Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CYNGOR DOSBARTH GEIRIONYDD.j

Advertising

I TREFRIW. I

--------FFESTINIOG.---------I

RHOS A'R CYLCH.)

News
Cite
Share

RHOS A'R CYLCH. Erbyn hyn, mae y Parch. R. Jones, gwein- idog Capel Mawr, wedi dychwelyd o'r America. Nos Lun, cynhaliwyd Cwrdd i'w groesawu'n ol. Cafwyd Cwrdd dyddorol. Datganwyd amryw ddarnau gan Gor y Plant, y rhai fwriadant gystadlu yn Nghorwen dydd Hun nesaf. Sul a Llun diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol yn nghapel Mount Pleasant Poncie, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. W. G. Pope, Lerpwl, L. J. Havard, Gwrec- sam, a Caradoc Jones, Poncie, (yr awr o Pas- tor's College, Llundain.) Cafwyd cyfarfod gwresog yn mhob ystyr. Dydd Llun, rhoddodd ysgol yr Annibynwyr Johnstown, ei the parti blynyddol i'r plant, ac eisteddodd oddeutu 300 wrth fwrdd y wledd, yr hon a fwynhawyd gan bawb. Dydd Sul, crewyd cyffro yn Cefn Mawr, trwy i fachgen 5 oed, o'r enw Bert Evans grwydro a myned ar goll. Chwiliwyd am dano trwy y dydd, ac yn y diwedd caed hyd iddo yn Poncie, bedair milldir oddicartref. Dydd Linn yn Swyddfa y Cofrestrydd Gwrecsam, unwyd mewn glan briodas Mr. J. Owens, North Road, Poncie, gyda Miss Sephorah Phillips, Chapel Street, Poncie. Wedi y Seremoni gadawsant yn mysg llawer o ewyllyswyr da, am y Rhyl, lie y tteuliant eu mis Mel. Cvnhelir Undeb Anibynwyr Cymry y flwydd- yn nesaf yma ar Mehefin 22ain 1908. Cynhal- iwyd pwyllgor cyffredinol nos Lun. Dewisiwyd y rhai canlynol yn swyddogion Llywydd, Parch R. Roberts; Is-lywydd, Parch O. J. Owen Ysgrifenyddion, Mri; Wynne Jones, a Sam. Roberts: Trysorydd, Mr. John VIil'iams, Poncie.

BWRDD GWARCHEIDWAIDI PENRHYNDEUDRAETH.

- ....-Helynt Glowyr Gogledd…

CAPEL GARMON.

BARDDONIAETH.

LLANRWST.I