Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

\' -..._- 1 V '""'Prwyaeth…

,. 0..-.-...•"'aid Dwyrain…

- tyr, YOO a Lleihad. -.

Rhagoriaeth y Prif-weinidog.I

Tymer _drwg Mr. -Balfour.-I

ILLANRWST.

BETTWSYCOED.

I I ---HARLECH.'-"I

TREFRIW. -I

Ysgoloriaethau Ysgbl Ganol-I…

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. CHWAREL Y GRAIGDDU.-Hysbysir ni fod y chwarel uchod ar ail gychwyn yn ei llawn brysurdeb, ac y bydd yn debygol y caiff o bedwar ugain i gant o ddyni6n eu cymeryd i mewn yn ystod yr wythnos nesaf. Newydd da yw hwn, yn neillduol yn ngwyneb amgylch- iadau yr ardal ar hyn o bryd. Dymunol iawn fyddai clywed swn adfywiad yn yr oil o chwareli y cylch fel na byddo angen am i neb o weithwyr yr ardal fyned ymaith i chwilio am waith. YN GWELLA.—Da genym weled Mrs Rich- ard Williams, Park Square wedi gallu dod adref o'r Ysbytty yn Lerpwl, a'i bod yn teimlo lawer iawn yn well ar ol bod yno. Y GLOCH DAN.—Boreu heddyw, yr oedd nifer o ddynion mewn helbul anaele yn ceisio canu y peth a elwir yn Gloch Dan," yr hon sydd ar ben math o brie igam-ogam wrth waelod Pont y Queen's. Os nad all y Cyngor Dinesig fforddio cael rhywbeth amgen i alw aelodau y Gatrawd yn nghyd pan fydd angen am eu gwasanaeth, byddai yn well toddi y Gloch a dodi y pric ar dan gynted ag sydd bosibl. Pa synwyr sydd fod yn rhaid i ddynion gribo i fyny ar ben y railings i allu canu yr ertbyl cloch hon, a'r pric yn ysgwyd fel gwialen bysgota? Dylid cael amgen y trefniant hwn at alw y Gatrawd at eu gilydd. Gobeithio nad yw pen cam y pric yn awgrymu camedd yn mhenau y sawl sydd yn gyfrifol am dano. CYMDEITHAS GYNORTHWYOL GWEITHWYR CHWAREL OAKELEY.—Nos Fawrth diweddaf yn y Neuadd Gyboeddus, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas uchod, Mr Owen Roberts, Tymawr, Glanypwll (Llywydd y Gym- deithas) yn llywyddu. Caed adroddiad manwl o gyfrifon y Gymdeithas am y flwyddyn yn di- weddu Gorphenaf 1907 gan Mr W. J. Row- lands, yr ysgrifenydd. Dangosai y ffigyrau fod swm y cyfraniadau i drysorfa y Gymdeithas am y flwyddyn yn ^880 2s., ac i'r swm o £ 190 3s. gael ei dalu mewn claf-dal a £75 ar farwolaeth- au yn ystod y flwyddyn. Cafwyd tystiolaeth yr Archwilwyr, y rhai roddent ganmoliaeth uchel i'r modd y cedwid y cyfrifon ac i'w cy- wirdeb, a phasiwyd yn unfrydol i'w derbyn. Dangosid i'r swm o cl3,269 9s. gael ei dalu mewn claf-dal yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf, a £ 1,287 10s. ar farwolaeth aelodau. yn ystod yr un cyfnod. Dewiswyd y personau canlynol yn swyddogion i'r Gymdeithas am y fiwyddyn ddyfodol Ymddiriedolwyr, Mri. Robert Evans, New Street; a John Hughes, Conglywal. Trysoryddion, Mri. J. Joseph Jones, Lluest; ac Owen Roberts, Tymawr. Ysgrifenydd, Mr W. J. Rowlands, Glanypwll Terrace. Hefyd dewiswyd Pwyllgor a Phrif- glaf Ymwelwyr am y flwyddyn. Pasiwyd ychydig gyfnewidiadau yn Rheolau y Gym- deithas, ac i danysgrifio yn flynyddol at y Con- valesent Home y Rhyl. Dygid tystiolaeth ffafriol i fanteision arbenig y Cartref gan nifer o'r gweithwyr brofasant o'i fendithion, ac an- ogwyd yn gryf ar i'r gweithwyr Cymreig roddi mwy ogefnogaeth i'r sefydliad, gan nad oeddym fel gweithwyr i'n cydmaru a'r Saeson yn ein cefnogaeth i'r sefydliad gwerthfawr hwn ya ein mysg.

- -..- - - - - .-.,.,- - -…

Advertising

Family Notices

I 1Mr. R. J. Campbell. jj