Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Mabolgampau Llanrwst.
Mabolgampau Llanrwst. Cafwyd diwraod hyfryd i'r Mabolgampau dydd Llun, a throes y cwbl allan yn llwyddiant Perffaith. Gweithiodd yr Ysgrifenydd Mr. Albert Hughes, Ty'nyfynwent yn selog er cael pobpeth o gwmpas, yn y modd mwyaf hwylus f manteisiol i bawb. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn:- 100 Yards Flat, 1, M. Jones, Abergele; 2, George Chesbolm, Llanrwst. Throwing Cricket Ball, 1, J. Ernest Owen. Half mile bicYcle (handicap), 1, W. Hughes, Deganwy 2, P. Ll. Williams, Glan Conwy 3, E. F. Williams, Mostyn. 100 yards Flat (for boys attending Elementary Schools), 1, T. Idwal Navies, Llanrwst; 2, George Trivett, Llan- st. 220 Yards Flat, 1. George Chisholme, --lanrwst; 2, M. Jones, Abergele. 50 Yards Obstacle Race for Boys, 1, T. Idwal Davies: ?• H. Price Jones, Llanrwsl. 1 mile bicycle laaudicap), 1, P. Ll. Williams 2, W. Hughes, eganwy; 3, E. F. Williams. Mostyn (a splendid race, winner winning by an inch). *00 Yards Skipping Race for girls, 1, Miss 13ibby; 2, Miss Blodwen Hughes; 3, Miss Nellie Hughes 4, Miss Edith Roberts Miss BIbby generously gave her first prize to the 2nd. Lap Obstacle Race (scratch), 1, E. Griffiths, .Llandudno 2, W. Brooks, Llandudno. 440 *ards Flat Handicap, 1, William Hughes, Llysfaen; 2, E. E. Griffiths, Llandudno. 50 Yards Slow Bicycle Race (scratch), 1, Hugh dwards, Glan Conway: Archie Carter, Llan- rllst. 220 Yards Hurdle Handicap, 1, M. Jones, Abergele; 2, Archie Carter, Llanrwst. lialf-rnile Flat Handicap, 1, Wm. Hughes, LlYfaen; 2, Hugh Edward Jones, Abergele. MIle Bicycle Handicap, 1, P. LI. Williams, Ian Conway 2, C. Meredith, Llandudno 3, hn Evans, Glan Conway. 1 Mile Flat Race Handicap, 1, P. Ll. Williams, Glan Conway; å C. Meredith, Llandudno 3, John Evans, Ian Conway. 1 Mile Flat Race Handicap, 1, Ifugh Hughes, Llysfaen 2, Thomas Hughes, lysfaen; 3, W. Brookes, Llandudno. Five Miles Bicycle Championship, 1, W. Hughes, tregan\vy; 2, Isaac Roberts, Old Colwyn 3, (f F. Williams, Mostyn. 20 Yards Potatoe fathering Race, 1, William Hughes, Llys- taen; 2, E. E. Griffiths, Llandudno. Llywydd ydoedd Mr. T. Hartley Bibby, ?a, r Parch. J. E. Cardigan Williams yn Is- ywydd. Rhanwyd y gwobrwyon gan Mrs. Cardigan Williams. Cynhaliwyd dawnsfa a Chyngerdd amryw- Jfthol am saith yn yr hwyr pryd y gwasan- wyd gan Seindorf Arian Llanddulas; lndarf Linynol Proff. Karl Hosbach; ac nawdau gan Mr. Russell Canning. Yr oedd tyddordeb arbenig yn cael ei gymeryd yn y Welsh Handcuff King (Mr. William Jones- enny), yr hwn oedd yn dod allan o handcuffs gyda'r rhwyddineb mwyaf.
