Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

TRAWSFYNYDD. I

-.-TANYGRISIAU.yyyI

PENRHYNDEUDRAETH.I

News
Cite
Share

PENRHYNDEUDRAETH. LLWYDDIANT.—Da genym ddeall am lwydd- iant ein cyfaill ieuanc Mr. Tom Lloyd (Llwyd Eryri) o fasnachdy Mri. T. W. Jones a'i fab. Enillodd y wobr flaenaf gyda chymeradwyaeth allan o 27 am yr englyn goreu i'r Mel yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli. Englyn o'i waith ef hefyd oedd yn dod yn ail fel y deallwn. Bu yn llwyddianus allan o nifer fawr o'r blaen y Groglith diweddaf. Eled mlaen fel y gallon ei longyfarch mewn budqugoliaeth fwy eto. Wele yr englyn a enillodd:- Olew per yw'r met purnvyn,-a golud Dirgelaidd blodeuvn; I'r iach gynyrch y gwenyn, O'u llys y daw er lies dvn. GWIBDAITH.—Ddydd Sadwrn, ymwelodd eglwys Carmel (A.) a Chastell Harlech. Yr oedd yr hin yn hynod foddhaol, a chymerodd oddeutu 80 y fantais ar y cyfle i fwynhau eu hunain oddifewn i furiau cedyrn y Castell. Yr oedd y paratoadau hefyd, mewn pob math o ddanteithion blasus, yn hollol foddhaol. Wedi eistedd bawb wrth y byrddau, daeth boneddwr ymlaen o blith yr ymwelwyr Seisnig oedd yn y lie ar y pryd, a safodd wrth un o'r byrddau. Cafwvd sylwadau caredig iawn ganddo. Mewn pcrthynas a'n llongyfarch fel parti am gymeryd y fath ddyddordeb yn y plant, a thalodd war- ogaeth uchel iawn i Gymru am eu moesoldeb, a rhoddodd amryw engreifftiau o hyny yn ei araeth, ac wrth derfynu dywcdodd ei fod yn j caru rhoddi ychydig at y draul, a thaflodd ddernyn arian i'r bwrdd. Diolchwyd yn gynes iddo. Cafwyd allan wedi hyny mae Rhag- fleunydd i General Booth oedd y boneddwr caredig. Buasai y treat goreu pe gosodid ei araeth yn gyflawn yn y golofn hon, ond ni chaniata gofod y tro hwn. Cafwyd canu, adrodd, a chwareu. Mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr yn mhob adran o raglen y dydd, a diolchwyd i bawb am gynorthwyo i wneyd y wibdaith yn ddyddorol ac adeiladol. —J.R.

RHOS A'R CYLCH.

GARN DOLBENMAEN. - -I

Corph dynes mewn Cist.

i--- -? I - - Hunan-IaddiacS…

[No title]

CYFLENWAD DWFR TRAWSFYNYDD.

"BAND STAND" BLAENAU FFES-j…

.TT:'HARLECH.

Family Notices

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

I NODION O'R OCrf.

i.'V'."VVV'V''v.V''v''VV'/'./VVV'VVVV-I…

Advertising