Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

\' -..._- 1 V '""'Prwyaeth…

,. 0..-.-...•"'aid Dwyrain…

- tyr, YOO a Lleihad. -.

Rhagoriaeth y Prif-weinidog.I

Tymer _drwg Mr. -Balfour.-I

ILLANRWST.

BETTWSYCOED.

I I ---HARLECH.'-"I

TREFRIW. -I

Ysgoloriaethau Ysgbl Ganol-I…

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Iau (heddyw) o flaen G. H. Ellis, W. P. Evans, J. Lloyd Jones, a J. Vaughan Wil- liams, Ysweiniaid. Ymosod. Robert Cadwaladr Williams, Cynfal Terrace, Ffestiniog, a gyhuddodd Morris Evans, Pen- gwern Villa, Ffestiniog, o ymosod arno Ebrill 12.—Mr. R. O. Davies a eglurodd nad ellid myned yn mlaen gyda'r achos yn y Llys o'r blaen am fod y mater o flaen Llys arall. Heddyw gwnaeth gais am i'r achos gael ei daflu allan am nad oedd o un pwrpas ei gadw i lusgo ar lysrau y Llys.-Ymneillduodd y Faingc, a phenderfynasant ohirio yr achos hyd yr Heddlys cyntat yn Hydref. I Tori Deddfa'r Chwarel. I Mr. Wm. Owen, Goruchwyliwr Chwarel Llechwedd, a gyhuddodd David Davies, 9, Tanygrisiau Terrace, o droseddu Deddfau Neillduol 27 a 28 trwy ddefnyddio Scraper haiarn gyda twli yn y chwarel.—Dirwy 2/6 a'r costau, 11/- trwy'r oil. Tynu a Rhegi. Y Rhingyll Owen a gyhuddodd William Thomas, Cwmbowydd Road, o dynu a rhegi ar hyd yr-heol Gorphenaf 28.-Nid ymddang- osodd, ond daeth ei wraig yn ei le, a sylwodd y Faingc na wrandewid yr achos yn ei absenol- deb ar ol y tro hwn gan ei fod yn myned o'r cyraedd bob tro. Yr oedd y Swyddog yn dy- wedyd ei fod yn warth ar y lie pan mewn diod. -Swllt a'r costau 9/6 trwy'r oil. Gofynid am amser i dalu. Caniatawyd hyd ddydd Sadwrn, neu 14 niwrnod o garchar. Meddw ac Afreolus. -1 Yr heddgeidwad John Jones a gyhuddodd Thomas Carter, gwas y Cigydd sydd yn cyflen- wi y Wersyllfa a chig o fod yn feddw ac afreol- us yn Trawsfynydd Awst 6.—Dirwy 2/6 a'r costau. Meddw ac Afreolus. Yr Heddgeidwad Evan Davies a gyhuddodd Richard Owens, Ardudwy Terrace, Traws- fynydd, o. fod yn feddw ac afreolus Gorphenaf 19, ar y ffordd yn y pentref.—Dirwy 2/6 a 9/- o gostau. Rhybudd i berchenogion Cerbydau. Yr heddgeidwad Evan Davies a gyhuddodd John Roberts, Saermaen, Tyllwyd Terrace, Trawsfynydd, o fod heb oleu ar gerbyd a yrid ganddo Gorphenaf 20, tua una'rddeg o'r gloch y nos.—Addefodd y trosedd, ac mai cael ei gadw yn y Camp a ddarfu.—Dirwy 2/6 heb gostau. Pysgotta gydag Ystyllen. Alfred Davies, Ceidwad afonydd o dan Mr. Oakeley, a gyhuddodd John Hughes Roberts, London Terrace, Tanygrisiau o bysgota gydag ystyllen yn Llyn y Garnedd ar Gorphena 27.— Addefodd y trosedd. Dywedond y swyddog nad oeddynt yn pwyso am ddirwy drom, ond er mwyn rhybudd i eraill.-Dirwy swllt a'r costau gydag archeb am i'r ystyllen gael ei dinystrio. [Yr oedd y L!ys yn eistedd pan oeddym yn myned i'r Wasg.]

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

- -..- - - - - .-.,.,- - -…

Advertising

Family Notices

I 1Mr. R. J. Campbell. jj