Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

I Cwanniau Rheilffyrdd a'uI…

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

News
Cite
Share

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU I h.- L FFESTINIOG. -yad Nlercber, o flaen ei Anrhydedd^ Barnwr Wllym Evans. Achosion Gweinyddiadol. I naeth ei Anrhydedd Archeb Weinyddiadol iHe 11 dau achos. lawn i Weithiwr. ?f??s Ellis Owen, Dolgaregddu, Blaenau ^est°g a ofynodd am Archeb y Llys yn erbv n ???m Chwarel Foty a Bowydd am ? oherwydd niweidiau dderbyniodd yn eu (j?- ?-e! ar Chwefror 15, pryd y taniodd twll oSQriPan yn i,yneioruchwyliaeth. -Ymddang- QSQ"Q Mr. R. A. Griffith (yncaeleigyfarwyddo Mr ^r- R. O. Davies) dros yr Hawlydd, a r Breese, Porthmadog, dros y Cwmni ysM",?ol Yr oedd enillion yr Hawlydd yn ?1 7 sr Talwyd haner ei gyflog am gyfnod,- t??eddMedi;—apheidiwyd. Ail ddech- etlwyd t a Iii yn Hydref a peidiwyd drachefn ar )Aeh eflrl ?- Tystiodd yr Hawlydd iddo fod yn gWejfi ~l1- 0 fel creigiwr yn chwarel y Foty a ?Ow ? am 15 mlynedd, ac ar Chwefror 19 t?. "?d twll arno. Nid oedd yn abl i ddilyn yr Yr Ilya ??'?? ?S o'r blaen. Yr oedd twrf ?eth ? ? e eitbio yn fawr arno. Bu yn ceisio c'9111 gyda'r Yswiriant, a rhyw 2/- yn yr w Yttillos a enillai. ?r I) kic* hard Jones a dystiodd iddo weinyddu ar vr M awlydd yr hwn a gollodd ei lygad, ac ?afu ?? ?c?. ac effeithiodd ar ei ben fel n a? i ?dd ?°? gymwys i fyned at ei waith arferol heb s ?? ?)d wedi colli ei lygad.- Y Barn- Wr r wyf yn gwneyd archeb am haner y cyg sef 13/9, i fyny hyd heddyw, a 10/- yr t r'Ol 0 yn yn mlaen, gyda hawl i ddod yn !?g Cn.? ?° adolygu yr achos yn y Llys hwn.- ?u ar scale B." Taith o'r South. *^30mas. Grocer, Rock Terrace a ?'Qod? Edward Williams, o swm 0 arian dy- ?u' *33 nwyddau- Yr oedd yr Edward Wil- ?ns ? nwyddau, Yr oedd yr Edward Wil- ii, "lrlw wedi myned i'r Deheudir i weithio, ? a.nt ?oiiwy? gwys ar ei ol; ond gwasanaeth- befv/ V,^s ar Edward Williams arall hwnw bef? efy ,i myned o'r Blaenau i'r Deheudir. aetil e drosodd i'r Blaenau heb hysbysu ?ydd J?? y Llys yn y Deheudir mai nid efe 0 ?dTd ? Person penodol i gael y wys,-Mr. R.  dr0S Thomas a ddywedodd fod Ed- arillia s yn gofyn iawn o swm sylweddol ~^ei d Uj, Jei. thi0, ac wythnos o gyflog. Er ria, oe i Jfn gyfrifol am y camgymeriad, ^aneoc Thomas bob awydd i ddigolledu ?iUia "? trwy gynyg iddo gyflog tri diwrnod ?'i (j  ? fynai feddwl am eu derbyn.- ? Bar- OI \d fynai feddwl am eu derbyn.— Parr,,A,r \Vth Williams), Yr oeddych yn R%vu1 bod' rra, "? y chwi oedd yr Edward Wil- 1l1 arns Oedd n nyled yr Hawlydd, "-Williams, ?nn? ???" ? ?ed yr Hawlydd."—WiIHams, "Oei.'11 Barnwr, I ba beth y daethoch ytUsi yn*S? Paham na fuasech yn ysgrifenu i %sbvs/ fod ?mgymeriad wedi cymeryd lie ? '?'Wi}} ???' P??"? yma wedi cael y wys." '?Barn?' "??"?taf i chwi eich traul teithio 8ydtr ?" ? chyflog deuddydd. Dylasech fod ?", ?„ g'-Hcr?. Nid yr HawJydd sydd i dalu j chwi gael dod adref i'r Blaenau am eich gwyl- iau." Tal am Ymenyn. I David Jones, masnachwr Ymenyn, a ofynodd Robert Edwards, o £ 14 dyledus am ymenyn.