Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
HEDDLYS YBLAENAU FFESTINIOG.
HEDDLYS Y BLAENAU FFESTINIOG. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). I Dydd lau, o flaen G. H. Ellis (Cadeirydd), I William Owen, John Lloyd Jones, J. Vaughan I Williams, a W. P. Evans, Ysweiniaid. I Tadogi. Sarah Jones, 3, Frongoch, Caeclyd. Blaenail Ffestiniog, a gyhuddodd Walter Davies, Llwynhir Terrace, Conglywal, ofod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlon anwyd Mai 8.— Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Achwynyddes, a Mr. William George dros y Diffynydd. Tystiodd yr Achwynyddes iddi fod yn cyfeillachu a'r Diffynydd i fyny hyd Mehefin, pan y cwerylodd ag ef yn Nghoed Cwmbowydd. Daethant i gymod drachefn nos Sadwrn, Awst 11. Bu iddo ymddwyn yn anweddaidd gyda hi yn Nghoed Cwmbowydd y noson hono, a gwnelai felly yn barhaus hyd i fyny i'r noson y gorfu iddi adael Dolawel oherwydd ei chflywr. Gwadai yn bendant i Edward Jones fod yn anweddaidd gyda hi, ac na bu am dro gydag ef yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Pan ddywedodd wrth y Diffynydd am ei chyflwr, dywedodd na wnai dro gwael gyda hi, ac y priodai hi. Tystiwyd yn mhellach gan Kate Jones, Maggie Pughe, Catherine Jane Williams, Robert Griffith Evans, Brondwyryd (yr hwn a rybuddiwyd gan y Faingc i fod yn ofalns i ddweyd y gwir) J. Owen, Martha Jam Jones, a Morris William Jones.—Y Diff- ynydd a wadai yn bendant fod a wnelo ddim a'r Achwynyddes o Mehefin hyd Hydref 21. Gwelodd hi gyda Edward Jones yr ail wythnos yn Awst, ac yr oedd ef yn cadw cwmni i Ellin Ann Roberts, 1, Bethesda Terrace, yr adeg hono. Addefodd iddo fod yn anwedd- aidd gyda hi Hydref 21. Tystiwyd yn mhellach gan Owen Edwards, William Edwards, John Morgan, ac Ellin Ann Roberts. Dywedodd y tyst diweddaf ei bod gyda'r Diftynydd yn Colwyn Bay ar Wyl y Bangc yn Awst, a bu yn cyfeillachu ag ef yn ystod Awst. Pan aeth i geisio nodi yr amser yn sicr, bu iddi gymysgu cymaint fel y cafodd rhybudd gan y Faingc i fod yn ofalus i ddywedyd y gwir. Bu yn gweini ar lan y mor am bum' mis a haner. Yn Mehefin yr aeth i weini, ond yr oedd adref yn ei hoi bytbefnos cyn Gwyl y Bangc yn Awst Yr oedd hi wedi gweled Edward Jones yn è,)à i fyny o Goed Cwm- bowydd gyda'r Achwynyddes haner awr wedi deg y nos. Dywedodd y Cadeirydd fod y Faingc yn hoilol glir eu mheddv. 1 mai y Diffynydd oedd tad y plentyn. Archeb am 1/6 yr wythnos, costau y Llys a'r tystion, gini at draul yr enedigaeth, a gini i'r cyfreithiwr. Yr oedd Hannah Roberts, 88, Manod Road, BIaenau Ffestiniog, wedi gwysio Thomas Thomas, Blaenddol Farm, Ffestiniog, fel tad ei phlentyn anghyfreithlon, ond ni ddaeth yr achos yn mlaen. Kate Williams, 9, Cwmorthin Road, Tany- grisiau, a wysiodd John Thomas Jones, 15, Cwmorthin Road, fel tad ei phlentyn anghyf- reithlon. Ymddangosodd Mr. William George ar ran yr Achwynyddes, a Mr. R. O. Davies dros y Diffynydd. pohiriwyd yr achos y Llys diweddaf trwy gydsyniad y ddau gyfreithiwr. Yn awr, hysbysodd Mr. George nad oedd ei ochr ef yn bresenol; ac ar gais Mr. R. O. Davies, taflwyd yr achos allan. Bessie Ellenor Roberts, 3, Rock Terrace, Blaenau Ffestiniog a gyhuddodd Owen Thomas, 21, Glynllifon Street, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlon anwyd Mai 16.—Ymddangosodd Mr. W. George dros yr achwynyddes, ac am- ddiffynid gan Mr. R. 0. Davies.