Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Sbopt SH „• ~Y ?R banp. op R yr I p R, ale ? ? Church Street. AM 14eg D1WRN0D YN UNIG. Gwneir Gostyngiad Gwirioneddol yn yr oil o'r Nwyddau. Mae genym luaws o bethau i'w Clirio am haner eu Gwerth. Gelwch i'w gweled. W. EVANS, Manager. THE TEA m w Of ALL TEAS IS "JVIBYPOLE" TEll ikT ik L WHY PAY MORE? In lb., lb., & i lb. sealed packets. In I b., Full weight of Tea without including the weight of wrappers. mAYPOLE PAIRV CO., LTP. 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. OVER 520 BRANCHES NOW OPEN. Dyma gwestiwn a ddylai I gael eich sylw difrifolaf, a | A ydyw eich hyny heb edl Os ydyw eich golwg yn ( GolWfl yn ddrwg nid oes modd ei wella | (;Oltvg yn heb rhyw gyfrwng allanol i I Ddiffygiol ? ? wneyd hyny. I Gochelwch rhag dewis eich Spectol 1 eich hunain^ :galR hyny brofi yn I fwy o nawed o laiwer. I Yr wyf yn barod i brofi eich ■ golwg yn rhad, ac os bydd angen Spectol arnoch gallaf gael rhai i'ch siwtio am bris rhesymol. W., Thomas Optician, H ,'h,,¡,D,.ilAnr,l) "R!\ 4-' r' ew IJiJ. u' e SL, 1,1'1 Stationery Æk f210ty Qoods. ■ Note Paper of every description, in neat boxes 6d. and is. Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. = = = FOREIGN NOTE PAPER. = =   f. At ,,1II:9! 6 Shop y Rh^degydd, BL ffes?imo& IBR MER'S GREAT SALE. Stoc Fawr yn mhob Adran i'w Clirio yn Rhad. Gelwir eich sylw at y Lotiau canlynol yn mysg lluaws eraill 50 Lady's Holland Jackets i'w clirio, Is. yr un. 190 llath Fancy Dress Muslins, 3c. y Hath. Pris arferol 5c. y llath. 60 Pinafores i Blant, pob size, 62C. yr un. 50 Corsets Cryfion am Is. yr un. 150 yards Floor Oilcloth, dwy lath o led (Painted Back), Is. 3c. y llath. 60 Men's Tweed Trousers at 3s. 6d. 100 par o Slippers, 6ld. y par. BRYMER, Blaenau Ffestiniog a'r Ganghenau.
At ein Gohebwyr.
At ein Gohebwyr. Unwaith eto mae yn rhaid i mi grefu ar ein Gohebwyr anfon eu Gohebiaethau i law yn gynarach. Dylai pob peth sydd i ymddangos yn y RHEDEGYDD fod mewn llaw erbyn boreu Mercher y fan bellaf.
NODIADAU WYTHNOSOLI
NODIADAU WYTHNOSOL I Y Terfysg yn Morocco. I Gan fod rhai Ewropeaid wedi cael eu lIadd, a bod y gweddill o honynt mewn perygl mawr, prysurodd cad-longau Ffrengig a Hispaenaidd i w gwaredu, ac mewn tref o'r enw Casa Blanca glaniodd yohydig o filoedd o filwyr Ffrengig. Dydd Sul ym- laddwyd brwydr ffyrnig a gwaedlyd rhyng- ddynt hwy a'r brodorion, y rhai a orchfyg- wyd a Uaddfa fawr—tua 2,000 meddir. Nid oes le i ameu gallu'r Ffrancod i drechu'r brodorion; nid oes achos i bryderu dim ynghylch hyny. Ond wedi iddynt eu trechu, beth wed'yn ? Hyny sydd yn peri pryder. Gwyr ein darllenwyr mor chwerw fu'r teimlad rhwng Ffraingc a'r AImaen ynghylch Morocco. Er nad ydynt cyn chwer- wed ag y bu, y mae yn chwerw eto. Gellir bwrw fod yr Almaen yn gwylio'rgweithrediad- au yn fanwl iawn, ac na cheir hi yn anmharod i ymyryd os caiff achos, neu hyd yn nod achlysur. Oherwydd hyn gall y rhyfelgyrch yma, sydd yn gydmarol ddibwys ynddo ei hun, arwain i ganlyniadau mawrion a phwys- ig iawn. Ni fyn yr Ymherawdwr Gwilym i'r Ffrancod gael yn Morocco ddylanwad mwy na'r eiddo ef, a'i perygl ydyw i'r eiddigedd a'r genfigen sydd o'r ddeutu eu dwyn i wrthdarawiad a'u gilydd. Mae'n dda genym feddwl y gellir dibynu ar y Brenin Iorwerth, yr hwn sydd yn awr ar y cyfandir, i wneyd pob peth yn ei allu i j ddwyn yr Almaen a Ffraingc i gydweithredu yn hytrach nag i wrthwynebu eu gilydd. Ond er fod yr hyder hun genym, ni pheidiwn a theimlo'n bryderus hyd oni bydd milwyr Ffraingc a'r Hispaen wedi gadael Morocco a dychwelyd adref. Fel y mae pethau yn awr, gellir yn hawdd iawn gyneu tan dinys- triol ag y cymer amser hir i'w ddifoddi.
