Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
TRAWSFYNYDD. I
TRAWSFYNYDD. I TORI GWAIR.-Cymerodd cystadleuaeth ddyddorol le ar gae Tynllyn, nos Iau, pryd y bu tynu torch rhwng 16eg o Bladurwyr am dbri gwair. Cafodd y Beirniad cryn drafferth i benderfynu pwy oeddynt enillwnr y gwobrwy- on. Dyfarnasant sel y canlyn 1. Mr. Evan Jones, Glanllafar cydradd ail, Mri. Griffith Jones, Bronasgellog, a David Tudor, liryn- maenllwyd; 3, Mr. Robert Jones, Glanilfar. Y WERSYLLFA FILWROL.—Y mae y Wersyllfa wedi eangu yn ddirfawr eleni ar yr hyn ydoedd y blynyddoeddblaenurui. Gofelir am y Wersyllfa ar hyd y tymor gan nifer o'r Corphlu Milwrol Breiniol (Royal A rmy Corps), Cadben Mitchell o'r Corphlu Meddygol Breiniol, gydag Adran 38 o'r Peirianwyr Breiniol, yn cynwys Cadben Key; Cadben Placey, D.S.O.; a Sergeant-Major A. D. Hoar, F.D.C. Daeth y Peirianwyr Breiniol yma o Chatham, Ebrill 9, ac arhosant hwy a'r swyddogion eraill sydd yn ffurfio y Wersyllfa hyd mis Hydref, pan yr ymadawant am Cork. Y Milwriad Tylden yw Prif Swyddog eleni eto, ac y mae yn boblogaidd iawn yn mhlith ei bobl a phawby daw i gyffyrddiad a hwy. Y mae Catrawd yr Howazers o Woolwich, Col- chester, Bradford, a Newcastle yma yn bresenol, ac ymadawant heddyw (ddydd lau). Dydd Llun, cafodd Is-adran 86 (\onl-,vich) yr adrodd- iad o fod wedi cyraedd y i i, I d uwch" mewn saethu. Byddant hwy yn aros hyd yr adeg y cyfyd y Wersyllfa oddiyma. Nos Lun, gollyngwyd ergydion o'r goleuni ymchwiliadol (search light). Peleni yw y rhai hyn yn ffrwydro yn yr awyr uwchben gwersyll y gelyn, er mwyn datguddio eu holl symudiadau a'u safle i'r fyddin fyddo yn ei tanio. Yr oedd yr olwg arnynt o dros dair milltir o'r lie yn bryd- ferth nodedig, ac yn datguddio mor gywrain yw y dyfeisiadau yn adran filwrol ein teyrnas. Pair presenoldeb y milwyr gryn fywiogrwydd yn yr ardal ar yr adeg hon, pan y mae pobpeth mor dawel a marwaidd yn ein plith oherwydd y dirwasgiad yn y fasnach lechi. Dydd Iau, bu Arglwydd Methuen yn y Wersyllfa yn gwneyd Arolygiad Swyddogol ar y dynion a'r holl le. Daeth yma efe a'i Is- swyddog. Byr iawn bu ei arhosiad yn y lie, a da genym ddeall fod ei Arglwyddiaeth wedi ei foddhau yn fawr gyda phobpeth yn y Gwersyll. Gwelwn fod amryw o Blaenau 'Ffestiniog wedi agor masnachdai (dros dro) yn ymyl y Wersyllfa. Y mae Mr. Alun Jones wrthi yn fywiog gyda'i newyddiaduron, &c. Mr. Row- land Hughes, yn tynu lluniau, a llon'd ei freichiau o waith ganddo gyda'r milwyr. Y mae Mr. a Mrs. William Jones Penny ar eu goreu gyda choginio pysgod a thatws (chipped) a lie hynod o gyfleus ganddynt at y pwrpas bwnw. Dywedir y bydd i waith mawr agor at y gauaf, gan y bwriedir adeiladu llawer oystablau at eivsgodi y ceffyiau fel na byddont allan trwy J.1) tywydd. Hefyd codir adeiladau eraill at gyfleusderau y Wersyllfa.