—Mr. George a ddywedodd i anweddusder yn yr achos hwn gymeryd lie ar Gorphenaf 8, a ganwyd y plentyn Mai 16, yr hwn a wnelai yr amser yn 312. Yn y lie peryglus a elwid, Coed Cwmbowydd' y bu yr anweddusder."—Yr achwynyddes a ddywedodd iddi fod yn cyfeill- achu a'r Diffynydd er's blwyddyn i Ionawr diweddaf. Bu'n anweddus gyda hi. Byddent yn myned am dro i Goed Cwmbowydd ar nos Fercher a nos Wener. Gorphenaf 8 y gwelodd y Diffynydd ddiweddaf i gamymddwyn. Deallodd am ei chyflwr yn Medi, a siaradodd ag ef ar y mater Hydref 4. Bu gyda Andreas Jones ddwy waith trwy Wynne Road a'r Square, ond ni ymddygodd yn anweddaidd gydag ef. Bu yn siarad a llawer o langciau ac yn canlyn pedwar yn ystod llai na dwy flynedd. Yr oedd ar ei llw yn dywedyd na chamymddyg- odd gydag Andro."—Andreas Jones, a dyst- iodd ei fod wedi ei orfodi trwy wys i ddod i'r Llys o Ddeheudir Cymru, lle'r oedd yn byw yn bresenol. Bu gyda'r Achwynyddes am dro trwy Wynne Road a'r Syuare yn nechreu yr haf, ac ar ol hyny, ond nid oedd yn gallu nodi yr amser yn fanwl. Ymddygodd ym anwedd- aidd gyda'r achwynyddes y ddau dro hyny.- Mr. Davies a ddadleuodd fod y Diffynydd yn glir a'r plentyn gan fod gormod o amser rhwng yr adeg y bu gyda'r fam ag adeg yrenedigaeth, ac nad oedd cymeriad yr eneth mor Ian ag y ceisiau Mr. George ei wneyd. Archeb am 1/6 yr wythnos, dim costau genedigaeth, gini i'r cyfreithiwr, a'r costau cyffredin.—Y Diffynydd, Dim dimeu byth mae Dr. Thomas; Doctor yr eneth ei hun, yn deyd fod y plentyn yn ei oed iawn."
Bwrdd Rheolwyr Addysjg Dos-I…
Bwrdd Rheolwyr Addysjg Dos- I barth Ffestiniog. Cynhaliwyd cyfarfod reolaidd y Bwrdd pryd- nawn ddydd Iau, pryd yr oedd yn bresenol, y Parch. J. Rhydwen Parry (Cadeirydd), Parch. J. D. Richards, Mri Moses Kellow, Andreas Roberts, Hugh Jones, G. Parry Jones, R. M. Morris, W. J. Williams, Dr. R. Jones, J. E. Jones, John Hughes (Llan), R. O. Jones (Clerc), ac Edward Jones (Clerc Cynorthwyol). Athrawon. I Derbyniwyd ymddiswyddiad Mr. R. W. Thomas, Athraw Trwyddedol, Trawsfynydd. Gan fod Miss Dora Roberts, o Ysgol Maen- offieren, yn myned yn Ysgolfeistress i Ysgol y Babanod yn y Llan, pasiwyd i hysbysebu fel arferol am un yn ei lie. Yr oedd tymor tri Dysgybl-athrawon yn Ysgol Gymysg Tanygrisiau yn terfynu, ac nid oedd yr un o dan erthygl 50 yn ymgeisio am y lie. Pasiwyd i bwyso ar Bwyllgor Addysg y Sir i gael Athraw Trwyddedig yn eu lie.—Y Cadeirydd, Y mae ton yr Ysgolion yn myned i lawr yn gyflym, a dylem bwyso am gael Athraw Trwyddedig."—Dr. R. Jones, Yr wyf finau yn teimlo fod yr Ysgolion yn myned i lawr, ond dyma y tro cyntaf i mi glywed hyny yn cael ei ddywedyd yn glir o'r Gadair." Pasiwyd i ganiatau cyflog i Miss Lizzie Jones, Gellilydan, yn ol erthygl 50 gan ei bod wedi cyraedd y radd hono.
VW\AAAA^AAAAAAA
VW\AAAA^AAAAAAA<VvVWvAAA/W Ar ol y Ddawns. I Y mae yr ail hunan-laddiad wedi cymeryd lie yn Moffat ddydd Gwener, trwy i Dr. Malcolm Margrave, brodor o Llanelli, oedd yn llaw- feddyg yn Mansfield Place gymeryd Cwsg-bair (Morphia). Cafwyd papur yn ei logell yn dangos fod y weithred yn un oedd wedi ei rhag- feddwl. Dyn sengl ydoedd, a bu mewn dawns nos Iau, pryd yr ymddangosai yn ei iecbyd arferol. Sefydlodd fel meddyg yn Moffat yn mis Tachwedd diweddaf, a bu yn flaenorol i hyny yn Llawfeddyg yn un o Ysbyttai Llundain.
