Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-Cyngor Dirvesig Bettwsycoed.…

YN NGHWMNI NATUR. I

I BudcSugoSSaeihau yn yr Arddang-I…

PENRHYNDEUDRAETH.

News
Cite
Share

PENRHYNDEUDRAETH. HEDDLYS.-Dydd Iau, gerbron Dr. R. T. Jones (yn y gadair), Mr. William Jones, Mr. G. H. Ellis, a Dr. J. R. Jones. Llongyfarchodd y Cadeirydd, y Prif Gwn- stabl newydd, ar ei ddyrchafiad, a gwnaeth Mr. John Humphreys, ar ran y cyfreithwyr, hefyd sylwadau llongyfarchiadol.—Diolchodd Mr. Jones. HEB OLEU.—Am yru olwynfarch heb oleu, dirwywyd Robert Morris Jones, Penrhyndeud- raeth, i 2s 6c a'r costau. TEITHIO HEB DOCYN .-Cyhuddwyd Wil- iam Owen Jones, ac Evan Jones, 4, Bethel Terrace, Penrhyndeudraeth, o deithio ar Reil- ffordd Ffestiniog heb dalu eu cludiad.—Ym- ddangosodd Mr. John Humphreys, Porth- madog i erlyn, a dywedodd i'r dynion fyned i'r tren drwy y ffenestr yn ngorsaf Minffordd, a phan gyrhaeddwyd Porthmadoc, daethant allan drachefn drwy y ffenestr.-Addefodd y diflynyddion eu bod yn euog.—Dirwywyd hwy i 2s 6c a'r costau. YMOSOD.—Evan Evans, labrwr, Penlan, Penrhyndeudraeth, a gyhuddodd E. P. Jones, Penybwlch, Penrhyndeudraeth, o ymosod arno. -Amddiffynai Mr. John Humphreys.—Dywed- odd yr achwynydd ei fod yn cerdded ar y ffordd gyda dynion eraill, a bu ymddiddan rhyngddo ef a'r diffynydd. Honai ef i'r diffynydd fod yn foddion iddo gael ei droi o'i waith. Yna rhuthrodd y diffynydd arno, a tharawodd ef droion. Bu iddo gicio y diffynydd ar ol hyny. -Yn ateb i Mr. Humphreys, dywedodd fod ychydig o deimlad drwg rhyngddynt.—Tyst- iwyd yn mhellach gan David Williams a'r Heddwas Davies.—Galwyd y diffynydd, yr hwn a ddywedodd i'r achwynydd ei gicio ef gyntaf.—Yr oedd croes-wys gan y diffynydd am ymosodiad.—Dirwywyd Evan Parry Jones i haner coron a'r costau, a thaflwyd allan yr acbos arall. TRWYDDED BRONDANW.-Gofynai Mr. John Humphreys am drosglwyddiad trwydded Bron- danw Arms, Llanfrothen, i Robert Jones.— Gwrthwynebai Mr. Louis Jones (o ffirm Mri Lloyd George a George) ar ran rhai o dreth- dalwyr Llanfrothen, ar y tir fod R. Jones yn oedranus ac nad oedd angen y ty. Honidfod y ty yn fagwrfa i feddwdod, ac nad oedd o fewn cyrhaedd sylw yr heddgeidwaid.—Rhoddwyd tystiolaeth gref gan y Parch. W. R. Jones, Llanfrothen, yn erbyn caniatau y drwydded. Credai nad oedd angen y ty yn y gymydogaeth. —Rhoddwyd dystiolaeth bellach gan y Parch. Hugh J. Jones, Croesor.-Caniataodd y Faingc drwydded dros dymor, ond dywedasant nad oeddynt yn foddlawn i'r ty fod yn nwylaw y darllawyr O' gwbl.-Dywedodd Mr. John Humphreys y byddai iddo gyflwyno mynegiad- au y Faingc i sylw y darllawyr. GYRU TARW.—Cyhuddwyd William Wil- liams, Penarth, Llanbedr, o yru tarw dros flwydd oed drwy yr heol yn Penrhyn heb raff yn rhwym wrtho.—Dywedodd Williams nad oedd yn gwybod am y rheolau.—Dfrwy, swllt.

Priodas Ffasiynol..I

I Beirniadaeth y Seindyrf…

Cystadleuaethau y Seindyrf…

[No title]

Advertising

[No title]

O'R PEDWAR CWR.