Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CYNGOR DOSBARTH GEIRIONYDD.j

Advertising

I TREFRIW. I

--------FFESTINIOG.---------I

News
Cite
Share

FFESTINIOG. -I YMDAITH Y MASNACHWYR.—Gan fod pobl dda y Llan yn ddigon rhyddfrydig i ganiatau fod Ueoedd prydferth a dymunol yn bod heblaw eu heiddo hwy, yr oeddynt er's tro yn awyddus am gael treulio diwrnod oddicartref, ac wedi hir ddisgwyl ac ystyried, daeth cyfle parod a rhwydd i hyny. Trefnwyd gyda Mr. W. C. Jones, Pengwern Arms Hotel, yr hwn, fel y gwyddis sydd yn berchen Char-a-banc ardderchog, a meirch porthianus i'w thynu, i fyned am daith i Criccieth. Gwneid y Cwmni i'fyny o Fasnachwyr a'u teufuoedd, a chan mor dra luosog oeddynt rhaid fu cael dau gerbyd eraill beblaw y Goach fawr." Buwyd yn dra ffodus i daro ar un o ddyddiau mwyaf dymunol y flwyddyn, fel nad oedd yn brofedigaeth i neb adael y Counter, a chloi y siop, gan redeg yn llawn sel, draed a chalon, i gyfeiriad y Cerbyd- au, y rhai a lanw "d yn ddioed gan g vmni balch o ryddid a thywydd teg. Yr oedd y ffurfafen uchod a'r ddaear isod fel pe wedi myn'd i gyf- amod a'u gilydd na byddai iddynt hwy, beth bynag, wneyd dim i beri anhwylusdod i'r daith. Yr oedd y ddaear yn sech, ond yn siriol, y wybren nor las ag wybren engy!, a'r haul yn groeso i gyd, fel na bunsai yn gweini i neb ond i'r Cwmni diddan oedd yn y cerbydau. Llfth- rwyd yn hapus trwy Faentwrog, y Penrhyn, a Thremadog, gan Iwytho yr awel dyner gydag ami stori ddifyr. Wedi cyrhaedd Criccieth a chyfarch gwell yn barchus i'w Fawrhydi, y mor, dod i gydnabyddiaeth fer a'r hwn a barodd i rai o honom gofio yn lied fuan am angenrheidiau y dyn oddimewn ni bu i hwnw lefain cymaint er's wythnosau o'r blaen. Cafwyd lluniaeth rhagorol. Wedi gwneyd hafog gyfreithlon a'r drugareddau a aroglid o bell, aeth pawb i fwynhau ei hun yn ol y reddf a'r anian a roed iddo, ac yn ol a glywson llwyddodd yr oil i wneyd hyny yn y modd mwyaf dymunol. Yn naturiol iawn, wrth y mor y treuliwyd y rhan fwyaf o'r amser, a pha le gwell ? Yr oedd Dafydd Jones yn garedig dros ben y diwrnod hwnw. Lluchiai fendith a chymwynas at ein traed gyda phob ton oedd ganddo. Edrychai mor ddiniwed a chyfeillgar a phe na fuasai wedi dryllio cwch na boddi'r un bachgen erioed. Yr ydym yn rhwydd yn rhoi llythyr cryf o gymeradwyaeth iddo am ei ymddygiad rhadlon y dydd hwn. Wedi manteisio oreu y gellid ar hyfrydion y dydd. Cafwyd taith b!eserus adref ar hyd ffordd penamser. Cyrhaeddwyd y Llan yn bollol ddi-ddamwain, Nid oedd neb wedi blino dim, pawb yn yr hwyr yn teimlo yn ieuengach o flynyddoedd nag yr oedd yn y boreu. Bu'r ceffylau yn nfudd, a'r gwyr da a edrychent ar eu holau yn ofalus. Tebyg yw y sicrheir taith gyffelyb yn flynyddol bellach.— UN O'R CWMNI.

RHOS A'R CYLCH.)

BWRDD GWARCHEIDWAIDI PENRHYNDEUDRAETH.

- ....-Helynt Glowyr Gogledd…

CAPEL GARMON.

BARDDONIAETH.

LLANRWST.I