— Ymddangosai Mr. R. O. Davies dros Edwards, ac eglurodd nad oedd i dalu am ymenyn a gafodd perthynas iddo.—Dedfryd i'r Diffyn- vdd. Cyngaws am Hawl-Lwybr. I Yn Llys Ebrill 11, Morris Evans, gwneuthur- wr olew, Ffestiniog, a hawliodd ddeg punt o lawn, a meddiant o ddarn o dir yn Ffestiniog oddiar Robert a William Cadwaladr Williams, Plastrwyr, Ffestiniog.-Ymddangosodd Mr. R. A. Griffith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. R. 0. Davies) dros yr Hawlydd; a Mr. H. H. Harding, Lerpwl (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri. Carter a Vincent, Caernarfon), dros y Diffynyddion. Parhaodd yr achos hwn am gryn amser gan ei fod yn llaw y cyfreithwyr er's misoedd, a llawer iawn o lythyru wedi cymeryd lle,-Yn fyr, yr oedd y mater yn sefyll fel hyn prynodd yr Hawlydd y tir sydd yn ymyl ei Weithfa Olew gan Gwmni y Great Western, a rhoddwyd rhybudd i'r Diffynydd- ion, y rhai oeddynt yn dal rhan o hono o dan rent i gael meddiant o'r lie at godi adeiladau arno. Nid oeddynt hwy yn foddlawn ei roddi i fyny, a dadleuid fod c20 15s Oc yn ddyledus arnynt am dano i fyny i'r diwrnod o flaen y Llys yn ol yr ardreth a ofynid. Yr oeddynt i'w rhoddi i Medi 29. Gofynid yn awr am i'r Bar- nwr wneyd datganiad mai yr Hawlydd oedd perchenog y tir, rhoddi archeb am feddiant o hono, ac iawn am i'r Diffynyddion wrthod ei roddi i fyny yn Medi. Prynwyd y lie, a rhodd- wyd rhybudd dyladwy.—Tystiwyd gan yr Hawlydd i'r uchod, a gofynodd y Barnwr pa reswm oedd gan y Dsffynyddion dros ddal meddiant o'r lie?—Mr. Harding, "Y mae genym hawl ffordd heibio ein ty ar y tir hwn. —Barnwr, "Nis gallaf wrandaw dim ond sydd o fy mlaen. Nid yw y Diffynyddion wedi son o gwbl am hawl-ffordd hyd yn awr, ac felly y mae allan o ystyriaeth yn y Cyngaws hwn.— Rhoddodd ddedfryd i'r Hawlydd ar y tri phwynt a godwyd, gyda chostau ar raddfa B, tal am ymgyngori, ac i ddau dyst proffeswrol. Yn Llys Mehefin 12, daeth yr achos yn mlaen drachefn.—Ymddangosodd Mr. R. 0. Davies dros yr Hawlydd, a Mr. J. Jones-Morris dros y Diffynyddion, y rhai a hawlient feddiant o lwybr trwy y tir at eu ty.—Mr. R. O. Davies a ddywedodd i'w Anrhydedd benderfynu yn y Llys cynt mai yr Hawlydd oedd perchenog y tir ond gan nad oedd yr Hawl-lwybr o'i flaen nad oedd am ddatgan barn arno, Yr oeddid yn dod a'r mater hwnw yn mlaen er mwyn ei benderfynu. Yr oedd ef wedi cynygcyfarfod y Diffynyddion yn mhob modd posibl er mwyn osgoi drwg deimlad pellach ac arbed costau ond methwyd a llwyddo i wneyd dim.—Mr. Morris a ddadleuodd fod y Brydles ar Medi 12, 1864 yn golygu hawlllwybr, a defnyddiwvd ef am 40 mlynedd. Tri Ty godwyd ar y cae hwn.i ddechreu, y naill gan Cadwaladr Jones y Hall gan Robert Griffiith a'r llall gan David Richards.—Mrs Griffiths, Cynfal Terrace, a. ddywedodd fod: Cadwaladr Jones yn dad iddi hi, ac yr oedd hi wedi defnyddio y Llwybr er's 40 mlynedd.—Mr. Morris a ddadleuodd fod y llwybr wedi ei roddi drosodd gan y tir feddianwr heb hawl.