-.-TANYGRISIAU.yyyI
TANYGRISIAU. y y y Y GWYLIAU.—Eleni eto y mae llu mawr o wyr ieuaingc a merched ein hardal wedi dod ar ymweliad a'u hen fro genedigol, rhai o'r trefi a'r dinasoedd mawrion, ac eraill o'r Deheudir o wlad y pyllau glo; ac y mae golwg dda a siriol arnynt oil. Dymunwn i'r oil o'n plant yn mhob rhan o'r byd bob llwyddiant ar eu gyrfa mewn gwahanol gylchoedd bywyd. PRIODAS.—Dydd Mawrth diweddaf, priod- odd Miss L. A. Williams (Llinos Moelwyn), a Mr. Thomas Williams, Llwynypia (gynt o Bl. Ffestiniog), a dymunwn i'r ddeuddyn hir oes, a phob dedwyddwch yn eu cylchoedd newydd. Y COR PLANT.—Drwg genym ddeall na chafodd Cor Plant Bethel mo'r wobr yn Eisteddfod Pwllheli dydd Llun diweddaf ond dywed gwyr profiadol yn y byd cerddorol na raid i'r cor hwn ostwng dim ar eu penau o herwydd eu datganiad gwnaetbant waith rhagorol yno. Da genym ddeall hefyd fod Cor Meibion y Moelwyn wedi rhoddi boddlonrwydd mawr yn y Penmaenmawr. MARWOLAETH.—Drwg genym glywed y newydd pruddaidd am farwo!aeth Mrs. Grace Rowlands, priod y diweddar Edward Rowlands, Dolrhedyn. Cymerodd hyn le yn nhy ei chwaer yn Neheudir Cymru. Yr oedd yn wael er's amser maith, ond daeth y diwedd yn annisgwyliadwy er hyny. Yr oedd yn chwaer i Mr. Humphrey Roberts, Loudon House. Y mae cvdymdeimlad dyfnaf yr ardal a'r teulu tralIad us yn eu profedigaeth.
PENRHYNDEUDRAETH.I
PENRHYNDEUDRAETH. LLWYDDIANT.—Da genym ddeall am lwydd- iant ein cyfaill ieuanc Mr. Tom Lloyd (Llwyd Eryri) o fasnachdy Mri. T. W. Jones a'i fab. Enillodd y wobr flaenaf gyda chymeradwyaeth allan o 27 am yr englyn goreu i'r Mel yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli. Englyn o'i waith ef hefyd oedd yn dod yn ail fel y deallwn. Bu yn llwyddianus allan o nifer fawr o'r blaen y Groglith diweddaf. Eled mlaen fel y gallon ei longyfarch mewn budqugoliaeth fwy eto. Wele yr englyn a enillodd:- Olew per yw'r met purnvyn,-a golud Dirgelaidd blodeuvn; I'r iach gynyrch y gwenyn, O'u llys y daw er lies dvn. GWIBDAITH.—Ddydd Sadwrn, ymwelodd eglwys Carmel (A.) a Chastell Harlech. Yr oedd yr hin yn hynod foddhaol, a chymerodd oddeutu 80 y fantais ar y cyfle i fwynhau eu hunain oddifewn i furiau cedyrn y Castell. Yr oedd y paratoadau hefyd, mewn pob math o ddanteithion blasus, yn hollol foddhaol. Wedi eistedd bawb wrth y byrddau, daeth boneddwr ymlaen o blith yr ymwelwyr Seisnig oedd yn y lie ar y pryd, a safodd wrth un o'r byrddau. Cafwvd sylwadau caredig iawn ganddo. Mewn pcrthynas a'n llongyfarch fel parti am gymeryd y fath ddyddordeb yn y plant, a thalodd war- ogaeth uchel iawn i Gymru am eu moesoldeb, a rhoddodd amryw engreifftiau o hyny yn ei araeth, ac wrth derfynu dywcdodd ei fod yn j caru rhoddi ychydig at y draul, a thaflodd ddernyn arian i'r bwrdd. Diolchwyd yn gynes iddo. Cafwyd allan wedi hyny mae Rhag- fleunydd i General Booth oedd y boneddwr caredig. Buasai y treat goreu pe gosodid ei araeth yn gyflawn yn y golofn hon, ond ni chaniata gofod y tro hwn. Cafwyd canu, adrodd, a chwareu. Mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr yn mhob adran o raglen y dydd, a diolchwyd i bawb am gynorthwyo i wneyd y wibdaith yn ddyddorol ac adeiladol. —J.R.
RHOS A'R CYLCH.