Glowyr a'i Helyntion.__I
Glowyr a'i Helyntion. Y mae Glowyr Lancashire a Sir Gaer wedi penderfynu rhoddi rhybuddion i sefyll allan, er mwyn gorfodi y glowyr sydd heb ymuno a'r Undeb i wneyd hyny. Y mae tri chant a'r ddeg yn Undebwyr a rhyw ddau gant heb ymuno. Y mae Bwrdd Cyflafareddol Deheudir Cymru wedi caniatau codiad o bump y cant yn y cyflogau. Y mae'r cyflogau yno yn awr yn 57J yn uwch nag oeddynt yn ol safon y cyflogau yn 1879.
Methdaliad Gwin Fasnachydd.…
Methdaliad Gwin Fasnachydd. Dydd Gwener, yn Nghaer, cynhaliwyd cyf- arfod cyntaf gofynwyr James Lanham Mayger. Coniston, Mostyn Avenue, Llandudno a gariai fasnach yn mlaen fel Masnachydd gwin a gwir- odydd yn 101, Mostyn Street, Llandudno. Dangosai yr adroddiad arianol fod ei ddyled- ion yn £ 9,343 12s 6c, a meddyliodd fod eiddo gwerth £5,485 18s Ie. Priodolai y Methdalwr ei fethiant i anturiaethau drwg mewn amryw gwmniau lleol." Gadawyd yr achos yn llaw y Derbynydd Swyddogol.
- - - - Tri o Fabanod mewn…
Tri o Fabanod mewn Cist. Dychwelwyd rheithfarn o Lofruddiaeth Wirfoddoi" yn erbyn Mary Nicholls, dynes sengi oedd ynngwasanaeth Mr. W. L. Johnson, Preston Capes, Northants, ddydd LIun yn y trengholiad gynhaliwyd ar gyrphei thri plentyn anghyfreithlon gafwyd yn ei chist. Amheuwyd ei gonestrwydd, ac wrth archwilio ei chist, caf- wyd hyd i gyrph ;y plant. Addefodd mai hi oedd en mham, ac i un o honynt lefain ychydig, ond fed y ddau arail yn feirw pan anwyd hwynt.
I O'R PEDWAR CWR.
I O'R PEDWAR CWR. HYSBYSIR am farwolaeth y Parch. J. Pandy Williams (A.), Rhyl, ddydd Sadwrn. Daeth i Rhyl o Derby, a chynvddodd yr Eglwys yn fawr o dan ei ofal. Yn y Trengholiad ar y corph, cafwyd i'r gwr parchedig farw fel can- lyniad i effaith damwain a gafodd yn Dyserth Gorphenaf 19, pryd y taflwyd ef o gerbyd wedi i'w geffyl gael ei ddychrynu gydag olwyn- farch. Y MAE pum cenhedlaeth perthynol i'r un teulu yn awr yn fyw yn Gateshead-on-Tyne. Y mae Willie a James Stockman yn bedair a saith mlwydd oed, eu tad yn 35, eu taid yn 58, eu hen-daid yn 80, a'u gor-hen-nain yn 104 oed. DYDD Sul, bu farw Mr. William Hughes, The Liver, Beaumaris. Yr oedd Mr. Hughes yn un o foneddigion parchusaf y dref, yn gym- eriad cadarn, ac yn un o arweinwyr y bob!. Bu Gwaith Mwn Llaneurgain (Halkyn), mor enillfa y flwyddyn ddiweddaf, fel y talodd haner cant y cant o elw, er i dair mil o bunau gael eu troi i'r drysorfa wrth gefn. Y MAE Eli Jesse Ward, Sheffield, Rheolwr Cwmni Ward, y cyhoeddwr adnabyddus o'r ddinas hono, yn y ddalfa o dan bedwar cyhuddiad o dwyllo gyda'r cyfrifon a'r llyfrau. GADAWODD Mr. John Doyle, Pendarren, Deheudir Cymru, ei holl gyfoeth i'w gefnder Richard Dawkins, o Athen, yr henafiaethwr enwog. Mae y cyfoeth yn cynwys tiroedd a meddianau yn Ne a Gogledd Cymru. EI y llyfrgell i Goleg All Saints, Rhydychain. WRTH geisio bod yn ddoeth dros fesur gweddusder, bu i'r "Times" wneyd cam- gymeriad chwerthinllyd, trwy gyhoeddi adrodd- iad o ymosodiad a wnaeth Mr. Darlington, Ceidwadwr rhongc ac aelod o Bwyllgor Addysg Sir Ddinbych, ar Mr. Lloyd George. Dywed y "Times" mai "Mr. Darlington, H.M.i." a wnaeth y sylwadau, tra nad oedd ef a wnelo ddim a'r peth yn y gradd leiaf. CAFODD Elizabeth Beckitt, boneddiges o Montana, ddiangfa ryfedd rhag priodi geneth wisgai fel dyn. Ni ddaeth y peth allan hyd foreu'r briodas. Yr oedd hi wedi llwyddo i guddio ei rhyw mor gywrain fel y bu yn gwasanaethu ar ffermydd yn y wlad heb achosi yr amheuaeth lleiaf. 