Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

...-.,......- - - - Eisteddfod…

[No title]

BLAENAU FFESTINIOG. I

IPENMACHNO.

LLANRWST.-J

- - - F-Hint a Meirion.-…

News
Cite
Share

 F-Hint a Meirion.- ?Oymanfa Bedyddwyr Dinbych Cynhaliwyd cyfarfodydd y Gymanfa uchod eleni yn Nghorwen, dyddiau Llun, Mawrth a Mercher diweddaf. Yr oedd y gweithrediadau o dan lywyddiaeth y Parch. W. G. Owen, (Llifon), Pandy'r Capel, y cadeirydd, yr hwn a draddododd anerchiad amserol ar Ein plant a'n pobl ieuainc cyfrifoldeb yr eglwys i ofalu am danynt." Yr oedd ei sylvr ar yr Eglwys Sefydliadol yn gymedrol a'i anogaetb yn deil- wng o ystyriaeth. Gofod a ballai i ni draethu mor helaeth ag y carasem," meddai "ar y pwysigrwydd o wneyd cyrddau yr eglwys yn rhai siriol a deniadol, ac ar yr un pryd yn rhai adeiladol i'n pobl ieuainc; ac i fod yn yr ystyr ddyfnaf yn gartref iddynt. Nid wyf yn proffesu gwybod yr oil sydd i'w wybod am yr Institu- tional Church. Diau fod ynglyn a hi rai pethau na byddai yn fuddiol eu mabwysiadu yn ein heglwysi ni. Ond y mae ynddi un peth teilwng o efelychiad yn mhob lie. Y mae yn- ddi ymgais i droi yr eglwys yn gartref." Fel cam diberygl at hyny argymellai sefydlu llyfr- gell yn mhob eglwys. Pasiwyd penderfyniadau cryfion ar amryw bynciau cyhoeddus. Dadganwyd argyhoedd- iad cryf ei bod yn bryd i roi pen ar awdurdod Ty yr Arglwyddi fel y mae yn dy annghyfrifol ac annghynrychioliadol. Dadganwyd boddhad am fod y LIywodraeth yn addaw dwyn Mesur Addysg i mewn y senedd dymor nesaf, ac yn anog y Llywodraeth i ddwyn y colegau nor- malaidd a gynelir trwy y trethi o dan reolaeth gyhoeddus. Dadganwyd siomedigaeth dwfn am absenoldeb mesur Dadgysylltiad i Gymru o raglen y Weinyddiaeth, a gofiid mawr oher- wydd creulonderau y Congo. Etholwyd y Parch. E. K. Jones, Brymbo, yn gadeirydd y flwyddyn nesaf, a Mr. Richard Roberts, Birkenhead, yn isgadeirydd. Pregethwyd gaa y Parchn. E. Williams, Rhos, R. G. Roberts, Caernarfon, E. T. Jones Llanelli, D. Powell, Lerpwl, J. H. Hughes, Manceinion, Cefni Jones, Ffestiniog, ac eraill.

-Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd.

Ewyllys Arglwydd Penrhyn.…

Family Notices

Family Notices

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.