RHOS A'R CYLCH. Aeth llu o'r ardal hon i Eisteddfod Corwen dydd Llun, a daethant yn ol gyda banerau chwifiog wedi enill cryn dipyn o anrhydedd yn y cystadleuaethau. Allan o saith oeddynt wedi parotoi i'r ornest, enillodd Cor Plant Jerusalem (M.C., y Capel Mawr), y wobr gyntaf, am ganu YFordaith," (D. Hopkin Evans). Yr arweinydd ydoedd Mr. J. H. Davies. Enillodd y Rhos Excelsior o dan arweiniad Mr. Joseph Bellis, y wobr yn yr ail gystadleuaeth i gorau cymysg a'r Maelor Party Cefn Mawr, dan arweiniad Mr. John Wright, yr ail gystadleuaeth i Gorau Meibion. Llongytarchwn y corau a'u harweinyddion ar eu llwyddiant. Daeth y tenor ieuainc llwyddianus Mr. J. Watkin Hughes, Rhos, allan yn gyntaf yn y gystadleuaeth ar Y dyfnder cryf," (D. Emlyn Evans), am y wobr o 30/ Enillodd ef a Mr. J. Powell Edwyrds hefyd y ddeuawd allan o lu o gystadleuwyr, Mae y ddau hyn yn gantorion addawol ac yn prysur enilllle anrhydeddus ar lwyfan y gan. Mae y Parch Llewelyn Bowyer, East Ham, Llundain, yn treulio ei wyliau yma ar hyn o bryd. Mae yn dda gan yr ardalwyr ei groes- awu i'w hen fro, a gweled fod ei galon yn ym- lynu wrthi. Caffed lawer o adnewyddiad ar gyfer gwaith a chyfrifoldeb y dyfodol yn y ddinas fawr.
GARN DOLBENMAEN. - -I
GARN DOLBENMAEN. LLWYDDIANT.—Dydd Gwyl y Banc, aeth nifer fawr oddiyma i Pwllheli i gystadlu ar wahanol betbau a buont yn ffodus i gipio rhai o'r prif wobrwyon. Y mae yn bleser genym longyfarch ein Cor, ar eu gwaith yn enill y wobr allan o bedwar o Gorau yn yr ail Gystadleuaeth, hefyd Mrs Eifion Jones, yr Unawd Soprano, Mrs Eryri Jones ar yr Unawd Alto neu Faritone, deallwn fod cewri yn i ymgodymu a hwy. Hefyd yn y Mabol Gampau nid oedd y cylch yma heb eu cynrychiolwyr, enillodd Mr. W. O. 'Williams, Penybont, Gwpan Arian hardd, fel marchogwr olwyn- farch, a Mr. Davies, Cwm Mawr, a orfu yn y redegfa farlws. AR EU GWYLIATT.-YR oedd yn bleser genym weled nifer o'r bechgyn adref ar eu gwyliau o'r Deheudir, yr oedd golwg lewyrchus arnynt, dymunwn iddynt hin daymunol i fwynhau eu seibiant yn arogl bersawrus blodeu'r grug. Y TYWYDD. Cwynir yn gyffredinol ynghylch y tywydd. Ychydig sydd wedi cael eu gwair, tra nad ydynt fawr gyda dechreu yn y Pennant. MARWOLAETHAU.—Swn galar sydd yn ein bro ninau fel broydd eraill ar eu tro. Bu farw plentyn bach Mr. Samuel Hughes, Ty'r Capel, a chladdwyd hi yn Nolbenmaen dydd Sadwrn diweddaf. Cydymdeimlir yn fawr a'i rhieni yn eu profedigaeth. Hefyd, dydd Llun, hebryngwyd gweddillion Kattie, anwyl ac unig blentyn Mr. Henry ac Ann Williams, Ty Llwyd, i'w cadw yn nhawelwch Mynwent Dolbenmaen. Kate bach cyn bod ond dwyflwydd oed, Cyn pechu 'rioed, ga'dd alwad" At lu o seintiau bach i'r Nef, Clywch adlef y croesawiad,— Na wylwch ddim, rieni mwyr. Mae cwyn mor groes i gariad.' Li v/YDMAWR. A A
Corph dynes mewn Cist.