.CYflogau Athrawon YsgolionI…
CYflogau Athrawon Ysgolion I Eglwysig Meirion. ?os Lun yn unol a'i rybudd, gofynodd "?Iwydd Hugh Cecil am gael gohiric y Ty er galw sylw at fater o bwysigrwydd eithriadol, fef cynogau athrawon ysgolion Eglwysig Sir ??onydd, y rhai oeddynt heb eu talu, tra yr ?edd cyflogau yr oH o athrawon yr ysgolion pajll wedi eu talu iddynt cyn y gwyliau haf. afodd ef ac eraill siarad ar y mater, a dywed- d fod 21 o'r Ysgolion Eglwysig yn y Sir, Syda o haner cant i dri ugain o athrawon ynddynt. Yr oedd yn anhegwch, os nad Creulondeb i gadw yr athrawon hyn beb eu CYfiogaU oeddynt yn ddyledus ar Gorphenaf 1, ^felly eu hamddifadu o'u gwyliau.-Hysbys- Odd Mr. M'Kenna (Llywydd Bwrdd Masnach) anfon at Awdurdod Addysg y Sir i ofyn addynt dalu y cyflogau hyn fel y talasant gyflog- yr athrawon eraill. Nid oedd wedi derbyn c°iad. Yr oedd yn galed a'r athrawon i gael J* cadw heb eu cyflogau, a theimlai y dylid ??Qdi terfyn ar y peth. Yr oedd dwy feddyg- '.?eth yn bosibl: y gyntaf ydoedd i'r Athraw- n ?ysio y Rheolwyr Lleol am eu cyflogau, a s?.ai y Rheolwyr wneyd yr awdurdod addysg dras Y dosbarth yn gyd-ddiffynyddion. Y cwrs "III ydoedd y gallai y Llywodraeth ar ol '?"Orpbenaf 1, ystyried y priodoldeb o fyned yn byn yr awdurdod lleol am orfod-wys ?z?M- dclillus) Yn mhlith eraill a siaradodd, bu i kri Osmond Williams a William Jones ?rydrhan. ?4r. Osmond Williams a ddywedodd nad c?stlwn o Eglwys yn erbyn Ymneillduaeth 0 hwn. Pe felly, ni buasai ef, ac efe yn s?yswr, byth yn cael ei ddychwelyd i'r ed? yn ddiwrthwynebiad gan y sir fwyaf wHeillduol yn Mhrydain Fawr. Yr oedd Sir Q ?°Dydd yn ymladd am egwyddor. Nid 3r tl ?°sd wedi gwario arian godwyd trwy dreth er cynal Ysgolion Eglwysig. Cadwodd h? ?? yn mlaen trwy y grants, ond yn awr yr 0e wedi dod i ben eu hadnoddau. Bu am dyglad y cy?gor Sirol yn un ardderchog, Ztnl ?do arbed i 90 y cant o'r trethdalwyr i jv ? ?rthwynebwyr goddefol.  William Jones a adgoaodd y Ty i'r wrthblaid °? ar adeg tr;i?d Act yr Awdurdod- ?u T?y ?ygiol gerdded allan o'r Ty am na chan-  ??y?t ddadleu y cwestiwn hwn. Yn yr eth ° r1 diweddaf, safodd Cymru wrth eu cefn. ?ir °?? i'w feddwl fod Meirion yn grintach- 'yd ewn .materin addysgo1. Ag eitra ,y tir ????ogion. Sir ^lawd oedd Meirion, a 'law n 90 y cant o'i thrigolion yn Ymneillduwyr. Etn y oedd yr amaethwyr tlodion hyn, a'r ?g?f''?'yr a aethyddol, a'r chwarelwyr, wedi ineywy o'u henillion prinion dros addysg Ch? ?' Uwchraddol, Gelfyddydol, a 01 ?-gol—na'r un Dalaeth arall yn Eurob yn 01 oddion. Yr oedd bechgyn a genetbod egj A^ wedi manteisio ar yr Ysgoloriaethau "efYdla,ant. Yr oedd hyny yn cymeryd lie obe ?ydd fod y sefydliadau yn cael eu rheoli pa gynrychiolwyr y bobl heb brawRon Sectol. ? ??y?i ef i Eglwyswyr cyfoethog a Cheid- ^c ?y gymeryd trugaredd ar galedi yr atj, awon. Paham yr anghydwelediad hwn ? Ynt Syml am yr ymgecraeth Sectol. Paham yntp• nad cynorthwyo i wneyd i ffwrdd a hwynt ? Cafodd y Llywodraeth fwyafrif o 67 allan o 223 o bleidleisiau.
-Eisteddfod Corwen.
Eisteddfod Corwen. Cafwyd Eisteddfod nodedig o Iwyddianus ddydd Llun. Cynhaliwyd Gorsedd fel arferol o dan lywyddiaeth Llifon, yr hwn hefyd ydoedd Arweinydd yr Eisteddfod. Y mae Llifon wedi dod yn angenrhaid anhebgor- 01 i'r Eisteddfod, a chyflawna ei waith yn hapus a dirodres. Canodd Eos Dar benillion gyda'r Delyn yr hon a chwareuid gan Miss Bessie Jones. Yr oedd tua chwe' mil yn y Babell, ac enill- wyd y gwobrwyon cynygiedig fel y canlyn :— Corau Plant,—Datganu Y Fordaith 77 (D. Hopkin Evans). Daeth pedwar Cor yn mlaen, sef, Colwyn Bay (Mr. Ted Evans), Glyn (Mr. Herbert Pugh), a Jerusalem, Rhos (Mr. J. H. Davies). 