0 ddiffyg rhoddi break mewn pryd ar ei gerbyd Modur, cafodd y gyrwr, dyn o South- port, ei hun mewn helbul ar allt y Penrhyn, Llandudno, gan i'r cerbyd redeg yn aflywod- raethus i lawr yr allt. Yr oedd dau gerbyd o'i flaen, a rhag rhedeg i'r rhai hyny, troes i ochr y ffordd gan ddymchwel ei Fodur, tori braich un dyn, a malu y Modur. CEIR darlun rhagorol o Mr. D. Lloyd George, A.s., Llywydd Bwrdd Masnach yn y "Drych" am Awst 1, gyda chrynhodeb o'i araeth ar addysg Cymru. Y MAE Cymdeithas Gwelliantau yn Llan- dudno wedi trefnu i gael Darlithoedd yn misoedd y gauaf gan amryw wyr enwog. Dr. Andrew Wilson yn siarad ar "Coral"; Mr. Spencer Leigh Hughes, ar Y Senedd o Gallery y Wasg a Mr. Richard Kearton, ar Adar." Yn hyn y mae Llandudno yn gosod esiampl i'r holl drefi cylchynol, gan nas gellir cyfrif gwerth darlithoedd o'r fath i bobl ieuaingc. I CODODD bachgen bin brest ar yr heol yn Llandndno. Aeth a hi adref, ac hysbyswyd yr heddlu. Cafwyd ei bod yn werth £ 180, a thybir iddi lynu yn nghwr gwisg boneddiges oedd yn edrych ar emau yn shop Mri. Wartski. Nos Sadwrn, torwyd i mewn i lythyrdy Colwyn. a lladratawyd amryw bunoedd oddi- yno. Y mae yr heddlu yn chwilio am y troseddwyr. Y MAE y Parch. R. Mon Hughes, Gweinidog y Wesleyaid yn Llanrhaiadr-yn-Mochnant, wedi derbyn llythyr oddiwrth Mr. Carnegie yn addaw dau gant o bunau at gael organ i'r capel. Y MAE Mr. John Burns, mewn papur Sen- eddol yn hysbysu fod rbif y tystysgrifau rodd- wyd allan yn ystod y flwyddyn ddiweddaf i wrthwynebwyr cydwybodol i fuchfrechu eu plant yn rhif 52,391. "Y MAE genym saith o blant," meddai boneddwr anibynol ei amgylchiadau fel rheswm dros ei fod yn feddw. Nid yw hyny yn esgus o gwbl. Pum swllt a'r costau," meddai Cad- eirydd y Faingc. DYDD Llun, yn Chwarel Moelferna, ger Llangollen. gwasgwyd Edward Rowlands rhwng dwy wagen, a maluriwyd rhanau isaf ei gorph yn chwilfriw. Bu farw yn fuan ar ol hyny. CAFODD Hugh Jones, Ysgubor Fawr, Aber- ffraw ei dirwyo yn drwm am dori coes ci perth- ynol i W. H, Jones, Fferam Rhosydd, o'r un lie. Nid oedd y ci wedi gwneyd dim i'r 1 Diffynydd, a thorodd ei goes trwy ei daraw a chareg. BOREU dydd Sadwrn, ganwyd plentyn ar ben y Wyddfa. Dyma'r enedifaeth ar y man uwchaf yn Ngbymru a Lloegr, Aelwyd Cwm, Dyli yw'r aelwyd uwchaf yn Ngbymru, ond y mae pen y Wyddfa agos i fil o droedfeddi yn uwch na hono. MAE y carcharor yn fab i mi," meddai hen wr wrth Faingc Willensden. Ond y mae eich 'ensden. Oiid y m-o e i cii! enwau yn wahanol," atebai un o'r Ynadon. Gwir," meddai yntau. cymercdd.ef enw ei j fam a chymerais inau enw fy nhad." Y MAE Mr. Vincent Jones, wedi ei ddewis allan o 60 o ymgeiswyr yn bass lay cler- Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Y mae Mr. Jones wedi cystadlu mewn dros driugain o weithiau I ar unawdau, ac wedi cnill 53 o wobrau cynt-.f, tair cwpan arian, tlysau, a metronomes. Bara gwyn diguro anferth am chwe'cheiraog yr un ar werth gan E. B. Jones & Co. Nis ge11-1 wch wneyd yn well na rhoddi prawf arnvnt. j CAFODD Evan Blastc, Sefton Park, Lerpwl, ei dairwyo i bum punt gan ynadon Llandudno ddydd LIun am fethu dangos ei drwydded modur pan:ofy-,i-,vyd iddo, ac i bum punt arall am yru y modur yn rhy gyflym. Y MAE yn mhlith praidd Mr. G. Jones, Neuadd Newydd, Llanwnog, Trefaldwyn, oen anwyd gyda thair coes. Y mae y perchenog am roddi benthyg yr oen i Nodachfa y Meth- odistiaid yn Carno i gael arian trwyddo at drys- orfa y capel. BYDD Cymdeithas Henafiaethol Cymru yn cynal ei chyfarfodydd am y flwyddyn hon yn Llangefni. Dechreuir ar y 26ain, ac ymwelir a'r Eglwysi benafol, y Cromlechau, a manau henafol yn yr Ynys yn ystod yr wythnos. Y