Corph dynes mewn Cist. Y mae gwr a gwraig yn y ddalfa yn Marseilles, am fod ganddynt gist gyda chorph dynes ynddo wedi ei dori yn ddarnau. Daeth y ddau boreu ddydd Mawrth gyda'r tren o Monte Carlo, a rhoddasant y gist a bag yn nghofal un o weision y reilffordd i'w ddodi yn y cloakroom ac yn mhen ychydig wedi'n gofynasant i'r Porter anfon y gist i Lundain. Tynwyd sylw amheus y Porter trwy yr arogl anhyfryd ddeuai o'r gist. Galwyd hedd-geidwad yno, a chymerwyd y ddau i'r ddalfa. Yr esboniad a roddasant am fod y corph yn eu cist ydoedd, i ddyn arall ladd y ddynes yr hon oedd yn gariad iddo, ac yna ddiangc ymaith. Dodasant hwythau y corph mewn cist rhag iddynt gael eu cyhuddo o fod wedi ei lladd. Cedwir y ddau yn y ddalfa er gwneyd ymholiad pellach i'r holl amgylch- iadau.
i--- -? I - - Hunan-IaddiacS…
i- ? Hunan-IaddiacS PencSerfynol. Yn ystod nos Sadwrn crogodd glowr o'r enw Robert WiiJifims, Maesydre. Wyddgrng, ei hun mewn Cull pecderfynoi iawn. Oddiwrth y tystiolaethau ar y trengholiad, ymddengys iddo fod yn vfed vn drwm dydd Sadwrn, a phan ddaeth Hirer, bygythiodd fywyd ei wraig. Dechrenodd falu v ciodrefn mewri clull gwallgof- us, fel y galwyd yr heddgeidwaid i mewn, a dodwyd ef yn ei wely. Can ei fod yn parhau i fygwth bywyd y wraig, cymerwyd ei ellyn, cortyn a'i braces ymaith, ac nid arhosodd Mrs. Williams yn y ty y noson hono. Gan ei bod hi yn methu caei mynediad i'r ty boreu Sul, gofynodd am gynorthwy yr hedd!n. Pan awd i mewn, cafwyd Robert Williams yn hollol farw wedi crogi ei hun gyda llinyn ribanau, a darn o lian wedi eu tafiu ar draws hoelen dwylath uwchben y llawr.
[No title]
i Mae digonedd o Fenyn Fresh am lie y pwys. Lard Gwyn goreu am 6c y pwys Siwgr Gwyn bras am 2c y pwys g:,n E. B. Jones & Co., Canton House. Canton House,
CYFLENWAD DWFR TRAWSFYNYDD.
CYFLENWAD DWFR TRAWSFYNYDD. Syr.—Y mae Ilaweeo siarad ac ysgrifenu wedi bod yn nghylch y cyflenwad dwfr i'r pentref hwn, ond yr ydym mor amddifad o gael gan ein Cynrychiolwyr ar y Cyngorau i symud yn mlaen a phe y buasent oil yn byw yn Korea. Soniwyd am rhyw Lyn rhwng yma a phen Cwm Prysor, ond wedi anfon llythyr bach diniwed at y perchenog, a siarad diniweitiach fyth na hyny, daeth y cyfan i ben heb i ddim gael ei wneyd i bwrbas. Yr oil a gafodd y pentref oedd clywed yn anuniongyrchol fod yn an- mhosibl cael y lie am fod y milwyr yn meddwl am dano. Wrth gwrs, y mae y milwyr mewn cwr arall o'r ardal, ac yn ddigon pell oddiwrth y Llyn oedd mewn goiwg breuddwydiol gan ein Cyngorwyr. Y gwir ar y mater yw. nid oes gan ein cynrychiolwyr ar y Cyngor Dosbarth yr awydd lleiaf am symud gyda'r mater oll- bwysig hwn. Pa reswm sydd mewn bod pentref o faint3 Trawsfynydd heb ddim ond ffynonau i gario dwfr o honynt, a'r rhai hyny yn hollol agored i'w llygru, tra y mae digonedd o ffynonellau y gellir tynu dwfr o honynt yn nghyraedd y lie ? Meiddiwn ddywedyd, pe deuai y Swyddog Meddygol (Dr. Frazer) i'r pentref, a phe gwnelai archwiliad o dy i dy y caffai achos i osod cwynion difrifol o flaen Bwrdd y Llywodraeth Leol am gyflwr truenus y tai o ran eu trefniadau iechydol. Pa reswm sydd mewn goddef degau o dai yn y lle-yn nghanol y Pentref,—heb unrbyw ddarpariaeth- au iechydol o fath yn y byd, a'r lleill yn waradwyddus o ddiffygiol a diymgeledd ? Penod ddu fuasai yr un am yr afiechydon fedodd blant anwyl y lie i'r bedd yn gynamser- 01 oherwydd y carthffosydd anfoddhaol, ac absenoldeb carthffosydd yn y nifer luosocaf o engreifftiau. Mawr ddysgwyliwn na rhaid wrth ysgrifenu fel hyn eto ar y mater. PENTREFWR.