1, Jerusalem 2, Colwyn Bay. Cyfieithu Darn o'r Saesneg i'r Gymraeg, 22 yn cystadlu; cydradd E. S. Roberts, Cynwyd, a R. Hughes, Valley, Mon. Pwyntil-waith, Carchardy Owen Glyndwr." 1, „ Myfanwy 2, Lloyd Jones, Cefnmawr. Darlun gyda Brush, 1, Polly Williams, Caernarfon; 2, "William Edwin"; 3, Idris." Tri Englyn, "Ceiliog 'Rhedyn," "Morgrug- yn," a'r Pryfcopyn," cydradd John Thomas, (Perthog), Penmachno, a J. Phillips., Treforris. Traethawd, Cymraeg y Beibl," Mr. Lefi Jones, Penrhyndeudraeth. Can, Boreu yn Mai," G. T. Lefi, Ystrad- gynlais. Corau Meibion, Milwyr y Groes (Daniel Protheroe), f24, a chwpan Arian i'r Arwein- ydd. Daeth pump Cor yn mlaen, -Broughton (E. Evans) Talke (J. Wbewale): Colwyn (D. D. Parry): Penmachno (J. E. Roberts) Aran, Dolgellau (J. Jones) Llanfyllin (D. L. Davies). Canmolid y gystadleuaeth hon yn fawr iawn, ac yr oedd yn un dyn iawn rhwng Colwyn a Penmachno. Aeth y dyfarniad terfynol yn ffafr Colwyn. 1 Englyn, Y Cuddwas." J. G. Jones, Towyn. Unawd Soprano, Lili Wen," goreu o 23, Miss Cissie Hughes, Birkenhead. Casgliad o ddail gyda'u henwau, Miss Alice Morton, Corwen. Myfydraith, "Marwolaeth y Dail," Bryfdir. Hwn ydoedd yr wythfed tro iddo enill yn yr Eisteddfod er ei sefydliad. Prif Adroddiad, cydradd, Robert Lloyd, Corwen a Samuel Valentine, Cefnmawr. Unawd Contralto, "Merch y Cadben," Miss Rhoda Jones, Manceinion. Unawd i Blant, Codiad yr Hedydd," Miss Alice M. Edwards, Prestatyn. Unawd Baritone, Y Fellten," goreu o 38, Thomas Williams, Rhuthyn. Ail gystadleuaeth Gorau Meibion, Cor Cefn- mawr. Cyfansoddi Darn o Gerddoriaeth i Blant, Mr. D. D. Parry, Llanrwst. Hir-a-Thoddaid Beddargraff Mr R. Hughes, Tynycefn, J. Geufronydd Jones, Towyn. Cerfio, Coelbren y Beirdd." 1, Thomas Jones, Cynwyd. 2 (cydradd), O. T. Jones, Penmachno, a G. Jones, Dolgellau. Ail Gystadleuaeth Corau Meibion. Maelor, Cefnmawr (Mr. John Wright). Unawd Tenor, Mr J. Watkin Hughes, Rhos. Pryddest y Gadair, Delw Duw," £ 6, a chadair. Griffith Thomas Lefi (Gweledydd), Abercarn, Abertawe. Prif gystadleuaeth Gorawl, Lift up your heads (Handel), a "Tyr'd eilia'r Gan (J. H. Roberts) £ 40. Dywedodd Mr. Tom Price ei bod yn anhawdd iawn penderfynu rhwng Tonypandy, Talke, a Cefn Mawr. Er fod ychydig o wahaniaeth rhwng y datganiad o waith Handel gan Gor Talke, a Chor Tony- pandy, aeth y wobr i'r Cor diweddaf.
Haelioni Mr. Carnegie.I
Haelioni Mr. Carnegie. I Y mae Mr. Andrew Carnegie wedi anfon can'mil o bunau at Ysbytty y Brenin lorwerth yn Llundain. Y mae y rhodd yn ddiamodl, a gadewir i'w defnyddio yn y modd goreu, gyda'r ychwanegion, goreu po mwyaf gofalus i fod gyda diwygiadau," Y mae rhoddion Mr. Carnegie yn bresenol yn cyraedd y swm o bymtheg miliwn o bunau! Rhanodd hwy fel y canlyn:- Arnerica, f, 11,500,000 Scotland, f 2,600,000 Canada, £ 200,000; Lloegr, f 300, C'O Cuba, 50 000 Iwerddon, [40,000; a •uanau eraill, 6200,000.
Arbed a Cholli mwy.I
Arbed a Cholli mwy. Yn Heddlys Wrecsam, ddydd Mawrth, cyhuddwyd Henry Mack, Cylchwerthwr, o geisio twyllo Cwmni y Great Western trwy deithio o Pentre Saeson i Wrecsam heb docyn, a chynyg rhy fychan o dal am ei gario. Pan ddaeth o'r tren dywedodd mai o Plas Power y daeth, a thalodd ddwy geiniog. Cafwyd allan iddo ddod o'r Pentre, ac y dylasai fod wedi talu pedair ceiniog,—Dirwywyd ef i bunt, a haner gini, o gostau.
- - - - - - - - - - - - Cyflogau…
Cyflogau v Glowyr Durham. Y mae Bwrdd Cyflafareddol Masnach Lo Durham wedi penderfynu yn eu cyfarfod diweddaf yn Newcastle i godi saith a haner y cant ar gyflogau y Glowyr. Mae hyn yn godiad o 47J y cant ar y cyflogau i'r hyn ydoedd y safon yn 1879. Bydd i'r codiad 'ddechreu y mis hwn.