IMr. Ellis J. Griffith, A.S.,…
Mr. Ellis J. Griffith, A.S., a'i sedd a'i swydd. Cyfarfu atweinwyr Ceidwadaeth yn Mon, a phénderfynasant nad buddiol fyddai gwrth- wynebu ail-etholiad Mr. Ellis J. Griffith. Nid ydym yn cyfrif eu bod trwy benderfynu fel hyn wedi gosod y boneddwr hwnw a'i gyfeillion dan unrhyw rwymedigaeth i deim- lo yn ddiolchgar iddynt, oblegid y gwir syml ydyw eu bod wedi gwneyd rhinwedd o raid." Gwyddent hwy a phawb eraill yn dda mai ofer hollol fuasai eu gwaith yn dwyn allan ymgeisydd i'w wrthwynebu, ac y mae yn amheus genym a allasent er ceiso cael yn withwynebydd iddo unrhyw ddyn ond un a chanddo lawer iawn mwy o arian nag o syn- wyr cyffredin. Trwy ddwyn alian ymgeis- ydd yr oil a allasent ei wneyd fuasai pari i Mr. Ellis Griffith fyn'd i gostau hollol ofer, ac ni fuasai yn bosibl iddynt wneyd hyny heb wario agos (os nad llawn) cymaint eu hunain. Mae'n deilwng o sylw fod y swydd hon wedi ei rhoddi i'r aelod dros Fon wedi iddo fod am lawer o fisoedd yn beirniadu'r Llywodraeth yn ddyfal ac yn Ilym oherwydd ei harafwch i ddwyn ymlaen fesur Dadgys- yllttad yr Eglwys yn Nghymru. Guyddom fod swydd wedi ei rhoddi i ambell un cyn hyn er mwyn cau ei enau fel beirniad, ond nid swydd felly ydyw hon. Bydd Mr. Ellis Griffith mor rhydd ag y bu erioed i feirniadu'r Llywodraeth, ac y mae yn ddiamen genym y bydd iddo arfer ci ryddid hycl yr eithaf. Nid ydym yn dywedyd ein bod >n c\luno og tf yn hollol; ar hyd yr amser yr ydym wedi cydnabod ein bod yn teimlo mesur helaeth o b_t,.?;d? ynglyn a'r mater. Yr un pryd credwn ei fod wedi gwneyd gwasanaeth da i Gymru yn y peth yma, oblegid y mae'n fwy na phosibl y buasal y cwestiwn gryn lawer yn mhellach yn ol nag y mae onibae am ei ymdrechion ef, tu hwnt i bawb eraill.
