Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

HEDDLYS YBLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

HEDDLYS Y BLAENAU FFESTINIOG. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). I Dydd lau, o flaen G. H. Ellis (Cadeirydd), I William Owen, John Lloyd Jones, J. Vaughan I Williams, a W. P. Evans, Ysweiniaid. I Tadogi. Sarah Jones, 3, Frongoch, Caeclyd. Blaenail Ffestiniog, a gyhuddodd Walter Davies, Llwynhir Terrace, Conglywal, ofod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlon anwyd Mai 8.— Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Achwynyddes, a Mr. William George dros y Diffynydd. Tystiodd yr Achwynyddes iddi fod yn cyfeillachu a'r Diffynydd i fyny hyd Mehefin, pan y cwerylodd ag ef yn Nghoed Cwmbowydd. Daethant i gymod drachefn nos Sadwrn, Awst 11. Bu iddo ymddwyn yn anweddaidd gyda hi yn Nghoed Cwmbowydd y noson hono, a gwnelai felly yn barhaus hyd i fyny i'r noson y gorfu iddi adael Dolawel oherwydd ei chflywr. Gwadai yn bendant i Edward Jones fod yn anweddaidd gyda hi, ac na bu am dro gydag ef yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Pan ddywedodd wrth y Diffynydd am ei chyflwr, dywedodd na wnai dro gwael gyda hi, ac y priodai hi. Tystiwyd yn mhellach gan Kate Jones, Maggie Pughe, Catherine Jane Williams, Robert Griffith Evans, Brondwyryd (yr hwn a rybuddiwyd gan y Faingc i fod yn ofalns i ddweyd y gwir) J. Owen, Martha Jam Jones, a Morris William Jones.—Y Diff- ynydd a wadai yn bendant fod a wnelo ddim a'r Achwynyddes o Mehefin hyd Hydref 21. Gwelodd hi gyda Edward Jones yr ail wythnos yn Awst, ac yr oedd ef yn cadw cwmni i Ellin Ann Roberts, 1, Bethesda Terrace, yr adeg hono. Addefodd iddo fod yn anwedd- aidd gyda hi Hydref 21. Tystiwyd yn mhellach gan Owen Edwards, William Edwards, John Morgan, ac Ellin Ann Roberts. Dywedodd y tyst diweddaf ei bod gyda'r Diftynydd yn Colwyn Bay ar Wyl y Bangc yn Awst, a bu yn cyfeillachu ag ef yn ystod Awst. Pan aeth i geisio nodi yr amser yn sicr, bu iddi gymysgu cymaint fel y cafodd rhybudd gan y Faingc i fod yn ofalus i ddywedyd y gwir. Bu yn gweini ar lan y mor am bum' mis a haner. Yn Mehefin yr aeth i weini, ond yr oedd adref yn ei hoi bytbefnos cyn Gwyl y Bangc yn Awst Yr oedd hi wedi gweled Edward Jones yn è,)à i fyny o Goed Cwm- bowydd gyda'r Achwynyddes haner awr wedi deg y nos. Dywedodd y Cadeirydd fod y Faingc yn hoilol glir eu mheddv. 1 mai y Diffynydd oedd tad y plentyn. Archeb am 1/6 yr wythnos, costau y Llys a'r tystion, gini at draul yr enedigaeth, a gini i'r cyfreithiwr. Yr oedd Hannah Roberts, 88, Manod Road, BIaenau Ffestiniog, wedi gwysio Thomas Thomas, Blaenddol Farm, Ffestiniog, fel tad ei phlentyn anghyfreithlon, ond ni ddaeth yr achos yn mlaen. Kate Williams, 9, Cwmorthin Road, Tany- grisiau, a wysiodd John Thomas Jones, 15, Cwmorthin Road, fel tad ei phlentyn anghyf- reithlon. Ymddangosodd Mr. William George ar ran yr Achwynyddes, a Mr. R. O. Davies dros y Diffynydd. pohiriwyd yr achos y Llys diweddaf trwy gydsyniad y ddau gyfreithiwr. Yn awr, hysbysodd Mr. George nad oedd ei ochr ef yn bresenol; ac ar gais Mr. R. O. Davies, taflwyd yr achos allan. Bessie Ellenor Roberts, 3, Rock Terrace, Blaenau Ffestiniog a gyhuddodd Owen Thomas, 21, Glynllifon Street, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlon anwyd Mai 16.—Ymddangosodd Mr. W. George dros yr achwynyddes, ac am- ddiffynid gan Mr. R. 0. Davies.—Mr. George a ddywedodd i anweddusder yn yr achos hwn gymeryd lie ar Gorphenaf 8, a ganwyd y plentyn Mai 16, yr hwn a wnelai yr amser yn 312. Yn y lie peryglus a elwid, Coed Cwmbowydd' y bu yr anweddusder."—Yr achwynyddes a ddywedodd iddi fod yn cyfeill- achu a'r Diffynydd er's blwyddyn i Ionawr diweddaf. Bu'n anweddus gyda hi. Byddent yn myned am dro i Goed Cwmbowydd ar nos Fercher a nos Wener. Gorphenaf 8 y gwelodd y Diffynydd ddiweddaf i gamymddwyn. Deallodd am ei chyflwr yn Medi, a siaradodd ag ef ar y mater Hydref 4. Bu gyda Andreas Jones ddwy waith trwy Wynne Road a'r Square, ond ni ymddygodd yn anweddaidd gydag ef. Bu yn siarad a llawer o langciau ac yn canlyn pedwar yn ystod llai na dwy flynedd. Yr oedd ar ei llw yn dywedyd na chamymddyg- odd gydag Andro."—Andreas Jones, a dyst- iodd ei fod wedi ei orfodi trwy wys i ddod i'r Llys o Ddeheudir Cymru, lle'r oedd yn byw yn bresenol. Bu gyda'r Achwynyddes am dro trwy Wynne Road a'r Syuare yn nechreu yr haf, ac ar ol hyny, ond nid oedd yn gallu nodi yr amser yn fanwl. Ymddygodd ym anwedd- aidd gyda'r achwynyddes y ddau dro hyny.- Mr. Davies a ddadleuodd fod y Diffynydd yn glir a'r plentyn gan fod gormod o amser rhwng yr adeg y bu gyda'r fam ag adeg yrenedigaeth, ac nad oedd cymeriad yr eneth mor Ian ag y ceisiau Mr. George ei wneyd. Archeb am 1/6 yr wythnos, dim costau genedigaeth, gini i'r cyfreithiwr, a'r costau cyffredin.—Y Diffynydd, Dim dimeu byth mae Dr. Thomas; Doctor yr eneth ei hun, yn deyd fod y plentyn yn ei oed iawn."

Bwrdd Rheolwyr Addysjg Dos-I…

VW\AAAA^AAAAAAA

Glowyr a'i Helyntion.__I

Methdaliad Gwin Fasnachydd.…

- - - - Tri o Fabanod mewn…

I O'R PEDWAR CWR.

RHOS A'R CYLCH.

Yfed Wisci hyd Farwolaeth.

-QYNQOR DINESIQ LLANRWST.…