Gadaei eu Gwaith heb Rybudd.…
Gadaei eu Gwaith heb Rybudd. Bu i Gwmni Glofa Gillhead, Maryport, wysio deg a'r hugain o lowyr am £ 3 18s Oc, yr un am adael eu gwaith heb roddi rhybudd dyladwy o'u bwriad o wneyd hyny. Hysbyswyd ei fod yn arferiad yn Cumberland i roddi pedwar niwrnod a'r ddeg o rybudd o bobtu. Gweith- redodd y dynion mewn cydymdeimlad a chwech o ddynion eraill oeddynt wedieu troi o'r gwaith. —Dyfarnodd yr Ynadon fod pytbefnos o rybudd yn ofynol, a bod pob un o'r diffynyddian i dalu A2 15s Oc yr un a'r costau. £ 87 15s 9c trwy'r 011.
[ Un, Pum, a Chwech.
[ Un, Pum, a Chwech. Yn heddlys Brynmawr, cyhuddwyd tincer cylch-werthol o'r enw Edward Glyn, o bum trosedd, sef bod yn feddw ac afreolus, gwrthod myned allan o dafarndy, gwneyd niweidiau gwirfoddol gwerth 30/- i ffenestri y Gwesty gyda haiarn sodro, ymosododd ar berchenog y Gwesty gyda'r un erfyn, ymosod ar yr hedd- geidwad, a malu tri-ar-ddeg o cwareli o wydr yn y seler gyda'i sawdl. Dirwy o ddwy bunt a'r costau am y trosedd cyntaf, dau fis am ymosod ar yr heddgeidwad, a mis yr un am y tri trosedd arall :-Chwe mis trwy'r oil.
I Ail Agor Hen Fwnglawdd.
I Ail Agor Hen Fwnglawdd. Y mae y prydlesoedd angenrheidiol wedi eu sicrhau, a chwmni newydd wedi ei ffurfio at ail-agor hen Fwnglawdd enwog Talargocb, yr hwn sydd rhwng Galltmebyd a Dyserth. Bu y Rhufeiniaid pan yn y wlad hon yn gweithio y mwnglawdd hwn am dros ganrif a haner. Ataliwyd ef yn 1883 ar gyfrif pris isel y plwm, ond ni olygid iddo fod yn sefyll am fwy na blwyddyn er gweled a wellhai y fasnach cyn gwario rhagor o arian ar beirianau i godi y dwfr. Y mae un shaft yn 500 o latheni, y llall yn 220, a'r Hall yn 360. Arferid talu dros bedwar cant o bunau yn wythnosol mewn cyflogau yn unig pan oeddid yn gyru y gwaith o'r blaen.
IMeddwdod a Thlodi.j
Meddwdod a Thlodi. j Wrth anerch Cynhadledd Esgobaeth Bangor, dywedodd y Parch. T. Prichard, Ficer Amlwch, ei fod yn ffasiwn gan rai pobl i briodoli yr holl dlodi y wlad i arferion y bobl o ymyfed. Nid oedd dadl nad oedd gan y ddiod lawer i ateb drosto, ond yr oedd yn gamgymer- iad dywedyd mai hi oedd y prif a'r unig achos o dlodi y wlad. Nid meddwon oeddynt y bobl dlotaf yn ei blwyf ef, ac nid oedd yn abl i gael allan ei bod yn arferol a gwneyd dim a diod. Bydd llu o fethiantau yn mhlith dynion hyd nes y dysgont yr angenrheidrwydd o dalu mwy o sylw i ddeddfa iechyd a moesoldeb.
I Rheolau Newyddion i YsgolionI…
I Rheolau Newyddion i Ysgolion Cymru. Y mae yr Adran Gymreig o'r Bwrdd Addysg wedi anfon allan reolau newyddion yw Ysgol- ion Canolraddol Cymru. Dywed Mr. A. T. Davies yr Ysgrifenydd, mai amcan y Rheolau Newyddion yw, ychwanegu y grants, a rhoddi mwy o ryddid i'r awdurdodau lleol i drefnu cwrs yr addysg a'r daflen amser i'r Ysgolion. Codir y grants i £ 3 15s Dc, 64 5s Dc, £ 4 15s Oc, a £ 5 am y flwyddyn gyntaf, ail, trydydd, a phedwerydd, yn lie f2, £ 3, £ 4, a £ 5 fel yn y blynyddoedd basiodd. Gelwir sylw at y lie sydd i'r Gymraeg yn y cwrs addysg, a'r angen- rheidrwydd am Athrawon dwy-ieithog yn yr Ysgolion Elfenol. Dymuna'r Bwrdd i'r Ysgol- ion fod yn nghyraedd pob dosbarth yn y wlad.
