Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Fflangell Cymry i Gymru. I

DAMWAIN ANGEUOL I GARIWR YN…

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.

News
Cite
Share

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod yn y Tylotty ddydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth, Mr. W. Jones (yrls-gadeirydd), ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. E. M. Owen, William Wil- liams, Richard Williams, Cadben Morgan Jones, John Roberts (Trawsfynydd) David Pugh, Owen Evans, John Pierce, R. W. Vaughan, Robert Richards, D. Tegid Jones, E. Llewellyn, John Roberts (Talsarnau), E. Bowen Jones, J. Bennett Jones a Richard Parry (Swyddogion Elusenol), Richard Jones, y Cofrestrydd, dros Mr. William Thomas oherwydd gwaeledd Dr. J. R. Jones, D. J. Jones (Meistr y Ty), Thos Roberts (Clerc), a I David Jones (Clerc cynorthwyol). I Y Ty. I Awst 1, daeth William Buckingham, 66 oed, I 0 Ffestiniog, i'r ty trwy archeb y Swyddog. I Yr un dyddiau daeth Mary C. Owen, 30 oed, i'r ty o Beddgelert. Awst 5, daeth John Slenney, 31 oed tramp i'r ty. Yr oedd wedi ei daraw yn wael. Hefyd, daeth Richard Jones, gynt o Glany- pwll, Ffestiniog, yn ol i'r ty trwy archeb W. Thomas. Awst 6, daeth Alice Yoxhall, 35 oed merch Gorsaf-feistr Minffordd i'r Ty yn wael a symudwyd hi i Wallgofdy Dinbych. Yn y Ty 75 ar gyfer 70 y ddwy wythnos flaenorol, a galwodd 13 o grwydriaid yn ystod y bythefno diweddaf. l Diolch. I Mr. E. Bowen Jones a ddywedodd ei fod yn dymuno diolch i'r Bwrdd am ei ethol unwaith yn rhagor fel Gwarcbeidwaid. Yr oedd yn teimlo ei hun fel hen bechadur wedi dod yn 01, ac yr oedd am wneyd ei oreu i fod yn bresenol yn y cyfarfodydd. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'r Bwrdd oherwydd y cysylltiadau oedd wedi bod rhyngddynt fel teulu er's llawer o flynyddau (cymeradwyaeth). Arianol. Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos ddi- weddaf fel y canlyn:—Dosbarth Tremadoc, £ 15 Os 2c Ffestiniog, CllO 6s 10c; Deudraeth 69 13s Oc; sef cyfanswm o £ 255 ac yr oedd eisieu ar gyfer y bythefnos nesaf fel y canlyn Dosbarth Tremadoc. £75; Ffestiniog, £ 110;' Deudraeth, £ 68; sef cyfanswm o £ 253.—Yr oedd diffyg yn yr Ariandy yn erbyn y Bwrdd o /63 7s llc, I Eisieu Chwareu Teg. Ymddangosodd gwr o Harlech (ond sydd yn awr yn gweithio yn y Deheudir) o flaen y Bwrdd i ddywedyd nad oedd yn cael chwareu teg ganddynt fel Gwarcheidwaid. Y Cadeirydd Beth sydd yn anheg ?—Yr ydych wedi fy erlyn i o fiaen yr Ustusiaid i dalu at gadw fy mam, ac -wedi rhoddi archeb am 2/- yr wythnos arnaf iieblaw y costau afreidiol yr aethoch iddynt trwy roddi summons i mi yn South Wales, ae yr ydych yn gadael fy mrawd yr hwn sydd yn ffarmwr i beidio talu dim. Y Cadeirydd Yr ydym ni yn cymeryd yr amgylchiadau ynglyn a phob achos i ystyriaeth -Y mae hynyna yn gwestiwn anhawdd ei ddeall. Y mae fy mrawd wedi symud o ffarm bach i ffarm fawr, ac y mae hyny yn profi fod ei amgylchiadau yn all right, ac nid ydych yn gofyn iddo ef dalu dim. Beth yw y rheswm o