Meistr Meirch y Brenin. -1
Meistr Meirch y Brenin. -1 Yr wythnos ddiweddaf hysbyswyd fod Iarll Sefton wedi rhoddi i fyny y swydd hon a ddelid ganddo, ac fel rheswm dros iddo wneyd felly, cyhoeddwyd gyda meaur o rwysg honiadol ei fod yn anghytuno a mesurau eithafol y Llywodraeth. Tybiwn fod syniad y gwr hwn am ei bwysigrwydd ei un a phwysigrwydd ei swydd y fath ag i beri iddo dybied y byddai i'w ymddiswyddiad roddi ysgytiad i'r Llywodraeth a'i siglo hyd ei syl- feini. Dyddorol fyddai gwybod i ba un o bob cant o'n darllenwyr yr oedd bodolaeth Iarll Sefton yn wybyddus. Fel y digwyddai fod, yr oeddym ni ein hunain yn gwybod fod yn byw rywun yn dwyn y teitl hwn, ond pe gofynasid i ni rywbeth am dano y cwbl allas- em ddywedyd fuasai ei fod yn byw ac yn perchen tir yn rhywle heb fod yn mhell iawn o Lerpwl. Rhaid ein bod wedi gweled ddar- fod iddo gael ei benodi yn Feistr Meirch y Brenin wedi ffurfiad y Weinyddiaeth bresen- ol, ond yr oeddym wedi ei lwyr anghofio ef a'i swydd hyd oni chyhoeddodd ei fod wedi ei rhoddi i fyny. Gan iddi gael ei rhodd iddo, rhaid ei fod yn cael ei gyfrif ar y pryd yn rhyw fath o Ryddfrydwr. Gan aelod o Dy'r Arglwydd y delir hi bob amser, dyb- ygwn felly nid oedd gan y Prif-weinidog lawer o Ie i ddewis pan aeth i chwilio am un i'w rhoddi iddo. Mewn atebiad i gwestiwn a ofynwyd iddo ddydd Mawrth, dywedodd Syr Henry fod yn rhaid ei llenwi eto, ac na ellid hyd yn nod pe peidid a'i llenwi arbed i'r wlad y E2,000 a delir i'r sawl fyddo yn ei dal. Yr eglurhad ar hyn ydyw fod cyfanswm treuliau o'r fath wedi ei benderfynu ar esgyn- iad y Brenin i'w orsedd, a bod cytundeb a wnaed ar y pryd a'i Fawrhydi yn rhwymo'r Llywodraeth i dalu iddo y cyfanswm ag y mae y £ 2,000 yma yn rhan o hono. Pan holwyd y Prif-weinidog yn nghylch gwaith y swydd dywedodd ei fod yn rhy hen i gredu ei bod yn segurswydd." Gwr cyfrwysydyw ef. Trwy gyfrwysdra ymgadwodd rhag dywedyd ei bod yn segurswydd ar y naill law a rhag gwadu hyny ar y Haw arall. Atebodd yn y geiriau a ddyfynwyd. Yr ydym yn ddigon argyhoeddedig mai segurswydd ydyw yn ymarferol. Dyma un o'r ffyrdd y gwerir arian gwlad sydd yn rhy dlawd i drefnu blwydd-dal i'w phobt yn nyddiau henaint. Rhaid i ni ddweyd fod Cynrychiolwyr Llafur yn Nhy'r Cyffredin wedi ein siomi mewn un peth. Buasem yn disgwyl iddynt hwy wneyd ymchwiliad trylwyr i bethau fel hyn a gofalu am roddi gwybodaeth lawn am danynt i'r wlad. Gwastreffir arian lawer mewn ffyrdd nas gellir eu hesgusodi heb son am eu cyf- iawnhau, ond o'r braidd y clywir yr un aelod seneddol un amset yn dywedyd gair yn erbyn hyny. Dylent gydweithredu a'u gilydd mewn materion fel hyn pe gwnent, gwerth- fawrogai'r wlad eu gwaith a rhoddai iddynt ei chefnogaeth. — ❖ Ofr
IMesur Man Dyddynod i Gyrnru…
Mesur Man Dyddynod i Gyrnru a Lioegr. Yr wythnos ddiweddaf bu i Dy'r Ar- glwyddi roddi y mesur Ysgotaidd o'r neilldu hyd oni welerit wyneb y rnesur hwn. Yr oeddynt eisoes yn gwybod yn dda sut wyneb sycd ganddo, ond rhyngodd bodd iddynt gyrneryd arnynt na wyddent ddim am dano hyd oni ddygid ef ger eu bron yn y Ty. Pan gyfiwynwyd ef iddynt gan Argl:w) dd Carr- ington (yr hwn a'i heglurodd mewn araeth. hynod hapus) cafodd ganddynt dderbyniid mwy caredig nag a feiddiasai ei gyfeillion obeithio am dano. Cododd Dr. Davidson, Archcsgpb Caergaint, ar frys i'w fendithio ni feiddiodd neb o ddim pwysigrwydd ddy- wedwyci gair angharedig- am daoo ar fyr- der cododd Arglwydd St. Aldwy5)—cin hen gyfaill Syr Michael Hicks Beach-a dywed- odd yn dda iawn am y mesur. Ceir yn ei araeth rywbeth tebyg i brawf sicr y gedy i'r arglwyddi i'r mesur fyn'd trwy eu dwylaw heb fod nemawr neu ddim gwaeth o herwydd hyny. Darllenwyd ef am yr ail waith yn ddiwrthwynebiad, ac y mae yn lied ddeall- edig nad oes gan yr arglwyddi fwriad i wneyd ynddo gyfnewidiad o'r pwysigrwydd lleiaf. Barnodd Arglwydd St. Aldwyn ytt briodol wrthdystio yn erbyn geiriau a ddy- wedodd y Prifweinidog yn Nhy'r Cyffredin ddiwedd yr wythnos pan y rhoddodd i Dy'r Arglwyddi awgrym mai ei ddoethineb fyddai arfer gofal mawr wrth drin y mesur yma. Dywedodd fod ei beirianwaith mor fanwl a chywrain fel mai o'r braidd y gellid newid dim arno na ch) ffwrdd ag ef heb andwyo'r mesur oil,ac y byddai yn dda iddynt ystyried yn ddwys iawn cyn gwneyd hyny, Dywed- odd Arglwydd St. Aldwyn fod Syr Henry wedi eu rhybuddio yn afreidiol, ac yn wir wedi eu bygwth hefyd, a beiodd ef yn ang- hyffredin am fod mor ryfygus. Dichon, er hyny, fod gan y rhybudd neu'r bygythiad hwnw rywbeth i'w wneyd a sicrhau i'r mesur well derbyniad ar law yr arglwyddi nag a gawsai amgen.
