Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

At ein Gohebwyr.

NODIADAU WYTHNOSOLI

IMr. Ellis J. Griffith, A.S.,…

Meistr Meirch y Brenin. -1

IMesur Man Dyddynod i Gyrnru…

News
Cite
Share

Mesur Man Dyddynod i Gyrnru a Lioegr. Yr wythnos ddiweddaf bu i Dy'r Ar- glwyddi roddi y mesur Ysgotaidd o'r neilldu hyd oni welerit wyneb y rnesur hwn. Yr oeddynt eisoes yn gwybod yn dda sut wyneb sycd ganddo, ond rhyngodd bodd iddynt gyrneryd arnynt na wyddent ddim am dano hyd oni ddygid ef ger eu bron yn y Ty. Pan gyfiwynwyd ef iddynt gan Argl:w) dd Carr- ington (yr hwn a'i heglurodd mewn araeth. hynod hapus) cafodd ganddynt dderbyniid mwy caredig nag a feiddiasai ei gyfeillion obeithio am dano. Cododd Dr. Davidson, Archcsgpb Caergaint, ar frys i'w fendithio ni feiddiodd neb o ddim pwysigrwydd ddy- wedwyci gair angharedig- am daoo ar fyr- der cododd Arglwydd St. Aldwy5)—cin hen gyfaill Syr Michael Hicks Beach-a dywed- odd yn dda iawn am y mesur. Ceir yn ei araeth rywbeth tebyg i brawf sicr y gedy i'r arglwyddi i'r mesur fyn'd trwy eu dwylaw heb fod nemawr neu ddim gwaeth o herwydd hyny. Darllenwyd ef am yr ail waith yn ddiwrthwynebiad, ac y mae yn lied ddeall- edig nad oes gan yr arglwyddi fwriad i wneyd ynddo gyfnewidiad o'r pwysigrwydd lleiaf. Barnodd Arglwydd St. Aldwyn ytt briodol wrthdystio yn erbyn geiriau a ddy- wedodd y Prifweinidog yn Nhy'r Cyffredin ddiwedd yr wythnos pan y rhoddodd i Dy'r Arglwyddi awgrym mai ei ddoethineb fyddai arfer gofal mawr wrth drin y mesur yma. Dywedodd fod ei beirianwaith mor fanwl a chywrain fel mai o'r braidd y gellid newid dim arno na ch) ffwrdd ag ef heb andwyo'r mesur oil,ac y byddai yn dda iddynt ystyried yn ddwys iawn cyn gwneyd hyny, Dywed- odd Arglwydd St. Aldwyn fod Syr Henry wedi eu rhybuddio yn afreidiol, ac yn wir wedi eu bygwth hefyd, a beiodd ef yn ang- hyffredin am fod mor ryfygus. Dichon, er hyny, fod gan y rhybudd neu'r bygythiad hwnw rywbeth i'w wneyd a sicrhau i'r mesur well derbyniad ar law yr arglwyddi nag a gawsai amgen.

IBoneddigeiddrwydd Crachbendefiff.

I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.