"BAND STAND" BLAENAU FFES-j…
"BAND STAND" BLAENAU FFES- TINIOG. Mr Gol.—A gaf fi gongl fechan o'ch papur i alw sylw at y peth a elwir yn Band Stand." Gwyddoch, mae'n ddiau, am yr Umbrella goeg-addurnol a godwyd ar ganol y Square pan oedd Mr Mayberry yn teyrnasu yn ein plith, ac aelodau y Cyngor Dinesig yn gorfod yswatian fel cywion ieir pan fydd y cudyll yn hofran uwch eu penau.' Cyfranwyd swm syl weddol, llawn digon at ei godi, pe'r elsid at y gwaith mewn modd deheuig, ac yr oedd i fod yn gynllun i'r holl wlad, os nad i'r holl fyd, o'r hyn a ddylai Band Stand fod ond Ow yr erthyl dibwrpas a gafwyd wedi'r cwbl. Nid yw amgen nag esgus o Stand mor bell ag y mae bod at wasanaeth Seindorf yn y cwestiwn ac yn bresenol ei brif wasanaeth yw bod yn He cyfleus i blant direidus chwareu arno a'i ddringo. Cysgad rhag haul neu wlaw nid ydyw gan fod ei ben wedi ei godi yn rhy agos i'r lleuad o'r man y cafwyd eiliw o'i gynllun at hyny, y mae yn rhy gyfyng i'r un Seindorf allu sefyll arno i chwareu, a'r cylch o'i gwmpas yn rhy fychan i bobl allu sefyll heb fyned ar y blodau, &c., amgylchynant y llwybrau. Pwy rif sawl gwaith yr addawodd y Cyngor gael gwella pethau yn y fan hon fel y gall y Seindorf ddod yma i chwareu er adloni y trigolion ? Dyma r haf yn prysur fyned heibio, ac adeg ragorol at wneyd y gwaith yn cael ei golli. Oni fyddai y Seindorf yn foddlon i gynal Cyngerddau amrywiol ar y lie er cynorthwyo i gyfarfod y draul o wneyd. y gwelliantau angen- rheidiol ar y lie. Y fath at-dyniad fyddai cael ein Seindorf i chwareu yno ambell noson yn yr wythnos pan fyddai y tywydd yn ffafriol. Yr ydym fwy ar ol yn hyn nag un ardal yn Ngogledd Cymru. Dyma le i roddi gwaith i nifer o bobl sydd yn awr wedi gorphen yn Nghwmbowydd. Pwy ddaw a'r mater yn mlaen yn ein Cyngor Dinesig ? Ofer talu un bunt a'r hugain ( £ 21) fel cyflog, heb son am gostau eraill, ar y Square tra y bydd dolur- llygad sydd ar ei ganol yn aros mor anolygus a diwasanaeth. Yr Eiddoch, J. RETHDALWR.
.TT:'HARLECH.
TT:' HARLECH. COSB HAEDDIANOL.—Yn Heddlys y Pen- rhyn, ddydd lau, anfonwyd William Jones, Tynygrisiau, i garchar am dri mis am esgeuluso ei wraig a'i deulu. Yr oedd Bwrdd y Gwarch- eidwaid wedi colli golwg arno er's blynyddoedd, a llwyddodd i osgoi pob ymgais i'w wasanaethu a gwys, fel yr oedd f.97 yn ddyledus arno i'r Bwrdd am gynal ei deulu. Cafwyd hyd iddo yn byw gyda dynes arall yn Neheudir Cymru.
Family Notices
Genedigaethau. HUMPHREYS .-Gorphenaf 30, priod Mr. Hugh Humphreys, Draenogau Mawr, Talsarnau, ar fab (cyntaf-anedig). WILLIAMS.-Awst 5, priod Mr. Robert C. Williams, Ty Newydd, Tanygrisiau, ar fab. Marwolaethau. DAVIES .-Gorpbenaf 31, bu farw Mr. John Davies, Minydon, Bettwsycoed, yn 54 mlwydd oed. Claddwyd ef dydd Sadwrn diweddaf yn mynwent St. Michael gan dyrfa luosog a pharchus. Gadawa wraig a dau o blant i alaru eu colled. "A..A.