MAE y Parch. Morris Brynllwyn Owen, B.A.,B.D., genedigol o Abererch, Pwllheli wedi ei benodi yn Broffeswr Athroniaeth yn Ngholeg Caerfyrddin i lanw lie y Proff. Keri Evans, yr hwn sydd yn ymneillduo i roddi ei holl amser t waith efengylwr. Gweinidog gyda y Bedydd- wyr yw Mr. Owen. CYFLWYNA pobl Croesoswallt dysteb i'r Parch T. Redfern, y Ficer, ar ei symudiad i Ddinbych. Y MAE y Parch John Jenkins, Rheithior Llanymawddwy, wedi ymddiswyddo ar gyfrif henaint a llesgedd. Y Parch Owen Hughes, Ciwrat Aberffraw sydd wedi ei benodi i'w le. DYDD Mawrth, yr oedd Mr. E. Green, Moors, Pool Quay, yn tori cae o yd, a'r un diwrnod yr oedd gwair yn cael ei gario yn Baschuch. Y MAE Mr. a Mrs. Davies, Meistr a Meistres Tlodty Ellesmere, wedi ymddiswyddo ar ol bod yn ngwasanaeth y Gwarcheidwaid am 32 mlynedd. Y MAE Cyngor Dinesig Colwyn Bay wedi pasio penderfyniad yn eu cyfarfod ddydd Mawrth i beidio caniatau Lletydai Cyffredin yn y Dosbarth. Dadleuai un aelod nad oedd arnynt angen siglenau yn ein plith fel ardal.
RHOS A'R CYLCH.
RHOS A'R CYLCH. Yn nghyfarfod rheolaidd Bwrdd Gwarch- eidwaid Dosbarth Gwrecsam, dydd lau diweddaf. pasiwyd i ostwngy tal am Fuchfrechu o 5/- i 3/6. Effeithia y cyfnewidiad hwn ar yr holl ardaloedd poblog o amgylch Gwrecsam, a golyga arbediad o £ 150 yn y flwyddyn i'r trethdalwyr. Dywedir bod y tan dinystriol ddigwyddodd yn y Public Hall, Gwrecsam, a'r masnachdai cysylltiol wedi peri colled o £ 10,000. Nid oedd un o'r masnachdai wedi eu hyswirio am eu Ilawn werth ond ymddengys mai y rhai gant y golled fwyaf yw y Brodyr Breeze, Argraffwyr, a pherchenogion y Wrecsam Journal. Mae y papur wedi ei atal dros dro. Mae Pwyllgor Eisteddfod y Rhos wedi cyhoeddi mantolen yr Eisteddfod ddiweddar. ac y mae cyfrif yn foddhaol iawn. Dengys weddill wewn Haw o £ 59 10s 3c, yr hyn sydd yn gosod y pwyllgor mewn safle i wneyd trefniadau ar gyfer Eisteddfod wych y flwyddyn nesaf eto. Cynhaliodd Ysgolion Sabbothol y Tabernacl, Calfaria a Soar, eu Te Parti blynyddol yn y lie cyntaf a nodwyd dydd Mercher diweddaf. Eisteddodd tua 400 wrth y byrddau, a mwyn- hawyd gwledd ragorol ganddynt. Gwein- yddwyd gan lu o chwiorydd ewyllysgar o'r tair Ysgol. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod o Fawl, o dan lywyddiaeth Mr. J. D. Davies, Blaenau Ffestiniog. Datganodd y Cor a'r gynulleidfa chwech o Anthemau ac amryw donau cynulleidfaol. Yr oedd yr Anthemaa oil yn dda, a'r olaf, Bydd melus gofio y cyfamod" yn ardderchog. Arweiniwyd y canu yn y rhan gyntaf gan Mr. Isaac Jones. a'r ail ran gan Henry Jones. Cafwyd unawdan hefyd gan Miss. M. J. Williams a Mr. Isaac Jones, ac adroddiad effeithiol gan Miss Sarah J. Williams. Rhoddodd Mr. W. S. Jones (ieu) anerchiad werthfawr ar yr angenrbeidrwydd am symlrwydd yn nghaniadaeth y Cysegr. Yr oedd yr wyl drwyddi yn foddhaol iawn. Newydd prudd i'r ardal hon oedd y newydd daenwyd boreu Sadwrn am farwolaeth Mrs. Joseph Taylor, Pant, yr bon a fu farw yn dra sydyn yn yr oedran cynar o 33 mlwydd. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus iawn fel Miss Lizzie Connard, ac athrawes yn Ysgol y Cyngor, Poncie, hyd amser ei phriodas flwydd- yn yn ol. Yr oedd yn ferch ieuanc rinweddol a pharchus, ac yn aelod ffyddlon yn nghapel Saesneg Hill Street. Nis gellid dymuno cys- ylltiad priodasol dedwyddach nag oedd rhyng- ddi hi a'i pbriod. Cydymdeimlir yn fawr ag ef yn ei brofedigaeth sydyn a chwerw. Claddwyd ei gweddillion dydd Mawrth, yn mynwent y Wern, yn nghanol arwyddion amlwg o alar gwirioneddol. A.A.A Ã A A A
Yfed Wisci hyd Farwolaeth.