hyny ? Y mae genyf frawd arall nad ydych yn gofyn dim ganddo, ond yr wyf yn hollol gyd- weled a hyny, oherwydd nid yw ef yn alluog i gyfranu dim, oherwydd ei fod yn wael. Yr wyf fi yn myned i lawr i'r pwll glo i weithio bob dydd yn nghanol pob peryglon a bum gyda y soldiers am ddeuddeng mlynedd cyn byny, ond nid oes dim peryglon felly ar gyfer ffarmwr; ac yr ydych yn gofyn ioni a brawd arall dalu 2/- yr un, ac yn gofyn dim i'r brawd arall, sef (y ffarmwr) a dyma fy nghwestiwn i chwi Sut yr ydych yn cysoni hynyna." Y Cadeirydd Na hidiwch chwi marall, dadleuwch achos eich hun.-O, ie, on y mae fy mrawd yn Garth Mawr yn fab i fy > <am fel finau, ac os oes eisieu i mi dalu, dylai yntau daiu hefyd. Y Cadeirydd Gellwch chwi fyned yn awr, cewch glywed gan y Swyddog beth a bender- fyna y Bwrdd. Ar ol iddo ymadael a'r ystafell eglurodd y Clerc fod y Bwrdd wedi pasio i'r dyn yma dalu 1/6 yr wythnos at gadw ei fam, ac yr oedd yn rhaid myned ai achos o flaen yr Ustusiaid er cae! archeb, a phasiodd yr Ustusiaid iddo dalu 2/ er mai 1/6 oeddym yn ofyn. Mr. D. Tegid Jones: Y mae gwaith yr Ustusiaid yn gwneyd peth fel byn yn wrthun, ac nid oes ganddynt fusnes o gwbl i orfodi neb i dalu 2/- pan fydd y Guardians ddim ond gofyn 1/6. Mr. E. Llewelyn Dylem wneyd yn deg a'r dyn yma. Dylai y brawd sydd yn Garth Mawr dalu yr un fath. Thalwn ninau ddim chwaith pe buaswn yn ei le. Y Cadeirydd Efallai nad oes gan y brawd yma ddim, neu fuasai yr Ynadon byth wedi rhoddi 2/- ar hwn a dim ar y Hall. Mr. L. Tegid Jones: Efallai fod un o'r Ustusiaid yn feistr tir i hwn (chwerthin). Mr. E. Bow en Jones Aliw-n ni ddim gadael. i'r brodvr yma benderfymi yr achos gyda eu gilydd i wnp/J. swm i fvny ? Wedi llawer o ddadleu pasiwyd fod yr archeb i arcs fel yr oedd. Amrywiol. A.t f o c o -? d jale T- '?c) L-e, Anfonodd jane Roberts, Tynybryn, Talsarn- su, i ddyweyd ei bod yn tynu ei hun oddiar yr Undeb oherwydd ei bod yn gallu enill digon at ei chynbaliaeth ar hyn o bryd (cymeradwyaeth). Ymddangosodd James Jones, trwsiwr umber- elas, Penrhyn, o fiaen y Bwrdd i ofyn am allan gynorthwy oherwydd fod ei fasnach yn wan.- Pasiwvd eynyg y Ty iddo. é!rd P?siwya i gf.niatau 10s yr wythnos i Richard Jones, Neu Street, ires y bydd wedi cae! e F iies cyngherdd. Pasiwyd i roddi 14s yr wythnos i William Gwilym Jones, Jones Street, oherwydd fed ei Fund wecli ei hatal. j Pasiwyd i roddi 4/- yr wythnos i William W. Roberts, Talywaenydd, oherwydd ei waeledd. Pasiwyd i roddi 8/- yr wythnos i Geo rge Hughes, Back Maenofferen, yr hwn oedd wedi cyfarfod a dam wain, ac yn anallnog i wneyd ei waith. Pasiwyd i Jane Williams, Bl. Ffestiniog (gynt o Borthwen Bach, gael dod i'r Ty, ac fod ei pherthynasau i dalu 5/- yr wythnos drosti, gan y dywedai fod ganddi £ 43 yn ddyledus o ewyllus. Anfonodd Mr. William Thomas i ddiolch am deimladau da y Bwrdd tuag ato.

BLAENAU FFESTINIOG.I

TANYGRISIAU. - -

O'R CWELLYN I'R LASLYN.

I GARN DOLBENMAEN."' -

MAENTWROG. tywy

FFESTINIOG. a

HARLECH.. -IF0.» -HARLECH...:IÁ"lifo.

Advertising