparchu yn eu bywyd. Mae llawer hen filwr dewr wedi gorfod dioddef cyni mawr ar y ffordd at yr an- rhydedd pruddaidd hwn.

I HARLECH. I

Yr Eisteddfod Genedlaethol.…

Yn Ddiwrthwynebiad. I

LLANRWST. !

Diangfa Gyfyng.

! TANYGRISIAU.

Helynt Morocco.

Damwain ddifri-fol yn Llanberis.

Family Notices

Rhewi i Farwolaeth.

I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.