Yfed Wisci hyd Farwolaeth. Dydd Llun, yr oedd nifer o ddynion o dan arolygiaeth y Rhingyll Langton yn symud celfi adran o'r Royal Welsh Fusiliars o'r Orsaf i'r Barracks. Bu yr adran yn gwersyllu yn Blackpool. Yn mhlith y pecynau yr oedd jar yn cynwys wisci heb ei ddyfrbau. Pa fodd y daeth i'r pecyn sydd anhysbys, a dywed yr Awdurdodau Milwrol yn Nghaernarfon na wyddant ddim am dano. Wedi i'r paciau gyr- haedd y Drill Hall, dechreuodd rhai o'rdynion yfed y wisci fel yr oedd, heb ddodi dim dwfr ar ei ben, Dechreuodd rhai o honynt ymloni ac eraill fyned yn ddiffrvvyth. Hysbyswyd un o'r heddgeidwaid o'r peth, a chafodd ef hyd i bed war o'r dynion yn ymgreinio mewn dirdyn- iadau, ac yn dyoddef oddiwrth effeithiau am- lwg gwemvyniad trwy alcohol. Yr oedd dyn o'r enw Mitchaei Jones, mewn un o'r ystafell- oedd yn hoilol anymwybocoi ar ol yfed y wisci fel yr oedd heb ddwfr. Er pob ymdrech o eiddo y meddyg, bu farw J a chiudwyd ei gorph i'r treng-dy. Cariwyd un o'r dynion eraill adref, r. bu raid cynorthwvo dau arall i'w c?¡,rtreh.
-QYNQOR DINESIQ LLANRWST.…
QYNQOR DINESIQ LLANRWST. I 'y?aliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener" pryd yr oedd yn bresenol, Mri. WiUiam Hughes (Cadeirydd) Dr. W. J. Owen (Is-gadeirydd); Parch. W. Cynwyd Williams; J. Rhydwen Jones; Griffith Jones; W. G. Jones; W. J. Williams; T. Rogers Jones R. R. Owen (Clerc); George Wynne (Arolygydd); E. M. Jones (Treth GasglYdd); a Thomas Hughes (Clerc Cynorth wvoI). II- r Llyn Geirionydd. ?nionodd Mr. David Owen. Talyllyn, *"°nydd, lythyr yn gofyn am dal am y rled wnaeth dwfr y Hyn i'w dir mewn can- IY"iad i'w orli6ad trwy waith y Cyngor yn ei iLu. gydag argae yn ei ben isaf.-Ystyrid fod y vvel-thred gyfreithiol ddelid gan y Cyngor yn ddl b?wl iddynt groni y Llyn, ac nad Oeddynt yn gyfrifol i dalu dim i Mr. Owen. A- Cyflenwi Dwfr. j o ^mcaa-gyfrifid y gost o gario y bibell ddwfr p ntirion at Primrose Cottage, &c., yn 1,27. "Btwyd i wneyd y gwaith ar y deall fod y chenogion yn cyfranu un ran o bedair at y tíOst. ? J^yd i gael amcangyfrif o'r draul i gario \V r 1 r tai ar ffordd Llangernyw, a chael r¡bOd gan y perchenogion y swm ydynt vn Odlawn ei gyfranu at y gost hono. Goleuo. "I Oedd bil y Cwmni yn Is 3c, ond ar rOddiad Mr. T. R. Jones, tynwyd ef i lawr i p71, 19s Oc, o'r rhai yr oedd ;£30 wedi eu talu. p asiwyd i dalu y 19s Oc gweddill. 11" P4siwyd i ofyn i Mr. T. R. Jones barhau i Volygu y Goleuni Cyhoeddus am y tymor hwn -0. s X Parch. W. Cynwyd Williams a alwodd "? ?t y priodoldeb o gael rhai o'r lampau yn V  ?° oleu drwy'r nos.-Pasiwyd i ofyn am df? ?rau y Cwmni am wneyd hyny. h Man-Reolau. Arolygydd a ddywedodd nad oedd yr un e yd wedi ei Nodi yn ystod y mis. Buasai Yn "wylusdod mawr iddo ef gyda'i waith pe Man-reolau (Bye-laws) yn nglyn a chadw och yn y dref.—Y Clerc a ddywedodd fod eagoll am gael Rheolau Adeiladu &c.-Ar gyn- vpad Mr. W. J. Williams pasiwyd i anfon at 'Yngo?