—Y Barnwr Yr wrf yn gwneyd y Tir feddianwr yn un o'r pleidiau yn yr achos." -Wedi i Beirianydd y Rheilffordd dystio yn nghylch y Planiau, gohiriwyd yr achos. Yn y Llys hwn daeth yr achos yn mlaen i'w wrandaw yn mhellach.—Ymddangosodd Mr. R. A- Griffith (Elphin) dros Mr. Morris Evans (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. R. O. Davies) Mr. J. Jones Morris dros y ddau Ddiffynydd Williams a Mr. Hugh Gamon, Lerpwl, (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. R. Walker Davies), dros y tir berchenog. Parhaodd yr achos yn hir iawn. Ymddengys mai cae oedd yn y lie y saif Cynfal Terrace yn bresenol, ac i brydles gael ei chaniatau i adeil- adu ar y lie ar Medi 13, 1865, a gwerthwyd y gweddill o'r tir hyd i dalcen y ty uchaf yn Cynfal Terrace i Gwmni y Rheilffordd yn 1872. At y dadleuon ddodwyd yn y ddau Lys blaen- orol, ymddangosodd Mr. Gamon i brofi nad oedd hawl Llwybr ar y Brydles caniatawyd i adeiladu. Mr. J. Jones Morris a alwodd dystion i brofi fod y llwybr wedi ei ddefnyddio gan berchen- ugion y tai, a chan y cyhoedd. Mrs. Ann Griffith, gweddw y diweddar Robert Griffith, a dystiodd ei bod yn byw yn 2, Cynfal Terrace er's 41 mlynedd. Yr oedd hi a phawb arall wedi defnyddio y llwybr heibio talcen 1, Cynfal Terrace ar hyd yr holl amser. Ni wrthwynebwyd iddynt wneyd hyny hyd y flwyddyn hon, a hyny gan Mr. Morris Evans.—Pan ofynodd i'r tyst am y fence ddodwyd ar y lie, nid oedd yn cofio gweled un yno o gwbl, gweU iddynt holi rhywun arall ar y bethau felly. Am y llwybr yr oedd hi am dystio. Nid oedd yn cofio "pobl y line" yn prynu y lie, ac yn fencio.—Y Barnwr, Y mae yn gwybod ond ni ddywed wrth y Llys. Rhaid i hyny bvprso er gweled faint allwn gredu o stori y Ilypr Robert Williams, un o'r Diffynyddion, a dystiodd ei fod 8yn fab-yn-nghyfraith i'r di- weddar Cadwaladr Jones, yr hwn a adeiladodd y ty uwchaf o'r Terrace. Yr oedd ef yn byw yn y ty hwnw er's 31 mlynedd, ac yr oedd drws yn nhalcen y buarth cefn iddod i'r llwybr mewn dadl yr adeg yr aeth yno. Agorwyd y Reilffordd just yr adeg yr aeth yno. Bu iddo ef wneyd ail ddrws yn y talcen 18 mlynadd yn 01 er hwylusdod i ddod i'r llwybr. Ni ymyrodd perchenogion y tir na Chwmni y Reilffordd a'i waith yn defnyddio y llwybr. Yr oedd y drws yno oddiar pan adeiladwyd y ty.—Y Barnwr, Pa fodd yr ydych yn cyfarfod y flaith fod drws yn y lie o'r cychwyn ? Rhaid ei fod yno i ryw bwrpas."—Mr. Gamon a Mr. Griffith a ddywedasant fod ganddynt ateb llawn i hyny. Gan Mr. Gamon,—Cymerwyd Prydles gan Gwmni y Rheilffordd, Mawrth 5, 1898, a chy- merodd y tir wrth dalcen y ty naw mlynedd yn 01. Cymerodd haner y tir Ebrill 19, 1903, a'r Hawlydd (Mr. Morris Evans) yr haner arall. Fenciwyd y lie yn 1898. Gan Mr Griffith, Fenciodd y llwybr i mewn ar ol i M. Evans ei brynu i'w gadw ymaith o'r llwybr. Yn Medi diweddaf y gwnaeth hyny. Nid fencio y lie i'w hawlio a wnaeth gan ei fod yn meddwl fod yr hawl yn ei feddiant yn flaen- orol. Tynodd y fence