Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

...-.,......- - - - Eisteddfod…

[No title]

BLAENAU FFESTINIOG. I

IPENMACHNO.

LLANRWST.-J

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANRWST. J TREFN Y MODDION SABBOTHOL Yr Eglwys Sefydkdig. St. Mary.—10, Parch. C. W. Davies. 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst—10, Parch. J. Morgan. 6, Parch. C. W. Davies. Y Methodistiaid. Seion.-Parch. William Thomas. Scotland Street-Parch. R. Rowlands. Yr Annibynwyr. Tabernacl-lo, Parch. W. Cynwyd Williams. 6 Cyfarfod Gweddi. Ebenezer-Parch. Z. Mather, Abermaw. Y Wesleyaid. Horeb-IO, Cyfarfod Ysgol. 6, Parch. W. J. Jones, Eglwysbach. St. James (English Chapel).—Mr. T. G. Osborne, M.A., Colwyn Bay. Y Bedyddwyr, Penuel.—Parch. O. Davies, D.D., Caernarfon. FFAIR.—Yr oedd y Ffair ddydd Mercher yn I bob>og:.iidd iawn a chryn brysurdeb gyda chjflogi Pladurwyr at y cynhauaf Gwalr. Am- rywiai y cyHogau o 18/- i bunt yr wythnos. Gwerthai ceffylau da am brisiau uchel, ond lied a' af ydcedd y gwirtheg. Perchyll o 18/- i 21/ Tatws newydd 2c y pwys. Ymenyn 10c. Cwningod 1/- y cwpl. Hwyaid 6/- i 7/6 y cwpl. Dofednod 5/- i 5/6 y cwpl. Wyau 15 am swllt. GWYL.-Pleddyw (dydd Iau) y mae holl fasnachdai y dref yn gauedig, ac aelodau yr ysgolion Sral ya myned am wibdaith i Lan- dudno. YSBYTTY CLEFYDON.—Am dri o'r gloch prydnawn dydd Mercher yr oedd tri o aelodau Cyngorau Llanrwst {Dinesig), Bettwsycoed, Llanrwst (Wledig), a Geirionydd i gyfarfod er ystyried y priodoldeb o gael Ysbytty Unigoli rhai o dan glefydon Heintus. Er aros a disgwyl am amser maith, ni ddaeth digon yn nghyd i gynal cyfarfod, ac felly bu raid gohirio. YR ARDDANGOSFA.—Am haner awr wedi tri o'r gloch prydnawn Mercher, cyfarfu Pwyllgor yr Arddangosfa o dan lywyddiaeth Mr. D. G. Jones, Rhiwdafnau. Yr oedd y Pwyllgor Arianol wedi cyfarfod awr yn nghynt, ac wedi myned trwy yr holl gyfrifon. Hysbyswyd fod swm sylweddol wrth gefn ar ol talu yr holl' ofynion.—Pasiwyd i wneyd gyda 5 Heddgeid- waid eleni yn lie 8 oni cheir telerau esmwyth- ach gan y Prif Gwnstabl.—Hysbyswyd enwau y gwahanol Feirniaid yn yr adranau perthynol i'r Arddangosfa.-Y dydd penodedig i gadw'r Arddangosfa eleni fydd Awst 15.-Yr oedd i amryw yn cyryg am gael dod i'r cae i wneyd bwyd, a nodent eu prisiau am giniaw. Cymer- adwywyd cynyg Mr. Vichers, New Inn.- Darllenwyd llythyr oddiwrth Ysgrifenydd yr Hyffordd-long Clio, ynglyn a chael Seindorf y Llong hono i wasanaethu yn yr Arddangosfa. Gofynent am ddwy gini o dal, eu traul teithio, a'u bwyd. Gan fod y gost yn golygu bod yn £ 4 14s Dc, bu i dri boneddwr oedd yn bresenol danysgrifio pum swllt yr un at y draul er mwyn ei dalu heb fyned dros bedair punt. YR EISTEDDFOD.—Cynhaliwyd cyfarfod o Bwvllgor yr Eisteddfod nos Lun o dan lywydd- iaeih Major Priddle. Cyflwynwyd Mantolen yr Eisteddfod ddiweddaf i'r cyfarfod. Yr oeddid wedi derbyn J300 Os lie a thalwyd J279 8s 7c, fel yr oedd £ 20 12s 4c o weddill. Pasiwyd i gydnabod yr Ysgrifenydd llafurus (Mr Henry Jones) gyda deg punt. Nid oedd ef wedi derbyn dimeu am ei lafur yn ystod y ddwy flynedd a basiodd. Pasiwyd i argymell y tanysgrifwyr i gynal Eisteddfod y flwyddyn nesaf eto, a bod cyfarfod i'w alw i'r amcan o gael eu barn ar hyny Gorphenaf 29. DIANGFA GYFYNG.—Nos Iau, yr oedd Mr. Herbert Hughes, Elwydene, yn dod yn ei ger- byd o Drefriw gyda Mr. E. P. Hughes. a Mr. Roy Whittaker, a rhwng.Trefriw a'r Bont, bu i'r ceffyl ddychrynu a rhedeg. Ofer fu pob cais i'w atal er i amryw geisio hyny ar y ffordd. buraid iddo sefyll pan ddaeth at lidiart y Bont. Erbyn dod i'r fan eono nid oedd ond Mr. E. P. Hughes yn y cerbyd. Taflwyd Mr Herbert Hughes o'r cerbyd, ac aeth yr olwyn dros ei goes. Diongodd Mr. Whittaker yn ddianaf er iddo gael ei daflu allan o'r cerbyd.

- - - F-Hint a Meirion.-…

-Eisteddfod Gadeiriol Trawsfynydd.

Ewyllys Arglwydd Penrhyn.…

Family Notices

Family Notices

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.