------Gwerthwyr Ceffylau Anonest.…
Gwerthwyr Ceffylau Anonest. Addefodd Charles Miller, March-was, a'i frawd, William Miller, gwerthwr ceffylau, eu heuogrwydd o flaen Brawdlys Clerkenwell, ddydd Llun, o fod wedi cynllwyno i dwyllo Mrs. Alice Richardson, Llanelwy, o Cheque gwerth £ 45. Yn enw Martin a Mills cariodd y ddau fasnach yn mlaen yn Earl's Court, a gwerthasant geffyl diffygiol gyda gwarantrwydd i'w ganlyn, a gwrthodasant ddychwelyd yr arian ar ol i'r ceffyl gael ei anfon yn ol am nad oedd yn foddhaol. Anfonwyd y ddau i garch- ar am dri mis. A. At. A.. A. At.
II Argyhoeddi Cicwyr Peli.I
I Argyhoeddi Cicwyr Peli. I Mewn ymddiddan ar waith Byddin yr Iach- awdwriaeth, dywedodd y Cadfridog Booth nad oedd yn caru esmwytlna lies personol, neu buasai yn myned i le tawel a neillduedig. Nid oedd gan glodforedd dynol unrhyw swyn iddo ef. Gallai fod rhai yn gadael y Fyddin am nad oeddynt yn hoffi yr hunanaberth a'r caledwaith berthynai iddi. Mewn cyfeiriad al y pleser gaffai dynion ieuaingc swydd Lancashire mewn cicio peli, dywedodd nad oedd yn perthyn iddo ef syrthio allan nac ymyraeth a'r dewisiad a wnant o ddifyrion. Ei uchelgais ef oedd dod a dyn i'w le. Dywedodd un o'i swyddogion wrtho fod Team gyfan yn y Sir wedi eu dychwelyd. Nid oedd gan y dynion hyny eisiau cicio pel o gwmpas yn awr. Gwelent werth yn eu hamser, ac yr oedd yn rhy bwysig yn eu golwg i'w afradloni ar gicio pel.
Gwely am Chwech Cheiniog.
Gwely am Chwech Cheiniog. Cyhuddwyd Miss Larson, Abergele, o gadw Llety Cyffredin heb drwydded i hyny gan y Cyngor. Dywedodd yr erlyniaeth i'r Ddiffyn- yddes gael ei gwrthod o drwydded i gadw ty o'r fath, ac mai budd y dref oedd mewn golwg; ond mynai hi letya crwydriaid er gwaethaf pawb. Dywedodd dyn o Rhyl, yr hwn a wnaeth ei hun i fyny fel crwydryn, iddo aros yn y ty, a bod pedwar-ar-ddeg heblaw ef yn cysgu yno, ac mai chwech cheiniog a dalodd am y gwely. Gohiriwyd yr achos er mwyn i'r Clerc anfon at Gyngorau Rhyl a Cholwyn Bay i'w cael i uno i ganiatau Lletyau Cyffredin. Hyd yn hyn y mae y ddau le yn gwrthod cyd- nabod tai o'r fath. Dywedwyd wrth y Ddiffyn- yddes y byddent yn dyner wrthi os rodda ben ar yr arferiad ond os na pheidiai y dirwyid hi i bum' punt, a dwy bunt y dydd tra y parhai i droseddu.
I Cwmni RheilflFyrdd y Cambrian.
Cwmni RheilflFyrdd y Cambrian. Yn ol adroddiad y cwmni am yr haner blwyddyn yn diweddu Mehefin 30ain, yr oedd y derbyniadau yn cyrhaedd y swm o £ 143,121, yr hyn a ddengys leihad o £ 3573. Priodolir y lleihad i farweidd-dra cyffredinol masnacbol yn y rhanbarth-eithr gobeithir nad ydyw ond dros dro-a cholli masnach eithriadol hefyd. Yr oedd traul Ilafur, &c., yn cyrhaedd y cyfan- swm 0 £ 95,000—lleihad o £ 766. Y mae'r holl J dreuliau yn cyrhaedd £ 59,339 yn cael darpar ar eu cyfer, a cherir drosodd y swm o £ 302,
IBarn Mr. Lloyd George am…
I Barn Mr. Lloyd George am y Weinyddiaeth. Wrth anerch mewn cyfarfod Rhyddfrydol yn Bournemouth ddydd Llun, dywedodd Mr. George fod gwaith v Llywodraeth bresenol yn cael ei wneyd yn fwy anhawdd gan waith eurhag- flaenoriaid, ond nid oedd yn teimlo y petrusder lleiaf i ddywedyd ei bod y Senedd alluocaf a'r un weithiai galetaf o'r pump y bu ef ynddynt. Yr oedd y teimlad o anfoddlonrwydd ddangosid am eu bod wedi gwneyd can lleied yn profi mor uchel ydoedd y dysgwyliadau wrthynt. Pan oedd y Toriaid mewn gallu nid oeddynt yn dysgwyl dim, ac felly nid oedd gan neb le i fod yn anfoddlawn; ond gyda'r Rhyddfrydwyr y perygl ydoedd dysgwyl gormod, a pheth bynag a wneid syrthiai yn fyr o foddloni y bobl oeddynt yn dysgwyl. Pan beidiai Rhyddfryd- iaeth a bod yn obaith am bethau gwell, peidiai hefyd a bod yn ffydd fyw yn y wlad.