i lawr wedi cael llythyr yn galw arno wneyd hyny. Bu Mr. Walker Davies yn archwilio y Gweithredoedd yn Llun- dain, ac mewn canlyniad cyfarwyddwyd ef i gau y drws talcen. Bu gyda Mri Lloyd George a George yn nglyn a'r achos, a thynasant hwy gytundeb allan, ond nid oedd ef yn erhwym wrtho,: nac wedi ei harwyddo. Yn y cytundeb yn oedd hawl i'r llwybr, &c., yn cael ei roddi i fyny ganddo. Y Cyn-Ringyll John Hughes a dystiodd ei fod yn Heddgeidwad yn Ffestiniog o 1868 hyd 1878. Gosodwyd ef i wylio y llain tir wrth Cynfal Terrace gan fod rhai yn tresmasu arno. Cofiai Cadwaladr Jones a Robert Griffith yn Croesi ac yntau yn eu rbybuddio yn 1868. Aeth C. Jones ar y llwybr wrth dalcen ei dy, a dywedodd yr wyf yn sefyll ar fy nbir fy hun." Dranoeth gwelodd y diweddar Mr. Davies, Cae'rblaidd, yn yr orsaf, ac hysbysodd ef fel Goruchwylydd yr etifeddiaetho'r hyn gymerodd le, a dywedodd Mr. Davies, Mae Cadwaladr Jones yn hollol iawn. Mae ganddo hawl ffordd i'r pen pellaf i'w dy." Yr oedd y llwybr yn wybyddus agored i bawb ar hyd yr amser hyd y flwyddyn hon. Tystiodd Mri. Edward Roberts, Clogwyn Brith Owen Roberts (Crispin), Saron House; a Morris Roberts, Plastrwr eu bod yn gwybod am y llwybr fel un agored ar hyd y blynydd- oedd, ac na chlywsant neb yn son am wabardd ei gerdded. Ar ran Mr. Morris Evans dadleuodd Mr. Griffith nad oedd hawl llwybr yn y Lease gyn- taf. Yn 1872 prynwyd yr holl dir i'r talcen gan Gwmni y Reilffordd, a daeth Williams yn denant o dan y Cwmni. Cafodd brydles gan y Cwmni ar y tir yn 1898. I fyny hyd 1872 nid oedd angen hawl i gerdded y llwybr; ond wedi hyny yr oedd angen hawl cyn y gellid ei ddefnyddio. I Y Barnwr a ddywedodd mai y mater yr oedd angen ei glirio oedd, a oedd hawl cyfreithiol (precriptive right) i'r llwybr. Er mwyn ymladd y mater hwnw allan, yr oedd yn gohirio yr achos, ac yr oedd pwngc y costau hefyd i'w ohirio hyd y Llys nesaf. Tal am arch y Fam. I Yn Llys Ebrill 11, Evan Griffith, Adeiladydd, Tanygrisiau, a ofynodd William Jones, Back Bank Place, Blaenau, o f 4 17s 9c tal am Arch, Elorgerbyd, &c, ei fam.—Ymddangosodd Mr. R, 0. Davies dros yr Hawlydd, a Mr. J. Jones Morris dros y Diffynydd. Nid oedd dadl yn nghylch y pethau, ond mewn amddiffyniad honid nad oedd a wnelo William Jones ddim a'r mater. Brawd y Diffynydd, a'i frawd-yn- nghyfraith a archodd arian yr Yswiriant, dod- refn y ty, ac arian y ddau dy a werthwyd.— Rhoddodd y Barnwr archeb i wneyd Hugh Evans (brawd y Diffynydd), Saer, Tanygrisiau, yn gyd-ddiffynydd yn yr achos, a gohiriodd ei wrandaw yn mhellach hyd y Llys dilynol. Yn Llys Mehefin 12, daeth yr achos yn mlaen drachefn.—Hugh Evans a ddywedodd na chafodd ddimeu ar ol ei fam.—Y Barnwr, "Pwy archodd yr Hawlydd i wneyd yr arch?" —Hugh Evans, Dywedodd William Jones wrthyf fi, Fyddai fawr i ti a Griffith fyned at Evan Griffith ac ordro arch."