Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Fflangell Cymry i Gymru. I

News
Cite
Share

Fflangell Cymry i Gymru. I Er holl ffyddlondeb Cymru i Ryddfrydiaeth, a'i haberthau dirif yn mhlaid ei hegwyddorion, a cbri ei chenedlgarwyr, yr oil a gaiff yn ol yw addewidion gweigion a siomedigaethau i fyw arnynt fel y cibau a osodai yr afradlon gynt rhwng ei ddanedd i geisio tori ei angen a hwy. A gwaeth na siomedigaeth, yr ydym yn awr wedi ein colledu i'r swm o ugain mil o bunau yn y flwyddyn yn nglyn a'n Hysgolion canol- raddol, a hyn i gyd pan y mae un o gyu-ych-' iolwyr Cymru yn Llywydd Bwrdd Add)bg, a dau Gymro-nid amgen Mri. O. M. Edwards, ac A. T. Davies, wedi eu penodi i adran Gym- reig newydd a sefydlwyd yn nglyn a Bwrdd Addysg o dan y broffes o ofalu na chaffai Cymru gam gyda'i Haddysg Gwaith ofer yv. dawnsio a gorfoleddu am benodiadau: beth yw canlyniadau y cyfryw sydd bwysig. Er c-.al aelod Cymreig yn Llywydd Bwrdd Addysg, ac Ysgrifenydd hynododd ei hun fel gwnhryfelwr o dan Ddeddf Addysg 1902, eto y mae eu trefniadau mewn cysylltiad a'r Ysgolion Canol- raddol yn gwneyd yr anhegwch mwyaf a Chymru, ac yn gosod ei hysgolion o dan an- fantais dirfawr. 0 dan y trefniadau newyddion, caniateir grants i ddysgyblion deg ac unlrddeg oed yn yr Ysgolion Seisnig, ac ni cha^ateir cant i blant Ysgolion Cymreig o dan Liuciiddeg oed, 1 Ysgolorion dros ddeuddeg oed, caniateir grant enilledig am bedair blynedd yn unig yn Nghymru, tra y caniateir hyny am chwe' blyn- edd yn yr Ysgolion Seisnig. Yn ystod y tair blynedd allan o'r pedair y mae y grants yn Ilai i'r Ysgolion Cymreig nag i'r rhai Seisnig. I ni, y mae yn anealladwy pa fodd nad all plentvn yn Ysgolion Cymru enill mwy na £ YJ 15s Oc yn ystod yr holl gwrs, tra y mae un o dan amgylchiadau hollol gyfielyb mewn Ysgol Seisnig yn gallu enill £34. Pair yr ang- hyfartaledd hwn wahaniaeth o tua ugain mil o bunan i Gymru: hyny yw, pe gosodid yr Ysgolion Canolraddol Cymreig ar yr un telerau a'r rhai Seisnig, byddant ar eu mhantais o ugain mil o bunau yn y flwyddyn. Yr amddi- ffyniad doff a roddodd Mr. M'Kenna i'r trefn- iant hwn pan wasgwyd arno yn y Senedd am eglurhad ydoedd:— 1, Fod Cymru wedi y cwbl i yn cael ei rhan lawn o'r grants yn ol ei phob- logaeth a bod yn Lloegr ddau fath o Ysgolion Canolraddol, un yn derbyn llai na'r Hall, tra yr oedd grants Cymru yn y canol rhwng y ddwy raddfa Seisnig. Y fath gysur i wlad sydd wedi aberthu gyda'i haddysg fwy na'r un ran arall o'r deyrnas, a'i dogn gyntaf o fustl chwerwdod o'r Bwrdd Addysg Gwareder ni rhag yr Adran Gymreig, a dysgwyliadau ofer, ac edrychwn am bob anfanfais posibl ei dodi ar ffordd cynydd Addysg ein gwlad, os yw cam y cyntaf hwn yn esiampl o'r hyn a geir yn y dyfodol. 1-1

DAMWAIN ANGEUOL I GARIWR YN…

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.

BLAENAU FFESTINIOG.I

TANYGRISIAU. - -

O'R CWELLYN I'R LASLYN.

I GARN DOLBENMAEN."' -

MAENTWROG. tywy

FFESTINIOG. a

HARLECH.. -IF0.» -HARLECH...:IÁ"lifo.

Advertising