Trengholiad trwy Lythyr Dienw.…
Trengholiad trwy Lythyr Dienw. I Bu i lythyr dienw anfonwyd gan rai a alwent eu hunain yn gymydogion arwain i gynhaliad trengholiad ar gorph baban o'r enw Walter Percy Wilson, yr hwn roddwyd allan gan ei fam i Mrs. Lloyd, Hirael, Bangor, i'w fagu. Dywedai y llythyr fod y cymydogion yn synu gweled arch fechan yn myned i dy Mrs. Lloyd, gan y gwyddent fod holl aelodau y teulu wedi tyfu i fyny. Eglurodd y Trengholydd eu bod yn rhwym o wneyd ymchwiliad i'r amgylchiad- au ar ol derbyn y llythyr. Cawsant nad oedd y ffurfiau gofynol o dan Ddeddf Amddiffyniad Bywydau Babanod wedi eu cadw, fel yr oedd yn rhaid cynal trengholiad. Ni wyddai a oedd awdwr neu awdwyr y llythyr yn ddigon gwrol i ddod yn mlaen i dystio yn yr achos, os na ddeuant nis gellid ystyried eu hymddygiad yn un teilwng. Dychwelwyd rheithfarn o farwol- aeth trwy achosion naturiol, a chondemniwyd ysgrifenwyr y llythyr.
Cymdeithas -Law-fer -Gymraeg.
Cymdeithas Law-fer Gymraeg. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod blynyddol y Gymdeithas uchod yn Ysgol y Cyngor Sir, Corwen, dydd Llun diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr. D. W. Evans, L.I.P.S. Hons, Cadeir- ydd y Gymdeithas. Daeth nifer luosog o Phonographwyr o Dde a Gogledd Cymru, yn nghyd ag amryw o Lerpwl a manau eraill o Loegr. Dechreuwyd ar weithrediadau y Gyn- hadledd am 11 o'r gloch, pryd y galwodd y Cadeirydd ar Mr. J. R. Jones (Garallt), Ysgrif- enydd y Gymdeithas, i ddarllen cofnodion y Cyfarfod blaenorol, y rhai a gadarnhawyd. Yna, cafwyd adroddiad o sefyllfa arianol y Gymdeithas gan Mr. G. Griffiths, Grassendale, Lerpwl, yr hwn oedd yn dra chalonogol, ac yn adlewyrchu clod mawr i fedr a ffyddlondeb y Trysorydd gwladgar. Yn nesaf cafwyd an- erchiad rhagorol gan Mr D. W. Evans, ar y llawlyfr newydd. Costiodd dwyn y 3ydd gyfaddasiad allan, lafur mawr i Mr. Evans a bydd yn gofgolofn o'i allu a'i fedr mewn llaw- fer. Eglurodd y gwahanol wersi mewn dull, dyddorol dros ben, a chafwyd trafodaeth fyw- iog i ddilyn. Diolchwyd yn gynes i Mr. Evans am ymgymeryd a'r gwaith o ddiwygio y llaw- lyfr. Am 1-15, daeth yr arlunwyr y Mri Wil- liams, Corwen, a Parry, Lerpwl, i dynu llun y Gymdeithas. Dechreuwyd ar waith pellach y Gynhadledd am 1-30, pryd y darHenwyd papurau campus gan Mr. R. Prys Griffiths, ar Sut i estyn cortynau'r Gymraeg a lledaeniad gwybodaeth i lawfer y Gymraeg y Parch R. Williams, M.A., Bala, ar "Sut i gyrhaedd yr Ysgalian;" Parch Isaac Jones-Williams, Llan- dderfel, a Mr R. John Ellis, Llanberis.ar "Sut i ffurfio dosbarthiadau;" Mr. John Davies, Nefyn, ar Sut i gyrhaedd yr Eisteddfodau," Mr. Rhys D. Jones, Brynaman, ar "Sut i gynorthwyo'r efrydydd unig." Y peth nesaf ydoedd dewis swyddogion am y flwyddyn ddy- fodol, a dewiswyd y rhai canlynal :-Llywydd, O. M. Edwards, Ysw, M.A., Llundain; Cadeir ydd, Mr. J. R. Jones (Gerallt), Maentwrog Arholwr Cyffredinol, Mr. D. W. Evans, I.P.S. Honse, Llundain Trysorydd, Mr. G. Griffiths, Grassendale, Lerpwl; Ysgrifenydd, Mr R. Prys Griffiths, Golygydd y Cylchgrawn Llawfer." Hefyd dewisiwyd y rhai canlynol i fod yn bwyllgor gweithiol,—Parchn. Richard Wil- iams, M.A., Bala; Isaac Jones Williams, Llan- dderfel, D. W. Williams, Blaenau Ffestiniog, E. J. Pugh, Caegwyn, Penrhyndeudraeth, R. Evans, Ysw., U.H., Bala. Cafwyd Cynhadledd nodedig o Iwyddianus a brwdfrydig, ac y mae rhagolygon y Gymdeithas yn ddisglaer dros ben. Hyderwn y bydd i ieuenctyd talentog Ffestiniog a'r Cylchoedd bwrcasu y Llawlyfr Newydd, a phenderfynu bod yr Ysgrifenwyr medrus mewn Llawfer. ""AAAA.AAAA.
