Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

- ER COFFA CAREDIGI

News
Cite
Share

ER COFFA CAREDIG I Am JANE VADGHAN WILLIAMS, Brondwyryd, Blaenau Ffestiniog, yr hon a gymerwyd ymaith yn sydyn pan oedd yn mhell oddicartref yn ceisio iechyd gwell Mai laf., 1907, yn 23 oed. Yn gynar, gynar aeth JANE VAUGHAN Dros frig y bryniau pell, A hyfryd iawn i eneth dda v Oedd gwel'd ardaloedd gwell. Glan oedd y llwybr dan ei throed, Ond serth, a byr ei hyd, Yn eneth dair-ar-hugain oed Aeth dros y llwybr i gyd. Nid oedd ei gwell yn mysg y plant, Faint bynag fyddai'r cor; Oedd loew, loew fel y nant Sy'n ymdaith tua'r mor. Oedd lan ei gwedd a gloew i' moes, A theg fel lili wen A chaed, ar ddiwrnod ola'i hoes, Y goron ar ei phen. Pan oedd yn Nyffryn hardda'r Sir Yn aros difyr dro, 'Doedd yno'r un blodeuyn, yn wir, Hawddgarach yn y fro. Yn mhell o gartref, enw da A gafodd yn ei gwaith, Fel g'.vawr y dydd ar fore ha', Yn gloewi ar ei thaith. Hi welodd ambell gwmwl du Yn hedfan uwch ei phen; Ond gwyddom oil na chollodd hi Erioed yr haul o'r nen. Hi welodd ambell foreu llaith, A ffrydiau Marah'n llawn; Ond wrth fyn'd rhagddi ar ei thaith, Mor wyn f'ai lliw'r prydnawn. Bu weithian yn ei rhwyflong dlos, Yn morio'n groes i'r gwynt, v Fel y disgybliun, yn y nos, Ar for Tiberias gynt. Ond cerdded ati'r dyddiau hyn Wnai Llywydd Mawr y lli A throai'r mor fel gwydr gwyn 0 dan ei rhwyflong hi. Yn syd i-i daeth y Bywyd fad I'w nhol—ac ar y gair Aeth hitlnn yndda, mewn mwynhad, Draw, draw i'r glanau aur. Disgwyliai Owen, ar y lan, Am deg ei lun, A Roes Dodd hefyd yn y fan, Bron newydd lanio'i hun. Ac wedi i'r tri gael cyfarch gwell Yn newydd iaith y nef, Rhodiasant draw i'r bryniau pell Dan ganu- Iddo Ef." A ninau'n canu ar y llawr Fis Mai y chweched dydd, 0 gylch e.i bedd yn dyrfa fawr- Yn canu hiraeth prudd. Disgynodd heulwen decca'r nef Yn gawod ar ei harch Yn gymysg, hefyd, afon gref 0 ddagrau serch a pharch. 0 gylch ei bsdd mae'n hir ymdroi j Anwyliaid goreu'r byd, I weled pridd ei bedd yn troi, O'i fodd yn flodeu i gyd. Ffarwel! ffarwel! ffarwel JANE VAUGHAN Mae'th lwch yn Ian ei liw, ■i-'th gan yn fwyn i'r Addfwyn Oen Yn mhellder Gwynfa Duw. Joronygraig. R. R./MORRIS. I

GETHSEMANE..I

A ER COFI

ER COF I

CWYN COLL I

Pum' MlyneeSef am EsgiQiiaM.I

TREFN OEDFAON Y SUL

IPeiirlasmas IVIeS tssiOE-a.

Advertising