Advertising
DIOLCHGARWCH. Y R ydym drwy hyn yn dymuno diolch yn garedig i'r lluaws cyfeillion a'r cymydog- ion am eu cydymdeimlad a ni yn ein profedig aeth lem o golli ein hanwyl dsd William Edwards. Ydym ei Feibion, J. W. EDWARDS. W. R. EDWARDS. Brittania House, Bethania.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. A glywsoch chwi am y Bargeinion diguro sydd yn Shop E. B. Jones & Co. Pine Apple (Chunks), yn pwyso 2 bwys am 5c yr un, a Pears mewn Tins am 5Jc Aprecot mawr am 6c. PELLSEINYDD.—Y mae Gwifrau y Pellsein- ydd wedi eu gosod trwy yr ardal, a'r Gorsafau wedi eu hagor rhwng Porthmadoc, Criccieth, a Pwllheli. Yn Porthmadog y mae y Brif Orsaf. Bydd i'r Gwifrau gael eu gosod i'r gwahanol Swyddfeydd &c., trwy yr ardal mor fuan ag y bydd yn bosibl, fel y gellir siarad o'r ystafell lie y byddis gyda chyfeillion yn Pwllheli, a'r manau eraill a enwyd, fel pe buasent yn yr ystafell gyda ni. Bydd hyn yn gaffaeliad anmhrisiadwy i ni fel ardal. Arol- ygir yr holl waith gan awdurdodau y Llythyrdy, fel na raid ymboeni gyda y Cwmni hwn a'r Cwmni arall. YN LLANDRINDOD.-Y mae y cyfeillion can- lynol yn treulio eu gwyliau yn Llandrindod Mri. Bevan, Manod; T. Jones (Cynhaiarn); W. Jones (Ffestinfab); Mr. a Mrs. Llewelyn Williams, Penrhyndeudraeth. COLOMENOD.—Yn Arddangosfa Pwllheli, bu y cyfeillion canlynol yn fuddugol gyda'u colomenod: Homer, 1, John Humphreys, Penygroes, Bethania; Fantail, Jacobin, neu Tumbler, 2, John Hughes, 191, Manod Road Tumbler, 1, H. C. Roberts, 8, Tanyfron Terrace. Y SEINDORF .-Ni fyn ein Seindorf fod yn segur, a phrawf hyny eu bod er gwaethaf y dirwasgiad presenol am fynu rhwyfo trwy yr holl anhawsderau, a chadw wrth eu gilydd. Dydd Sadwrn, ymwelsant a Bettwsycoed, a mwynhaodd y trigolion a'r ymwelwyr eu chwareu meistrolgar yn fawr iawn.—Dydd Llun, aethant i Criccieth i chwareu, ac yno cawsant dderbyniad croesawus. Diwedd yr wythnos nesaf byddant yn cychwyn am y Deheudir i gynal cyfres o Gyngherddau a chystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid oes dim llawn mor ddymunol i'ch oeriar ddiwrnod poeth a Tin dau bwys o Apricot, yr hwn ellwch ei gael am 6c g E. B. Jones &na Co. LLWYDDIANT.-Mae genym i longyfarch y Bardd llwyddianus Bryfdir ar ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Corwen ddydd LIun diweddaf. Myfyrdraeth ar Farwolaeth y dail" oedd ganddo, ac y mae yn un o feirdd rhagorol Cymru am gyfansoddi yn y dull ymsonol. Os nad ydym yn camgymeryd, y mae hon yn wythfed Eisteddfod iddo fod yn fuddugol ynddi. FFRWYTHAU FFRESH.-Nid oes dim gwell ar y tywydd poeth yma na Ffrwythau Ffresh. Gellwch gael rhai bob dydd yn syth o'r gerddi oddiwrth y Liverpool Fish, Fruit and Vegetable Stores, Ffordd Newydd, gyferbyn a Surgery Dr. W. Vaughan Roberts. COR MEIBION Y MOELWYN.