I-I TREMADOG.\
I- TREMADOG. ANGLADD.—Dydd Sadwrn bu angladd Mrs- Lewis, gweddw y diweddar Mr. Lewis, Fron" oleu, Tremadog, yn Bettws Garmon. Gwein- yddwyd yma gan y Parch. Henry Jones, Prenteg. Y prif alarwyr oeddynt Mrs Owen (merch), Wern, Porthaethwy; Mrs. Griffith (merch), Bronfedw, Rhyd-ddu; Mr. O. H. Lewis (mab) a Mrs. Lewis, Fronoleu; y Mri. Owen, Porthaethwy, a Griffith, Bronfedw a'r Mri. O. Davies, Clawddllwyd, Llanrug, ac Ellis Hughes, Ty'nrhosydd, Llanerchymedd (cefndryd) a Mr. O. Parry (nai).
^ VV V V v ▼ » » ' ' ' ~ ▼…
VV V V v ▼ » » ▼ v v GLANCONWY. Prydnawn ddydd Mawrth, cyfarfyddodd Mrs. Mary Jones a'r ferch a damwaiu allasai i brofi yn ddifrifol. Fel yr oedd hi a Miss Jones yn gyru mewn cerbyd heibio y Sefydliad Affri- canaidd, daeth y ffrwyn oddiam ben y ceffyl, a rhuthrodd yr anifail i lawr yr allt ac i'r wal. Taflwyd Mrs. Jones allan o'r cerbyd, ac aeth careg i'w harlais gan beri archoll ddofn. Gal- j wyd meddyg ar unwaith, a chymerwyd hi i'r Cottage Hospital. Diangodd Miss Jones yn ddianaf.
I O'R PEDWAR CWR.
O'R PEDWAR CWR. Y MAE Tom Jones, dysgybl yn ysgol Ganol- raddol Towyn, wedi llwyddo i enill Ysgoloriaeth gwerth can' punt am dair blynedd yn Ngholeg Breiniol Gwyddoniaeth, Llundain. CYMERODD Mr. F. E. Smith, A.S., yn ei ben i feirniadu y Weinyddiaeth wrth draddodi araeth yn Trallwm, Dywedodd ei fod yn sicr fod pob Cymro yn teimlo ei fod wediei ddaros- twng trwy waith pob etholaeth yn dewis dynion wedi ymrwymo i bleidio Dadgysylltiad; ac mae'r unig gysur a gawsant am eu hymddiried- aeth yw fod eu harweinydd Mr. Lloyd George wedi cael swydd yn y Weiniddiaeth oedd yn werth miloedd o bunau yn y flwyddyn. FEL yr oedd Cwmni mewn bad ar Lyn Padarn, Llanberis, sylwasant ar ddynes yn sefyll ar fin y Llyn. Rhwyfasant at y lie, ond yr oedd y druan wedi boddi ei hun, ac yn hollol farw pan gyrhaeddasant. Gwraig briod o'r enw Ellen Morris, o Cwmyglo ydoedd, a chwynai ar ol ymosodiad trwm o'r anwydwst. Y MAE Mr. R. Prys Owen, B.A., 0 Goleg y Bala, wedi cydsynio a'r alwad a gafodd i fugeilio Eglwysi Broughton a'r Ffrith, Wrecsam a dechreua ar ei weinidogaeth yno ddechreu Medi. YN hwyr nos Fercher, daeth y newydd trist i Bangor fod y Mr. William Eames, Upper Bangor, wedi marw yn sydyn ar y ffordd wrth Tycroes, Sir Fon. Ymddengys ei fod ef a mab y Proffesor J. M. Davies, M.A., yn olwyno o Bangor i Rhosneigr, ac i Mr. Eames farw o wendid y galon cyn i gymorth meddygol gyraedd. Bernir i'r gorlafur gyda'r olwyn- j farch brofi yn ormod i'w nerth gan nad oedd yn iach er's tro. DADLEUA y Proffesor Anwylfod pobl Cymru yn fwy bywiog eu deall ac yn hoffach o len- yddiaeth yn y parthau dwyieithog nag yn y parthau lie y mae yr iaith Gymraeg wedi darfod. Y MAE y Parch. R. J. Campbell yn aros ar hyn o bryd gyda Mr. J. Allanson Picton, M.A., Penmaenmawr. Cynhaliwyd Cyfarfod Mawr gan Ysgol Haf y Dduwinyddiaeth newydd," yno ddydd Llun, a bu Mr. Campbell yn traethu ar un o'i hoff byngciau. YN Eisteddfod Gwyr Ieuaingc Pwllheli ddydd Llun, Cor Nantlle enillodd ar y brif gystadleu- aeth, Cor y Garn oedd y Cor