-au eraill am eu Rheolau, a bod y y?gor i edrych trwyddynt, a'u cael mor fuan '? ? byddo modd. h Arianol. I Yr oedd y Trethgasglydd wedi casglu 18/2  ?ethi, 1/10 o'r Dreth Dwfr, a ?11 7s 1 lc o'r tolla u wrth y Farchnadfa Cyfanswm o "? 75 1 lc adroddiad y Clerc yr oedd ?17 8s 5c o fihau i'w talu. Ar adroddiad y Pwyllgor "?Qol argymellwyd talu biliau i'r swm o 4106 0s7c> Pasiwyd i'w talu 011. Gadewir ?ddilj o ?301 9s 4c mewn Haw. 11, Nefoedd y Navies. I mdyra y Navies sydd yn gweithio yn Do! R3'rOg i'r dref i letya, a galwodd y Clerc sylw difrifol at y mater. Yr oeddynt yn tynu at eu gilydd i'r Lletydai cyffredin, a chysgent hyd L 3m ?od ar y Horiau. Gan nad oedd lie yn y Tlodt Y i dderbyn merched crwydrol yr oend yn rha° id iddynt fyned i'r Hetydai hyn; ond cafwyd *7 ?Itan ar hyd yr heolydd un noson hyd dau 0 r gloch y boreu. Yr Arolygydd Woollam a ? ostQriodd trwy adael iddynt gael myned i gy8gu i lofft ei ystabl. Yr oedd yn deall fod uedai yn cael eu codi ar y mynydd wrth y R"laith fel y ceid gwared a'r Navies yn fuan.- br. Owen a hysbysai fod y Huesdai bron yn borod '-Mr Wynne a ddywedodd mai pedwar '?letY Cyffredin oedd yn y dref. Yr oedd tai 'aill befyd yn cael eu gorlenwi gan y bobl ? ?y. ond y Llettydai cyffredin ydoedd waeth- A. '-Wedi siarad pellach pasiwyd i benodi yr y lygYdd Woolam i ofalu rhag y gorlenwi yn e lettYdai cyffredin,-Dr. Owen, "Pe bai yn e j9ael yn orlawn, ni fyddai yn ddoeth troi y « ?yn allan i'r heol.Mr. Rogers Jones, 9, Ile fyddai hyny yn iachach 0 lawer iddynt na ?hysgu fel moch ar draws eu gilydd."—Pasiwyd I r Arolygydd wneyd adroddiad ar yr hall dai, er cym?ryd cwrs cyfreitMb! os gwelid angen am y?y. 11 Amrywiol. r I ?erc a hysbysodd iddo anfon yr hysbys- r"Ydd a geisid gan y Cyngor Sirol yn nglyn a'r ? yrdd yn y Dosbarth, er mwyn dwyn cyflym- a y Moduriau i lawr i ddeng milltir yr awr. o PenOdwyd dau aelod o'r Cyngor i weled un y lodau Catrawd y Tanddi&odwyr yn nghylch y u Vn yr oedd cwyn wedi ei wneyd ei fod yn 'Lb ?noh ei hun oddiwrth ei ddyledswyddau. D,??th gair o'r Cyngor Sirol yn hysbysu eu bn???? ? barod i wasanaethu rhybudd ar y rhai  yn dal Byrddau bysbysebu fel tenantiaid WrtK yr orsaf i derfynu y cyfryw denantiaeth. \\r "?odd Cwmni y Goleuni Trydanol eu bod w sym?? tri o'u polion, a gofynent am gael ?atad i adael y Hall. Yr oeddynt hefyd yn neyd eu goreu rhag peri unrhyw achos cwyn erWydd v mwg o'u gwaith trwy ddefnyddio fl0.difwg. a.nIi, BoM & Stennett, Dolgarrog, a anfonas- ant i hysbysu eu bod yn cyfarwyddo y sawl 83,dd yn ,cfalu am y peiriant teithio i ofalu am d? ??'' y?ddo pan yn dod trwy'r dref, ac i ?f nyddio y glo difwg. '?odwyd Dr. Owen a'r Cadeirydd i gyn- ChO¡i y Cyngor yn y Gynhadledd gynhelir ?'n ?ghaer ar bwngc y Sefydliad at Ddarfod- 'digaet'?l-, Barnai y Doctor mad oedd o un clibyn coili amser gyda pheth o'r fath, gan na eSld ef byth. al Mr, ?? Williams, Dolafon, a anfonodd i a l W 'Y?v  Cyngor at y Bwrdd Hysbysebu p ,°? 