—Cafodd y Cor hwyl nodedig gyda chynal Cyngerdd ddydd Llun yn Penmaenmawr. Yr oedd yr adeilad yn orlawn a'r canu yn bobpeth a allesid ei ddymuno. Cymerodd Miss Gwladys Glyn Williams ran gydag adrodd a cbanu, a thyn- odd y ty i lawr bob tro. Diau mai nid hwn yw y tro olaf i'r Cor gael ei alw yma i gynal Cyngerdd. Gwnaed elw da oddiwrth y Cyn- gerdd at ddi-ddyledu Capel y Methodistiaid. A ganlyn oedd y gwaith yr awd trwyddo yn y ddau Gyngerdd:—Aberystwyth a Trewen (Trefniant D. Emlyn Evans), Y 'Deryn Pur, Martyrs of the Arena, Milwyr y Groes, Cydgan y Pererinion, Destruction of Gaza, Rhyfelgyrch Gwyr Harlech (Trefniant W. O. Jones), Cyd- gan y Mynachod, a Dewrion Sparta, gan y Cor. Datganwyd Unawdau gan Mri. Ted Jones, Edward Edwards, John Williams, E. R. Evans. Chwareuodd Miss A. E. Owen- Davies, A.R.C.M., amryw weitbiau yn feistrol- gar dros ben ar yr Organ. Adroddodd Miss Gwladys Glyn Williams "The progress of Madness," a Daeargryn San Francisco yn nodedig o dda, a'r un modd y canodd, Gyda'r Wawr a'r Gloch." AR YMWELIAD.-Y mae nifer fawr o gyfeill- ion o'r Deheudir a manau eraill wedi dod drosodd am eu Gwyliau. Da genym eu gweled yn edrvcb mor hoyw a siriol. Dymunwn iddynt wyliau dymunol tra yn ein plith. CYFARFOD DIRWESTOL.-Nos Sadwrn, wrth Orsaf y Diphwys, cynhaliwyd cyfarfod dirwestol. Cafwyd areithiau grymus, a gwran- dawiad astud. Diau fod y cyfarfodydd hyn yn nodedig o fuddiol at ddod a'r genadwri i ymyl rhai na fuasent yn myned i adeilad i wrandaw ar neb yn siarad. Nis gall neb ddywedyd beth fydd effaith y cyfarfodydd hyn, a da y gwnel y cyfeillion eu cynal yn mlaen yn ystod tymor yr haf. DARLITH.-Heno (Nos Iau) yn nghapel Jerusalem, bydd y Parch. H. Michael Hughes, B.A., Caerdydd, yn traddodi ei Ddarlith boblog- aidd ar "Tanymarian." Nis gallasai Mr. Hughes ddewis testyn mwy cydnaws ag anian- awd ei feddwl i draethu arno, heblaw ei fod yn ben ddysgybl i'r arwr enwog y bydd yn llefaru yn ei gylch. El yr elw at gynorthwyo Mr. Edward Jones, Maenofferen, yr hwn sy'n wael er's agos i ddwy flynedd. Y CYNHAUAF.-Y mae y ffermwyr wrthi yn brysur iawn gyda y cynhauaf ynmhob man ar hyn o bryd er mai digon anffafriol yw y tywydd. Dywedir fod cnwd da o hono, llawn cystal a'r flwyddyn ddiweddaf. BANK HOLIDAY.—Dydd Llun diweddaf, aeth canoedd oddiyma gyda y gwabanol wib- deithiau, ond y lleoedd a gafodd fwyaf o ym- welwyr o Ffestjniog y tro yma ydoedd Criccieth a Pwllheli. Yr oedd y tren 8.25 ar y Llinell Gul yn orlawn, a phawb yn sathru traed eu gilydd, ond deallwn i bobpeth basio yngysurus. Yr oedd Mr. Roberts, Gorsaf-feistr y Duffws, wedi* rhoddi yr holl gerbydau oedd ganddo I wrth law i fyned gyda y tren hwn, a gwnaed pobpeth ellid er cysur i'r teithwyr. Neidiai Battalion fechan o'r 23rd i'r First Class Car- iages (agored) heb drafterthu neb i dy&d r cover oedd arnynt. ARDDANGOSFA LLANGOLLEN.-FelygwJr J oddiwrth ein colofnau hysbysiadol y c^rj^ ,d y drydedd Arddangosfa yn Nghaeauy ? i Hotel, Ltangollen, Dydd Iau, Med ( 1907, pryd y cynygir ?300 mewn GwoDrj ^J Gellir cael y manylion ynghyd a'r ]E n t ryFOf gan yr ysgrifenydd Mr. E. D. jo n es rd Hall, Llangollen. ,;aD) HOGI ARFAU.-Y mae Seindofr Oakeley yn brysur ddysgu dernyn yr :aJ gystadleuasth yn Belle Vue, Mancheste r' i gymeryd He dydd Llun, Medi 2. ?:? dernyn yw "Robin Hood." a chyfans hon gan Lieut. Charles Godfrey.  j ugeiniau at y Bandroom bob nos i'w c yj l
I NODION O'R OCrf.
