Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

\' -..._- 1 V '""'Prwyaeth…

,. 0..-.-...•"'aid Dwyrain…

- tyr, YOO a Lleihad. -.

Rhagoriaeth y Prif-weinidog.I

Tymer _drwg Mr. -Balfour.-I

ILLANRWST.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL Yr Eglwys Sefydledig. St. Mary.—10, Parch, C. W. Davies. 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst.—10, Parch. J. Morgan. 6, Parch C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.—Parch. Owen Owens, Lerpwl. Heol Scotland-Parch. O. S. Jones, Deganwy'. Yr Annibynwyr. Tabernacl—10 a 6, Parch. W. Cynwyd Wil- liams. Ebenezer-Cyfarfod Gweddi. Y Wesleyaid. Horeb-Mr. D. O. Jones, Blaenau Ffestiniog. St. James (English Chapel).-Rev. F. D., Tomkinson, Colwyn Bay. Y Bedyddwyr. Penuel.—Mr. H. Eryri Jones, Garn. LLWYDDIANT.-Y mae genym i longyfarch Mr H. Berry, ein gwerynwr enwog, ar ei waith yn enill gyda'i fel yn Arddangosfa Din- bych a Fflint. Nid hon yw y fuddugoliaeth gyntaf i Mr Berry yn y cyfeiriad hwn. Derbynied Mr W. Jacob Jones, Queen's Terrace, ein llongyfarch ar ei waith yn graddio r B.Sc. Mae ei alluoedd yn maesydd gwyddon- iaeth yn dra hysbys. Mae genym hefyd i longyfarch y gwyddon- ydd medrus Mr Caradog Mills, mab talentog Mr Edward 'Mills, U.H., Plas Helyg, ar ei waith yn pasio arholiad Bwrdd Addysg Llun- dain. Pwngc yr Arholiad ydoedd, Gwyddon- iaeth Anianyddol." Ymgeisiodd yn y Trydydd Dosbarth (Honours), a saif ei enw yn mhlith y rhai uchtlf ynddo. Y mae ganddo yn awr wyth o Dystysgrifau enillodd o dan y Bwrdd uchod. Y mae dysgwyliadau Cymru yn uchel wrth Mr Mills, ac hyderwn yr arbedir ei fywyd a'i nerth i fod o wasanaeth mawr iddo, a'r deyrnas yn gyffredinol. FFAIR.—Ffair dawel iawn gafwyd ddydd Mercher. Gwerthid y gwartheg yn bur rhwydd, ond araf iawn oedd y gwartheg blithion yn myne 1. Ychydig o geffylau oedd wedi dod Gwerthid y Perchyll am o 18s i 23s yr un. Wyau, 11 a 12 am swllt. Ymenyn, Is a Is Ic y pwys. Tatws, 6s y sachaid. Dofed- nod, o 3s 6c i 4s y cwpl. Hwyaid, o 4s i 5s y cwpl. LLWYDDIANT.-Llongyfarchwn Mr. D.. D. Parry, Athraw Cerddorol, ar ei lwyddiant gyda chyfarsoddi Darn Cyfaddas i Blant yn Eistedd- fod Corwen. Hefyd, am ei lwyddiant gyda'i Gor o Colwyn Bay yn mhrif gystadleuaeth y Corau Meibion. Nid hon yw y fuddugoliaeth gyntaf i Mr. Parry yn yr wyl hon. Hefyd, da genym ddeall mai Mr. William Hughes, Monumental Works, Station Road,, ydoedd y buddugoi gyda'r Pwyntii Ddarlun o Hen Garchardy Owain Glyndwr." Nid hon oedd y fuddugoliaeth gyntaf i Mr. Hughes yn Eisteddfod Corwen gyda'i Bwyntil. Llongyf- archwn yntau hefyd. Yr oedd 16 yn cystadlu gydag ef. Enillodd Mr. Thomas Jones, Plastirion, bedair ail wobr yn Arddangosfa Abergele, gyda ei anifeiliaid porthiantus. Llongyfarchwn ef yn galonog. YR ARDDANGOSFA.—Prydnawn ddydd Mercher, cynhaliwyd pwyllgor yr Arddangosfa pryd yr oedd Mr. T. Hartley Bibby, y Llywydd, yn y Gadair. Prif waith y cyfarfod ydoedd dewis Swyddogion Maes (Field Officials), i ofalu am y gwahanol adranau perthynol i'r Arddangosfa ar y maes. Y mae y rhagolygon eleni yn well nag y buont erioed, a'r oil sydd yn ofynol yn awr i wneyd yr Arddangosfa y fwyaf llwyddianus er ei sefydliad yw, cael tywydd braf. Y mae Mr. Watling wrthi ddydd a nos yn gosod pethau mewn trefn, ac yn hyn y mae yn gynllun i'w ddilyn gan holl ysgrifen- yddion Arddangosfeydd y wlad. GLANIO. -Deallwn fod Mr Gwilym Roberts, mab Mr. W. Lloyd Roberts, Avondale, wedi glanio yn ddiogel yr wythnos hon yn Buenos Ayres. Cafodd fordaith gysurus. GALWAD.—Y mae y Parch H. Jones-Davies, cynorthwywr y Parch William Thomas, wedi derbyn galwad unfrydol o Tregarth, a bydd yn dechreu ar ei waith yno yn fuan. MODUR AR DAN.—Boreu dydd Mercher, yr oedd Boneddwr a Boneddiges, gyda'u gwas yn dod yn eu Modur o gyfeiriad Llandudno aip Lanrwst. Pan oeddynt ar gyfer Plas Maenan, ymddengys i'r Tank a ddaliai y Petrol, ddech- reu gollwng, ac yn y fan, aeth yr oil ar dan. Neidiodd y tri oedd yn y cerbyd i lawr o hono. a chyn pen deuddeng eiliad yr oedd y Modur wedi ei losgi yn bentwr o lwch. Yr oedd y tan mor echrydus o sydyn a difaol fel yr oedd rhaid sefyll yn y pellter oddiwrtho. Y mae ochrau y cloddiau yn y lie wedi eu deifio gan agerdd y tan. Bu i'r Boneddwr poblogaid o'r Plas (Mr. Jelf Petit, u.H.), ddod at y Cwmni, ac estynodd iddynt bob cynorthwy a charedig- rwydd yn ngwyneb yr anffawd allasai brofi yn angeuol i'r tri, a chymerodd hwynt yn ei Fodur ei hun i'r Victoria Hotel. Yr oedd y tri wedi eu brawychu yn fawr.

BETTWSYCOED.

I I ---HARLECH.'-"I

TREFRIW. -I

Ysgoloriaethau Ysgbl Ganol-I…

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

- -..- - - - - .-.,.,- - -…

Advertising

Family Notices

I 1Mr. R. J. Campbell. jj