3_y 'r C??m Hysbysebu, oedd yn awr rb\?. ng ei dy ef a Queen's Terrace. Yr oedd y Ilo5*vv 7n ta6u allan o linell y tai, ac yn ? ?? ?s rai gyHawni aHendid tu oi Iddo.- f ?.. 'wyddodd y Clerc fod gan y Cyngor hawl i orfo'" ]]' 'd { 5 °c^ 1 r mell adeiladu gael ei chadw.— P,Ixvyd i a?. ?y Cwmni i ddodi y Bwrdd Y" ol yn y cae. Y Meinciau Cyhoeddus. Daeth cwyn yn nghylch safle y Faingc ddododd y Cyngor wrth Garegednyfed ar dir anghyoedd y Milwriad Higson a'r un sydd wrth Lodge Bronderw.—Pasiwyd i ddau aelod o'r Cyngor fyned i olwg y ddau le.-Dr. Owen a ddywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo fod wedi cefnogi i ddodi y seddi hyn i fyny gan fod plant, &c., yn tyru arnynt i gadw twrw a dychrynu ceffylau wrth basio. Dal Pysgod. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Pysgod- feydd Dyffryn Conwy yn galw sylw at y niwed a wneid i'r pysg yn yr afonydd trwy yr arfer- iad o ddal rhai o dan fesur. Argymellent i'r mesur fod yn chwe' modfedd.—Y Cadeirydd a ddywedodd eu bod hwy fel Cyngor wedi pasio rheol yn gwahardd dal pysgod o dan chwe' modfedd yn Llyn Crafnant. Y Ffyrdd. DarlIenwyd llythyr oddiwrth Mr. Robert Lloyd, Nantywrach Fawr, yn galw sylw at y lie peryglus oedd ar y Brif-ffordd gyferbyn a'r Felin Ucha.—Yr Arolygydd a ddywedodd nad oedd fence o gwbl ar ochr y ffordd yn y lie, ac yr oedd yno ddibyn serth.—Y Clerc a ddywed- odd fod mater pwysig yn codi gan y golygid cyfrifoldeb mewn achos o ddamwain. Cadw y ffyrdd mewn adgyweiriad oedd y cytundeb rhyngddynt a'r Cyngor Sirol, ac nid cau y ffyrdd allan trwy wneyd cloddiau. Pasiwyd i anfon at y Cyngor Sirol yn nghylch y lie o dan sylw ac yn ngwyneb y ffaith fod pwyllgor il eistedd i ystyried holl fater y ffyrdd, pasiwyd i Mr. Wynne dynu allan amcan-gyfrif o'r gost ar y ffyrdd o fewn cylch y Cyngor er mwyn ei gael yn barod i'w osod o flaen y Pwyllgor. Yr oedd costau y ffyrdd wedi myned i fyny yn aruthrol, yn neillduol mewn manau lle'r oedd gan y Cyngorau Dinesig allu i wario heb ofyn caniatad. Rhoddid terfyn ar hyny yn y dyfodol. Iechydol. Anfonodd y Cyngor Sirol y ffigyrau yn nglyn ag iechyd yr ardal a'r Sir. Gofynant am i sylw ardenig gael ei dalu i dri pheth: 1. Fod cyfrif yn cael ei gadw o'r rhai fyddent feirw yn y dosbarth heb fod yn perthyn iddo ac o'r rhai oedd yn perthyn iddo, ond yn marw mewn lleoedd oddiallan iddo. 2. Fod y Cyngor yn cynyg diheintio yrystafelllle byddo un o dan ddarfodedigaetb wedi marw ynddi. 3. Fod y I Frech Goch yn cael ei wneyd yn glefyd nod- adwy.—Cyflwynwyd y mater i'r Pwyllgor lechydol. Dyfrhau a Thori Gwrychoedd. I Mr. W. J. Williams a alwodd sylw at I absenoldeb y drol ddyfrio'r heolydd, a'r cwyno mawr oedd o herwydd y llwch.—Mr. Rogers Jones, He mae Mr. Griffith Jones? A ydyw oddicartref yn awr ? Efe sydd i ofalu am y peth (Chwerthin mawr). Pasiwyd i'r Arolygydd alw sylw y perchen- ogion at y gwrychoedd oeddynt eisiau eu tori ar ochr y ffyrdd trwy y dosbarth.