Cynulleidfaol goreu, Cor Plant Tanrallt oedd yn fuddugol yn eu cystadleuaeth hwy. Unawd Tenor, E. M. Evans (Eos Mawddach); Unawd Soprano, Mrs. Eifion Jones, Garn; Unawd Baritone, Bass, neu Contralto, Mrs. Eryri Jones, Garn, Aeth y Gadair i Llanorfab, Ystalyfera. Y MAE y Cadfridog Booth yn cael derbyniad tywysogaidd yn mhob man yr ymwel ag ef yn ei daith trwy Ogledd Cymru. Sierydd ychydig yn mhob cyfarfod gynhelir i'w groesawu, a derbynir geiriau grasusol y Gweinidog hybarch gyda brwdfrydedd mawr, GADAWODD y Parch John James Evans, M.A., Rheithior Cantref Morganwg y swm o £146, 657 ar ei ol. PWYSIR ar y Parch R. J. Campbell i sefyli fel Ymgeisydd Llafur dros Caerdydd. Nid yw hyd yn hyn wedi rhoddi ei atebiad terfynol. YN yr ymchwiliad wnaed i achos yddamwain ar Linell y Cambrian, caed iddi gymeryd lie trwy i rai o'r rerbydau ddadfachu, adymchwel ar y lleill. Y MAE Mr. O'Houghen, Mexico, newydd dderbyn llythyr bostiwyd ddeuddeng mlynedd a'r hugain yn ol gan foneddiges yn derbyn ei gynyg i'w phriodi. Pa le y mae yr hen ferch hono erbyn hyn tybed ? DYDD Llun, bu farw John Barlow, Maretan, Chirk, lle'r oedd yn byw er's deunaw mlynedd. Bn'n ymladd yn rhyfel Crimea, gan gymeryd rhan yn mrwydr Balaclafa a Sebastopol. Caiff gladdedigaeth gyda rhwysg Milwrol. WRTH ddyfrhau planigion ar ffenestr ar ben grisiau ei thy, syrthiodd Miss Elizabeth Evans, Croesoswallt, i lawr y grisiau, a bu farw yn y fan. Arfera hi gadw y Cambrian Inn yn y dref hono am lawer o flynyddoedd. CAFWYD garddwr o'r enw George May, Teddington, wedi boddi ei hun yn un o'r dwfr- gistiau yn ei ardd. Yr oedd pwysau trwm wrth ei wddf. CYFLAWNODD William P. Balaam, Islington, hunan-laddiad gyda siswrn. YN etholiad Gogledd-Orllewin Staffordshire, cafodd Mr. Albert Stanley 2,349 o fwyafrif ar ei gyd-ymgeisydd Toriaidd. Masnach Rydd a Diffyndollaeth oedd unig bwngc yr etholiad. MEWN canlyniad i Ddeddf lawn i Weithwyr a chodiad yn y cyflogau, y mae y glo i godi o swllt i ddau swllt y dunell. Bydd hyn yn bwysau ychwanegol ar y tai-ddalwyr trwy wlad, ond rhaid i arian yr lawn a'r codiad yn y cyflogau ddod o rywle. TELIR llawer o sylw y dyddiau yma i'r gomed newydd a ddarganfyddwyd gan Mr. Daniel yn Princetown ar Mehefin 9fed. Gellir gweled y gomed yn bawdd gyda opera glasses." Yniddisgleiria yngyflym, acyn gynar yn y mis yma gellir ei gweled a'r liygaid noeth Y mae yn symud i gyfeiriad yr haul, a chyr- haedda y fan agosaf at yr haul yn ughylch- Iwybr planed oddeutu Medi y 4ydd. LLADRATAODD Peter Zuin, o Warrington, sydd yn awr gyda milwyr Mon, becyn un o Swyddogion ei Gatrawd, a dirwywyd ef i bun: a'r costau gan Ynadon Bangor. CYMERWYD Ernest John Lee, 23 oed, o Walsall, i'r ddalfa gan yr Heddgeidwad Lace. Wrth ddrws y gell rhoddodd Lee gic i Lane, gan dori ei goes yn y fan. FEL yr oedd y Cadfridog Booth yn myned trwy y Dyffrvn, bu raid iddo atal ei fodur gan fod rhaff ar draws y ffordd yn cael ei dal gan y dorf a ddysgwyliai am air ganddo wrth fyned trwodd. Siaradodd y Cadfridog gyda brwd- frydedd, ac yna aeth yn mlaen am Abermaw } ac Aberystwyth.