Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

-NODIADAU WYTHNOSOL

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL Etholi&ci Boddhaol. Gellir dywedyd am etholiad Gogledd- Orllewin Stafford ei fod yn t'oddhaol mewn mwy nag un ystyr. Da oedd cael brwydr heb fwy na dau ymgeisydd ar y rnaes—y naill yn Rhyddtryciwr a Rhyddfasnachwr cryf a selog, a'r llall yn Dori ac yn Diffyn- dollwr cryf ac aiddgar. Cafwyd cytundeb o'r fath lwyraf rhwng arweinwyr y Blaid Ryddfrydol a Phlaid Llafur, oblegid y mae Mr. Stanley yn gystal Rhyddfrydwr a neb y gwyddom am dano ac yn gystal cynrychiol- ydd Llafur ag sydd i'w gael yu unman. Mae yn Anghydffurfiwr hefyd, ac yn bregethwf l!eal efo'r Methcdistiaid Cyntefig er's pan yn tachgen ieuanc iawn. Yr oil a am Mr. Twyford, ei wrthwynebydd ydywei fod yn gyfalafwr cyfoethog, ac yn Dori o liw cryf, ac yn pieidio diftyndollac-lh own modd nas gall lai na llwyr-foddloni Mr. Chamber- lain. Ac ar y cwestiwn yma, fel y dywedas- om yr wythnos ddiweddaf, yr ymladdwyd y frwydr. O'r braidd y cafodd unrhyw fater arall sylw o gwbl gan yr ymgeiswyr na chan eu pleidwyr. A diweddodd yn foddhaol dros ben. Yr oedd mwyafrif Syr (y pryd hyny Mr.) Alfred Billson flwyddyn a haner yn ol yn 2,110. Pleidleisiodd 7,667 drosto ef, a 5,557 dros ei wrthwynebydd Mr. Heath. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd mwyafrif Mr Stanley yn 2,349. Cafodd ef 7,396 o bleid- leisiau ni chafodd Mr. Twyford ddim ond 5,047. Dengys yr etholiad yma o'r hyn lleiaf ddau beth. Dengys yn eglur iawn fod etholwyr y rhan hono o'r canolbarth yn dwyn cymaint sel ag erioed dros Fasnach Rydd, ac nad yw haeriadau y Toriaid fod barn y wlad yn newid yn gynym yn ddim angen na "breuddwyd gwrach wrth ei hewyllus." Dengys yn mhellach fod cyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad rhwng PJaid Llafur a'r Blaid Ryddfrydol yn beth hbllol ymarferol, ae mai II mewn Undeb mae nerth." Nid gweddus fyddai i ni wedi y fuddugoliaeth anghofio ei bod i'w phriodoli yn gyntaf oil i'r diweddar Syr Alfred Billson, yr hwn a wnaeth yn Ngogledd-Orllewin Stafford waith na wnaed mo'i ragorach mewn un- rhyw etholaeth yn y deyrnas. Yr oedd yn credu a'i holl galon yn yr egwyddorion a bleidiodd gweithiodd yn egniol ac ymwad- odd erddynt. A dyma ffrwyth ei lafur.

I Meirion yn y Senedd.I

Boneddigeiddewydd Gecilaid''…

I 1Mr. R. J. Campbell. jj