—Mewn atebiad i Mr. Morris dywedodd Evans mai ei dad a William Jones dderbyntodd arian yr Insurance. —William Jones a ddywedodd ei fod ef a Hugh Evans yn frodyr o'r un fam, ond nid o'r un tad. Pan fu farw ei fam, archwyd iddo fyned allan, ac nad oedd lie iddo yno. Ni bu iddo fyned o dan ddim cyfrifoldeb yn yr achos, gan iddo gynal ei fam a'i ddau haner brawd pan oedd ei dad-yn-nghyfraith wedi eu gadael am wyth mlynedd. Hugh David Evans (tad Hugh Evans) gafodd arian yr Insurance ar ol ei fam yn nhy Mr.Ed.Rowlands, swyddog y Gymdeith-. as. Yr oedd y dodrefn wedi eu chwalu, a Hugh David Evans, ar ol gwario yr arian wedi myned i'r Tlodty lie bu farw.—Y Barnwr, Y mae yn rbaid i'r arian hyn gael eu talu, a'r meibion ddylai dalu am arch eu mham."—Mri Morris a Phillips a ddywedasant y telid un ran o dair gan bob un o'r ddau Ddiffynydd.—Y Barnwr a wnaeth archeb yn erbyn y ddau Ddiffynydd, a'r brawd arall Griffith Pierce Jones i fod yn gyd- ddiffynydd at y Llys dilynol. Yn y Llys hwn, tystiodd Griffith Pierce Jones na chafodd ddimeu gan Agent yr Yswir- iant, ac nad oedd yn y ty pan dalwyd yr arian. -Archcb yn erbyn y tri brawd i dalu pawb ei ran o'r swm a hawlid gyda'r costau. Achos Mr. W. P. Roberts, Cyfreithiwr, Llanrwst. Dydd Llun, gwnaeth Cymdeithas y Cyfreith- wyr gais at y Llys cynwysedig o'r Arglwydd Brif Farnwr, y Barnwr Bray, a'r Barnwr A. T. Lawrence, yn achos William Pierce Roberts, cyfreithiwr, Llanrwst. Mr. F. W. Hollams, ar ran y Gymdeithas a roddodd fanylion o ganlyniad yr ymchwiliad a wnaed gan Gymdeithas y Cyfreithwyr i gy- huddiadau ddygid yn erbyn Roberts yn codi o'r hyn a wnaeth gyda'i ahvedigaeth pan yn bartner a Mr David Jones, ac "yn flaenorol i'w fethdaliad. Nodwyd achos Mrs. Hughes, John Davies, John Roberts, a,E. Jones-Wil- liams, a chaed fod Roberts wedi defnyddio yn anghyfreithlon symiau o arian yn yr achosion hyny. Mr. Ellis Jones Griffith, a ddadleuodd fod yr holl symiau mewn dadl wedi eu dodi i lawr ar lyfrau y firm, ac nad oedd yr ymgais leiaf wedi ei wneyd i guddio dim. Yr oedd Roberts o dan ddylanwad Jones ei bartner, yr hwn oedd ddyn grymus. Yr oedd wedi enill ymddiriedaeth gyffredinol er ^903, fel y profai y llythyrau gyfiwynai i'r Llys oddiwrth bersonau cyfrifol yn y dref lie y preswyliai, Yr oedd yn pwyso ar y LiysJ i ystyried yr ymddiriedaeth rod did ynddo, a'r dylanwad cedd gan Jones drosto. Yr Arglwydd Brif Farnwr a ddywedodd fod yr achos yn:un difrifol iawn. Rhoddodd y Llys bob ystyriaeth i'r hyn a ddywedodd Mr. E. Jones Griffith, ac wedi cryn betrusder a ystyriaeth yr oeddynt yn dod i'r penderfyniad .fod yn rhaid atal Roberts rhag gweithredu fel cyfreithiwr am ddwy flynedd. Rftydd iad y Methdalwr. Mr. W. P. Roberts, Cyfreithiwr, Llanrwst, a wnaeth gais am ei ryddhad fel Methdalwr. Yr oedd yr achos hwn wedi ei ohirio o'r Llys diweddaf.