IBoneddigeiddrwydd Crachbendefiff.
Boneddigeiddrwydd Crach- bendefiff. Yn mhlith aelodau Toriaidd Ty'r Cyff- redin eistedd dyn ieuangc a adwaenir fel Arglwydd Tumour. Gan ein bod yn bwrw fod yn rhaid fod gan ei dad gywilydd o hono a chan nas gall efe wrth ei ffolineb ei etifedd, ymgadwn rhag ei enwi ef. Ar hyd y senedd-dymor mae y Tumour hwn wedi cvmeryd rhan yn y gweithrediadau Ty'r Cyffredin yn dra mynych, ac y mae agos bob amser yn gwneyd ei waith mewn modd sydd yn peri hyd yn nod i'w gyd-Doriaid deimlo cywilydd, tra y pair anfoddlonrwydd mawr i'r Rhyddfrydwyr. Heblaw ei fod yn ffol, mae'n anfoesgar hefyd. Eisteddodd y Ty drwy nos Lun rywbryd yn oriau man boreu dydd Mawrth yr oedd Mr. John O'Conner, un o'r aelodau mwyaf parchus a chymeradwy, yn siarad; tra y siaradai chwarddai Tumour yn fynych gan siarad mewn llais uchel a'r rhai eisteddent o'i amgylch; ac yr oedd ei chwerthiniad yn chwerthiniad yr ynfyd mewn gwirionedd. Fwy nag unwaith, apeliodd Mr. O'Conner am ddystawrwydd gweddol ond yn ofer. Yn y man, yn lie gwrando ar ei gais, ateb- odd Arglwydd Tumour ef mewn geiriau nad ydynt wedi eu cyhoeddi ond a glybuwyd yneglurgan Mr. O'Couner. Ymddengys eu bod yn waeth nag anfoneddigaidd yr oeddynt yn sarhaus dros ben—yn g-ymaint felly fel y cyffroisant yspryd Mr. O'Conner yn ddirfawr. Gan daflu golwg ddirmygus ar yr ysgogyn oedd wedi ei gythruddo, dy- wedodd mewn llais angherddol jawn" Ped ymddygai yr aelod anrhydeddus fel yna o'r tu allan i'r muriau hyn cawsai genyf y drin- iaeth a haedda." Cododd Arglwydd Tum- our i fyny ac apeliodd at y Llefarydd gan ofyn iddo a oedd yn iawn i Mr. O'Connor ei fygwth felly. Cyn i'w gwestiwn gael ei ateb cyfeiriodd Mr. O'Connor yn mhellach ato fel cenaw anwybodus" {ignorant puppy) Gahvodd y Llefarydd ar yr aelod digllawn 1 alw y geiriau hyn yn ol, a gwnaeth hyny gan bwysleisio ar y ffaith ei fod yn eu tynu yn ol o barch i'r Llefarydd ac i'w awdurdod—h.y. nid o barch i'r ysgogyn oedd trwy ei ym- ddygiad hyll weii ei" gyffroi i'w 'dywedyd. Buasem yn gobeithio fod Arglwydd Turnour wedi cael gwers nad anghofia oni bae ein bod yn gorfod credu nad oes ganddo ddeall i ddysgu. Pa beth sydd yn cyfrif am mai rhai o'r dosbarth y pc;rth?n <? iddo sydd yn ym- ddwyn yn y modd iselaCo holl ae'odau Ty'r j Cyffredin. We'ie, c!y 13(?j,,defig,O" Os rhai fel hyn yw dy fonedd, pa fath yw dy wren g ?
I-..-OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad.
OyhudcSiacI a Gwrth-gyhuddiad. Yr wythnos ddhveddaf cyhoeddwyd fod ymgais wedi ei gwneyd i Jofruddio tirfe<id«an- ydd Gwyddelig, o'r enw Arglwyod Ashtown.