Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YN NGHWMNI NATUR. I

News
Cite
Share

YN NGHWMNI NATUR. I [Hawlysgrif.] (Gan CAERWYSON). Mae'r diwrnod yn un dymunol, ag ystyried y gwlybaniaeth a'r oerni gafwyd yn Ngwanwyn dechreu Haf y flwyddyn hon. Diweddarach o lawn dair wythnos fu'r adar ymfudol yn dod atom eleni nag oeddynt y llynedd, ac oherwydd hyny y mae y Gog i'w chlywed yr wythnos hon (yr wythnos gyntaf yn Ngorphenaf), fel pe buasai yr wythnos gyntaf yn Mehefin. Cefais ddiwrnod hapus ar ei hyd, a mwynheais fy hun ganmil mwy nag y bydd merched ifaingc yn wneyd wrth edrych ar hetiau flasiwnau newydd- ion yn ffenestri'r masnachdai, gan mai hardd- wch efelychiadau a welaut hwy, tra'r oeddwn i yn gweled y blodeu, y dail, a'r gwellt fel y daethant o law y Crewr mawr ei hun. Y fath brydferthwch herfeiddiol sydd o'm hamgylch, a'r fath amrywiaeth Nid oedd ryfedd i ddos- barth o ysgrifenwyr tua haner can' mlynedd yn 01 gynyrchu cymaint o'u hysgrifell ar Grefydd Naturiol." Wrth gwrs, nid oes dim annaturiol mewn crefydd neu byddai yn groes i natur a rheswm ond eu mheddwl hwy wrth arfer y gair oedd, y grefydd ddysgir gan natur. Mae dosbarth o feddylwyr yn dal allan mai hon yw yr unig grefydd gymwys i ddyn i'w ddedwydd- oIL Yr oeddwn inau y diwrnod hwnw bron yn barod i synio yr un fath, oni bai fod euogrwydd yn fy nghydwybod, a'm calon eisiau glanhau oddiwrth ystaeniau ac aflendid pechod. Y mae natur yn ogoneddus o lawn, ond ni welais ac ni ddaethym ar draws neb arall a welodd falm i wella clwyf enaid er fod cyflawder at glwyfau'r corph, ac aneffeithiol yw"dwfr eira," "neitr a sebon i olchi ymaith anwiredd. Ond crwydro yr wyf oddiwrth yr hyn oeddwn yn feddwl am ysgrifenu ychydig yn ei gylch son am helaeth- rwydd ddarpariaethau riatur am harweiniodd i hyny. Dyma aderyn bach yn disgyn oddiar wifrau y pellebyr ar ganol y ffordd, ac yn cerdded yn brysur at bwll bychan o ddwfr. Yf yn helaeth o hono, ac wedi hyny el i'r un fan yn ei ol i ganu ei folawd melusber am ddiod o ddwfr. Diragrith a digraith dy fron wyt ti aderyn bychan hoff, a'th gan heb goll na diffyg arni, ac yr wyt yn ei chanu fel y'th ddysgwyd gan yr Hwn a'th wnaetb Aethym yn mlaen ar hyd llwybr trwsiadus a helaeth at gwr coed dyfant yn un o'r ceu- nentydd cethinaf i'w cerdded yn Ngogledd Cymru, a chyda fy mod yn hwn, clywn amryw- iaeth cerdd yr adar, a gwelwn amrywiaeth hardd y coed o'm deutu. Pob perth sydd brydferth ei brig A gwiwder bendigedig; Adar yn nwyfus hedeg, A chwarau trwy'i changau'n chweg Y Bronfraith ddringa brenfrig, A phob ednan gan mewn gwisg Yr Ehedydd ry ar aden, Felodedd yn euraidd nen I Y Fran, y Gigfran, a'r Gwalch, Ar eu hedfa'n gariad falch Y Fyniar gylch nofia'r neu, A chwiogla'r Gorn chwiglen, Nes gwau gwyndodau dedwydd, 0 lendid haf lon'd y dydd." Rhaid aros yma enyd i wrandaw a sylwi gan y gallai fod yn agos ataf rywbeth i mi ddysgu mwy o gyfrinion natur nag a wyddwn yn flaenorol. Ar hyny, dyma swn dyeithriol yn dod o gwr cyferbyniol y coed, gwrandewais yn ddistaw rhag i'r aderyn, beth bynag ydoedd, fy ngweled ond yr oedd ef wedi fy ngweled er's meityn, a dylaswn feddwl hyny gan mai galwad perygl" oedd ganddo, ac mai Cudyll ydoedd (Sparrow Hawk), llygaid yr hwn sydd dreiddlym