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros Mr. Roberts, a Mr. Thornton Jones, Bangor, dros yr Ymddiriedolwyr yn y Meth- daliad. Mr. R. O. Davies a aeth yn fanwl trwy y cwynion a wnaed gan y Derbynydd Swyddodol yn ei adroddiad ar y Methdaliad. Aeth Mr. Davies yn fanwl trwy y cwynion a wneid, y rhai a archwiliwyd yn fanwl gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac yr oeddynt wedi cael y cyfar- fyddid a'r achos trwy atal Mr. Roberts i weith- redu fel Cyfreithiwr am ddwy flynedd. Y Barnwr, Nid oes achos am i chwi fyned i mewn i fanylion. Y mae yn weddus i mi barchu barn y Llys sydd uwchlaw, pe'r achos yn dod o fy mlaen heb ei drafod yno, gallasai pethau fod yn wahanol."—Mr. Davies a nod- odd i bedwar achos gael eu dewis gan Gyfreith- iwr y Gymdeithas fel y rhai honedig, sef, achos Mrs. Hughes yr hon oedd wedi talu £ 80 i Roberts, a lle'r oedd £ 40 yn achos heb eu talu drosodd ganddo £ 24 6s Oc perthynol i John Roberts, Bryneidal, Penmachno; £ 20 i John Roberts, Tanybenar, Dolwyddelen a £58 yn nglyn ag Ellis Jones Williams. Yn achos, Hughes caed fod £ 30 wedi eu camddefnyddio, ond dangoswyd eu bod yn llaw Roberts i aros biliau oeddynt i ddod oddiwrth Mrs. Hughes iddo eu talu o'r arian oedd yn ei law. Yn achos Roberts, yr oeddid yn dadleu fod y swm gafwyd yn ddyledus fel dirwyon a chostau yn nglyn a chyfraith neillduol; ond daliai J. Roberts iddo glirio y rhai hyny yn flaen- orol Yn achos John Davies, yr oedd dros £30 yn ddyledus fel costau. Yn yr achos hwn barnodd y Gymdeithas nad oedd sail i'r gwyn yn erbyn Roberts, ac iddo weithredu yn hollol gywir. Yn yr achos arall, arian ydoedd y swm a nodid yn aros yn ei law ef ar Firm perthynol i un heb ddod i'w oed, a chymerwyd meddiant o bobpeth ar y methdaliad fel na chaed cyfle i'w troi i'r ffynonell briodol. Yn ngwyneb y pethau hyn yr oedd yn teimlo yn hyderus yr edrychai y Barnwr ar yr achos fel y gwnaeth y Llys arall. Yr oedd Roberts wedi cario yn mlaen ei alwedigaeth fel Cyfreithiwr, ac yn cyflwyno i'r Llys lythyrau oddiwrth bersonau pwysig y gweithredai drostynt yn ystod yr amser, ac oddiwrth Swyddogion pwysig o dan y Trethdalwyr. Yr oedd yn gwneyd cais taer am ryddhad Roberts fel methdalwr a bod y rhyddhad yn dod i rym yn mhen dwy flynedd. Y Derbynydd Swyddogol (Mr. LI. Hugh Jones) a wrthwynebodd y cais; a'r un modd Mr. Thorton Jones, Bangor.—Y Barnwr a ofynodd ar pa dir yr oeddynt yn gwahaniaethu ei atal am ddwy flynedd i ddilyn ei alwedigaeth a'i ryddhad fel Methdalwr yn mhen dwy flyn- edd ? Yr oedd y Gymdeithas yn dal allan fod dwy flynedd yn ddigon i'w atal. Yr oedd y ffeithiau ddygwyd o'i flaen wedi ei argyhoeddi fod yr achos yn un pwysig. Yr oedd yn dod i'r penderfyniad y dylai roddi Rhyddhad. Wrth edrych ar yr holl ffeithiau, yr oedd yn cael fod tri o Farnwyr yr Uchel-^ys, yn cynwys yr Arglwydd Brif Farnwr, yn barnu fod dwy flynedd yn ddigon i atal y Methdalwr rhag dilyn ei alwedigaeth fel Cyfreithiwr. Beth fyddai y tymor ? Nid oedd ef yn rhwym wrth eu barn hwy. Dwy flynedd oedd yn feddwl cyn i'r ffeithiau newyddion ddygwyd o'i flaen gael eu dadlenu. Yr oedd yn caniatau Rhydd- had, a hwnw i ddod i rym yn mhen tair blyn- edd.

DOLWYDDELEN.----|

PENRHYNDEUDRAETH. j

Family Notices

DIFFYNDOLL-A YW'N DDIGON.

TREMADOG.

Family Notices

Qorsedd a'r Bylor. ,1 Vm-