Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

INODIADAU WYTHNOSOLI

News
Cite
Share

I NODIADAU WYTHNOSOL IGwaed y DarlSawyr. Nid ydym yn cofio ddarfod i ni erioed ddarllen apel debyg i'r hon sydd newydd ei chyhoeddi gan Gyngrair Darllawyr y deyr- nas. Mae'n wybyddus fod y Llywodraeth wedi rhoddi addewid bcndant a hollol diarn- odol y bydd iddi ddwyn ymlaen y Senedd- dymor ncsnf fesur trwyddedol yr hwn fel y tybir fydd v fath ag i ddadwneyd mewn rhan fesur trwyddedol gweinyddiaeth Mr. Balfour a basiwyd ganddi er gwaethaf pob gwrth- wynebiad oedd }rn bosib!, ac er i ape!ion taerion gael ei gwnevd ati i atal ei liaw. Gobeithia pleidwyr sobrwydd a rhinwedd a moes y by,.d y mesur addawedig yn un gwerth ei gael: cred daillawyr y deyrnas y bydd yn un tra niweidiol i'w masnach hwy. Am hyny y rna" ofn wedi dyfod arnyp.t, ac arswyd, ac y maent eisoes yn gwncyd paro- toadau i geisio ei dyfetha. Nid yw y mesur wedi ei eni eto, a'u bwriad hwy ydyw ei ladd yn yr enedigaeth, os gallant fodd yn y byd. Dyma ystyr apel at bobl Prydain Fawr sydd newydd gael ei chyhoeddi gan- ddynt. Ynddi dywedant mai effaith y mesur sydd ar ddyfod fydd andwyo eu masnach a thaflu allan o waith filoedd lawer o bobl sydd yn gweithio mewn darllawdai a miloedd o bobl sydd yn dilyn galwedigaethau a dibyn- ant i fesur ar y darllawdai, a dwyn cyni ar filoedd o wragedd gweddwon a phlant am- ddifaid, a chodi pris cwrw. Wedi dywedyd hyn oil hysbysir pobl Prydain Fawr mai ganddynt hwy mae'r gallu i rwystro anfad- waith fel hwn rhag cael ei wneyd, a thaer erfynir arnynt ddeffro a gwregysu ei Iwynau ac arfer y gallu sydd eiddynt ar frys, onide bydd yn rhy ddiweddar. Peri i ni chwerthin y buasai yr ysgrech hon onibae ein bod yn gwybod mor fawr ydyw dylanwad y fasnach mewn diodydd meddwol, ac mor hawdd ydyw camarwain a chwareu ar deimladau dosbarth lluosog o bobl ein teyrnas-yn en- wedig yn Lloegr. Rhyfedd yn ein golwg ydyw gweled darllawyr o bawb yn dangos gofal am weithwyr y wlad ac am ei gwrag- edd gweddwon a'i hamddifaid, a ninau yn gwybod fod tlodi a chyni ugeiniau o filoedd o'r cyfryw i'w briodoli i'r fasnach trwy ddwyn yr hon ymlaen y maent hwy yn ym- gyfoethogi. Ond yr hyn y mynwn ddal arno ydyw yr angen sydd am i gyfeillion dirwest ddysgu gwers oddiwrth y darliawyr, a brysio i oleuo'r wlad ac i gryfhau dwylaw'r Llywodraeth rhag iddi gael ei dychrynu gan wrthwynebiad y darllawyr a'r bobl sydd mewn cydymdeimlad a hwy a than eu dylan- wad. Daw y gauaf cyn bo hir bellach, a dylid trefnu i gynal cyfarfodydd yn mhob dinas a phentref yn y wlad er mwyn i'r bobl yn gyffredinol gael dangos fod y Llywodraeth yn gwneyd eu hewyllys hwy. Oni wneir hyny, bydd i Dy'r Arglwyddi, yn yr hwn y mae nid ychydig o ddarllawyr a llawer iawn o gyfeillion iddynt, daflu'r mesur allan dan yr esgus ei fod wedi ei ddwyn ymlaen heb fod neb yn galw am dano ond ychydig ben- boethiaid eithafol.

I Pwyllgor Addysg Meirion.…

Arglwydd Rosebery yn lYhY…

 Terfysg yn Beifast.- 1 -.4,4..nt

Swydd i Mr. Ellis J. Griffith…