I NODION O'R OCrf. Nid oes ball ar awen y cyfaill s!? Herbert Hughes, Llanrwst. Y dydd 0 ? ??.c bu ar ymweliad a Llyn Geirionydd, aC f y canodd i'r Llyn hwnw :— ,i "O! yr anwyl Eirionydd—Nardus ?', j Drwy dy Sant ath Brydydd j Dirfawr swyn drwy dy fro sydd, Eneinia ddawn Awenydd." fûd y" J Wrth son am Lyn Geirionydd, gwela.fis 11\11. I Arwest i'w chynal yno ar yr 22ain o f Y mae y cyfail! croesawus Mr. Isaac Y mae y cyfaill croesawus Mr. Isaac yn addaw gwledd i'r corph wedi y j;rdd S1: at ei Anedd newydd, ac wrth gwrs Dy GC" o'r Nant yn gofalu am y rhan Arwes ° seddol o'r wyl. Penodiad doeth a gwir angenrheid?? ?if yr un a wnaeth yr Arglwydd Garlge .iiydd, argymelliad Arglwydd Raglaw ArfOll, trw, ddodi Mr. Robert Parry, ferylly ]3ett,,V ?5? ycoed, ar restr Ynadon y Sir. 1£ \?e'? drosodd a throsodd drachefn gan Y IJdia.etb. 0 idog yn y Senedd mai 11 cn. Yadigell' wasanaeth yw y penodiadau hyn. ? ? Mr. Parry y mae hyny yn wir, canys neb yn ardal y Bettws a wnaeth fwyIna11', ,f cymaint ag ef, dros ei ardal. Ytla.Q, 0 Ynadol y Bettws ac ar FaioS^ yp? Llanrwst rai na wnaethant y cysg° ?g? 0 Llanrwst rai na wnaethant y cysgo'd ?:y "wasanaeth" i'r cylch y ps???ecy'? eistedd ar yr achosion ddygir o'u uueny^i LIysoedd hyn. Bod ya Sais ac yn "D? ?ad Llysoedd hyn. Bod yn Sais ac yn I yn bwysig, ac nid dibwys fel CY mwy" ?? j' I Faingc ydoedd cael cydyn o flexv0d1i.11 trwyn a gwisgo clos pen glin. l'yrnae ,? Parry yn ddyn diymhongar, P"? yfli$eU' aeddfed iawn ei farn. Efe yw yr ur"g y-,n duwr a Rhyddfrydwr sydd yn eisledd ?1 e Faingc yn y Bettw1 ac byderwn y cY gf ? ? arni, ac y bydd el farn ambynol Yl ej gy' theimlo yno, gan fod gwir angen ? ei gy, orthwy "i wneyd barn uniawn y' orthwy "i wneyd barn uniawn yn rhwng gwr a gwr." Boed iddo ??'? <? ''?' oes i addurno y Llys a'i bresenoideb, A"
i.'V'."VVV'V''v.V''v''VV'/'./VVV'VVVV-I…
.'V'VVV'V''v.V''v''VV'VVV'VVVV I At ein Gohebwy-  dd!!¡;' "'+ MACHNOWYSON.—Na chyffrowch nad all sylw y Genedl o dan beaawd pgp?c? no, ar lenyddiaeth ac .ci pap' ir'ci.! wneyd y gronyn lleiaf o ni?ved i rieb c'? sawl a'i cyhoedda. Mewn papur a1 g? y  saw a 1 cy oe a. Mewn pap dirn ell rhai o "oraclau Penmachno ',veal gOL, traed mewn telmau, fel y ceir Brawdlys yn lied fuan. Gade-,vchl ddylltf?v hau eu hunain am y cyfaod by Y ymbrangcio. i,,
Advertising
JUI¥ g 1 makes | S good cakes. p CAKEOMA is the N |«! better way-of making cakes. It is a perfectly pure cake \m flour of fine quality, with all i the dry ingredients wanted i sr a cake. The proportions are exact and the mixing is & iect. ? It saves time and trou? U ? and it makes the nicest and ? lightest cakes possible. j£T 3 It makes any and evej V 3 cake and not only one k? r ? And it is economical  ? use-it costs less than the  old-fashioned way. 1# ? Fron..ncrcc.? StOres, and   »| In the British packets, each ? one eenWn!ng a sh? 0?1 1 practical cake recipes. I| J LATHAM & Co., Ltd., ?, LATI-lAj)l Co., ?i HVERPOOL. k li' B 7 4  G