a chraff nodedig Yn y man, deallais fod ganddo nyth heb fod yn mhell iawn, aethum dros y ceunant at y lie yr ehedai y Cudyll o bren i bren, ac ni bu'm yn hir heb ganfod tri o hen nythod brain. Yn un o'r nythod hyn yr oedd cydmary Cudyll yn eistedd ar chwech o wyau crynion o liw gwyn gydag ysmotiau rhuddgoch bron yn eu cwbl orchuddio. Eithriadol yw i'r aderyn hwn wneyd nyth ei hun, a bydd yn boddloni ar ail- drefnu hen nyth Bran neu Bioden, ac yn hwnw fagu ei cywion. Yn y ceunant hwn fe dyf amrywiaeth mawr o Redyn o'r lleiaf o honynt, -y Rhedyn Teneuwe (Filmy Fern) hyd i'r fwyaf,—y Gyfyrddwy (Rosmunda), heb son am y llu mawr o fathau eraill sydd rhyngddynt yn britho y lie ramantus hwn. Pan yn cychwyn oddicartref, yr oeddwn am bryd ar fyned i gwr uchaf y ceunant, ac yno yr af. Ni wiw ymdroi lawer, gan fod ffordd lied faith i fyned, a llawer o bethau oddiyma hyd yno yn meddu dyddordeb mawr i mi. Ardal y lleolir un o'n Mabinogion prydferthaf ydyw, a dychmygwm glywed ysbrydion y cyn-oesoedd yn sisial yn fy nghlust gyfrinion y dyddiau a fu, blynyddoedd yr hen amser." Dyddiau chwareuon Tylwythion Teg, &c. Wrth ddal i feadwl i'r cyfeiriad hwnw, yr oedd arnaf rhwng ofn ac awydd cael clywed neu weled un o'r cymeriadau yn y Mabinogi mewn ffurf o Aderyn neu rhywbeth arall. Tra yn myfyrio felly "beth welwn o'm blaen ar ochr y ffordd ond neidr, a phan yn myned i afael ynddi i'w dodi yn fy llogell er mwyn ei chael i un o ath- rawon yr ysgolion yn y Blaenau, gwelwn wa- haniaeth mawr yn ei dull i bob un arall a welais Pan welodd fi yn nesu ati, dechreuodd ymwingo a chwyddai ei llygaid yn ei phen ac yn y man ymliwient fel pe yn cael eu cymysgu a gwaed. Yn ffodus, ni afaelais ynddi neu buasai yn angeu sicr i mi: gwiber ydoedd. Y wiber yw yr unig neidr a frath yn angeuol o lioil nadrodd y Deyrnas Gyfunol. Y mae llun V ar ben y wiber, a hono yn oleuach na'r gweddill o liw y pen. Gan nad oedd genyf ddim pwrpasol yn ymyl at ei tharaw, ac na feddyliais am daraw fy sawdl arni, diangodd i dwll a chollais hi. Yn nes yn mlaen ar y daith, daethym at hen Fynachlog, oedd "lVIevvn iaith "Taw," ac ctaw cosdd Yn siarad hen amseroedd." Yn y ddeuddegfed ganrif yr oedd y fan hon yn Ile pwysig yn hanes yr Urdd Fynachaidd, ond yn mhen ychydig ar cl hyry bu Haw y gormes- ¡ ydd yn drwm arnynt, a darfu am danynt. Dyma fi o'r diwedd wedi cyraedd y lie yr oeddwn yn cychwyn am dano: Ceunant y Ceunentydd yw hwn, ac un cyfoethog iawn er yr olwg lorn sydd arno. Cefais wledd o'r fath a garwn yn y fan hon. Yma y nytha y Cudyll Mawr (Buzzard), a'r Fwyalchen-wengylch (Ring Ouzel), ac yma y tyf Gwyrdd-wallt- y-forwyn, gydag amrywiaeth mawr o Redyn eraill. Ceir yma rywogaeth eithriadol brin o Ysgall, heb son am lysiau eraill. Caiff y Mwn- gloddiwr le cyfoethog yma, gan faint y Mwnau sydd yn ngheseiliau y llechweddi o amgylch'. Cefais prydnawn difyrus yn y lie, a'r Cudyll yn rhoddi ambell ysgrech aflafar beibio i mi, a'r Fwyalchen-Wengylch yn chwibanu fel y gwna bugail ar ei gi defaid nes adseinio drwy yr holl le. Dyma Lys tawel yr awel rydd,— Lie i enaid gael llonydd." (I'w barhau.)

CYSTADLEUAETHAU NEWTOWN.

BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH.

PENRHYNDEUDRAETH. -I

BLAENAU FFESTINIOG.