Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-Cyngor Dirvesig Bettwsycoed.…

YN NGHWMNI NATUR. I

News
Cite
Share

YN NGHWMNI NATUR. I [Hawlysgrif.] i (Gan CAERWYSON). I Yn Ngheunant Llenyrch, Maentwrog, yr oeddym y tro diweddaf, ac awn yno eto y tro hwn. Anhawdd cael lie mwy swynol i'r sawl a gar gyfeillach a natur na'r Ceunant hwn. Gellir treulio dydd ar ol dydd yma i siarad a'r Cor Asgellog, neu a'r byd Llysieuol, a hyny heb flino oherwydd yr amrywiaeth mawr sydd yma. Crybwyllais am yr adar yr wythnos o'r blaen, a charwn i chwi ddod gyda fi y tro hwn i sylwi ar y Rhedyn sydd yn y lie. Maes cyfoethog yw hwn am Redyn oherwydd ei fod yn He mor llaith a chysgodol. Tybed a aHaf fi anturio crybwyll am y rhai dyfant yma ? Gallaf, canys bydd yn dasg lied galed ar ol i mi wneyd hyny i ddifrodwyr Rhedyn, a gam- enwir fel Edmygwyr y cyfryw, allu cael hyd iddynt, gan nad yw y dosbarth hwnw yn hoffi myned i nemawr o drafferth gyda dim er ei fwyn ei hun difetha llysiau trwy eu diwreiddio yn ddigynllun a diamcan yw dull y rhai hyn, ac ofer i neb ddywedyd wrthynt fod llysieuyn yn brin, ac y dylid ei amddiffyn a'i goleddu yn ei gartref" fel y cafto gyfle i gynyddu; difrodi" yw arwyddair y bobl hyn. Y mae Charles T. Druery. F.L.S., yn ei lyfr godidog ar Redyn Dewisol Prydain yn rhestru y teulu hyn gyda'r pryfetach dinystriol fydd yn difa llysiau, megis y lindys, &c., a dywed ef eiriau celyd am danynt. Gellir tardd-fygu lindys a'u brodyr difaol a mwg myglys &c., a gallaswn feddwl y carasai ef ddodi y difawyr deudroed i haner fygu yn yr un ystafell er dysgu gwers iddynt beidio dinystrio llysiau prinion,— Ami lysiau a ddibrisir, Y rhai ni wyddir eu rhinweddau." Gyda hyder na wel neb o'r cyfeillion difaol a grybwyllais fy ysgrif hon, anturiaf roddi enwau y Rhedyn. a welais yn y Ceunant o dro i dro. Ceir y Gyfyrddwy yma yn ei gogoniant a'i harddwch. Hi yw brenhines y Rhedyn. Hawdd ei hadnabod oddiwrth ei dail llyfnion a melynliw, y rhai ydynt ar gyfer eu gilydd: Yr oedd wyth a'r hugain o blanigion ieuaingc yn tyfu ar wyneb un o'r creigiau ond daeth difrodwyr heibio ac ysgubwyd ymaith bob un o honynt, ac heddyw, gallaf bron sicrhau nad oes cymaint ag un o'r wyth a'r hugain yn fyw! Dichou fod y sawl a'u cododd o'u lie yn meddwl y gallai eu magu gyda rhwyddineb ond camgymeriad yw symud rhedynen ieuaingc o'i "chartref oni bydd ty gwydr i'w derbyn, a'r hwn fydd yn gofalu am dani yn deall yn lied dda sut i wneyd hyn. Os bydd un yn awyddus am gael Rhedynen yn ymyl ei breswylfod, coded un wedi dadblygu i'w llawn faintioli, a bydd ei obaith am lwyddiant yn llawer sicrach. Mae y Gyfyrddwy i'w chael yn y Ceunant hwn mewn lluaws o fanau, a dylai y sawl fo'n awyddus am gael un o honi ofalu am raff ddiogel i fyned i lawr i'r creigiau i'w chyrchu, a chael erfyn cyfaddas i'w ganlyn er ei chodi o'r gwraidd. Nid oes hafal i foncyff a gwraidd y Rhedyn hyn at ysigdod ar ddyn ac anifail. Yn y flwyddyn 1888, dywedodd Druery y gallai y sawl ddeuai ar draws y Fontanum yn wyllt deimlo yn falch iawn, gan fod dros ddeng mlynedd ar hugain er's pan welwyd un yn tyfu felly. Y mae i'w cbaei ar ochr yr afon yn Ngheunant Llenyrch. Gwelais hi yn tyfu yno yn ei harddwch cynhwynol, ond ni nodaf y llecyn ar y Ceunant fel na byddo i'r difrodwr gael gafael arni. Yn mron bob Ilyfr ar gartrefi Rhedyn dywedir i hon gael ei chodi rhwng Tanybwlch a Thremadoc," a llawer fu y chwilio ofer am dani yno. Y gwir am y cof- nodiad hwnw medd un awdures enwog, mai o ardd Tanybwlch y cymerwyd y planigyn crybwylledig. Rhedynen arall lied brin, ond a geir yn y Seunant hwn yw y Rhedyn Gwair (Lastrea Ac?M?). Y maent yn bur heirdd, yn wyrdd- las drwy'r Rwyddyn, ac arogl gwair yn gryf arnynt wrth eu gwasgu. Dichon mai dyma'r rheswm dros eu galw yn "Hay Scented Fern." Ceir y Lanceolatum ar graig sech yn nghwr ichaf y Ceunant, a dyma y lie pellaf oddiwrth y mor y gwn i am danynt, ag eithrio buarth Dolymoch. Yn y Ceunant hwn yn unig y gwelais y Rhedynen Deneuwe (Hymenophullum tunbridgense) Maent yn anesgrifiol o hardd, a hwynthwy yw y rhywogaeth leiaf o Redyn y deyrnas gyfunol. Mae y Deneu-we Unochrog yn tyfu yn gyffredin ar hyd ochrau y mynydd- oedd. Ceir hi yn ngodreu y Manod, ar y Moelwyn, yn Ngeunant Cynfal, &c. y llall yw ygbrydferthaf o lawer, a ffurfia fath o hilyn gwyrdd ar y creigiau llaith, ac y mae yn dry- loew fel Rhedynen Killarney" (Trichomanes radicans). A y", hono yn tyfu yn y Ceunant hwn ? Pwy a etvb. Beth ddywed yLlysieuwr cyfarwydd, Mr. D. A. Jones, F.L.S., Harlech.

I BudcSugoSSaeihau yn yr Arddang-I…

PENRHYNDEUDRAETH.

Priodas Ffasiynol..I

I Beirniadaeth y Seindyrf…

Cystadleuaethau y Seindyrf…

[No title]

Advertising

[No title]

O'R PEDWAR CWR.