Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TANYGRISIAU.I

.-HARLECH.-I

Vh PENMACHNO.----I

MAENTWROG. - I

I TALSARNAU. I

Family Notices

I IECHYD FFESTINIOG.

YMWELIAD Y BRENIN. I

ICYNGOR PLWYF LLANFROTHEN…

AT DRETHDALWYR PENMACHNO.…

[No title]

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.

News
Cite
Share

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd. Cyfarfu y Cyngor ddydd Mercher, pryd yr oedd yn bresenol y Parch. John Gower (Cadeirydd); J. Lloyd Morris (Is-gadeir- ydd); D. G. Jones, Parch. J. Ll. Richards, T. T. Roberts; E. W. Roberts, Edward Roberts, Evan Williams, R. R. Owen (Clesc), a R. Henry Williams (Arolygydd). Niweidio Ffordd. Y Clerc a hysbysodd iddo anfon at Mr. Green, Masnachydd coed, yn ol cyfarwyddyd y Cyngor, am £ 15 at adgyweirio ffordd y Dylasau, yr hon a niweidiwyd gan y gwageni coed o'i eiddo. Yn ol fel y golygai y Cyngor, yr oedd cario llwythi trymion o goed fel y gwnaetb Mr. Green, yn trafnidiaeth eithriad- ol" ar y ffordd hon.-Pasiwyd i gymeryd y mater i Lys y Manddyledion i'w benderfynu.. Ffordd y Cwm. Yr oedd cais wedi dod i'r Cyngor am iddynt adgyweirio y ffordd o'r Cwm i fyny i Rhiw- bach, &c. Gan i'r mater fod o dan ystyriaeth y Cyngor Sirol ychydig flynyddoedd yn ol, pasiwyd i anfon am benderfyniad y Cyngor hwnw ar y lie. Nid oedd atebiad wedi dod i lythyr y Clerc ar y mater ac felly bu raid ei ohirio yn mhellach. Ysgol Penmachno. Daeth llythyr o'r Bwrdd Addysg yn hysbysa eu bod wedi anfon llythyr y Cyngor i Awdur- dodau Addysg y Sir. Cwynid nad oedd yr Ysgol hon mewn cyfiwr iechydol priodol, a chan fod y Pwyllgor Sirol yn esgeuluso gweith- redu yn y mater bu i'r Cyngor anfon gair yn uniongyrchol i'r Bwrdd Addysg i alw sylw at y lie. Cyflog. Anfonodd Mr. Robert Evans, Penmachno, ei fil am 24 niwrnod o wasanaetn gyda'r Gwaith Dwfr yn y Cwm. Yr oedd Mr. Mc'Intyre wedi arwyddo i dalu wyth niwrnod.-Pasiwyd i gael rhagor o fanylion yn nglyn a gwasanaeth Mr. Evans, cyn talu y bil hwn. Yswirio. Y Clerc a hysbysodd iddo dderbyn telerau 15 o Gwmniau Yswirio, a'u bod yn amrywio o £ S 14s Oc i £ 2 5s Oc. Yr oedd cyfrifoldeb y Cyng- or yn nglyn a'r swyddogion a'r gweithwyr yn £ 900.—Pasiwyd i'r Clerc gymeryd yr isaf, os byddai y Policy yn foddhaol. Reilffordd Trefriw. Anfonodd y Cyngor gais am i'r Cwmni ddod a'u rheilffordd yn mlaen o Dolgarog i Lanrwst, ac atebodd Cyfreithwyr y Cwmni yr ystyrient y mater ar ol cael gwybod pa swm oedd y Cyngor yn barod i'w gyfranu at y gwaith.—Mr. D. Gi Jones a sylwodd mai cydsynio yr oeddynt hwy a chais Llanrwst yn y mater hwn.—Pasiwyd i oedi ystyriaeth pellach o'r peth hyd nes y ceid gwybod beth oedd Llanrwst am wneyd. Ysbytty Frechwen. Daeth gair o'r cyd-bwyllgor Iechydol yn gofyn am gydweithrediad y Cyngor gyda chael Ysbytty at wasanaeth y Sir Gaernarfon mewn achosion o Frechwen, pe digwyddai dori allan. —Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod ef yn bendant yn erbyn y fath Jeoedd. Pa reswm oedd cario dyn yr holl ffordd i Gae,-narfon ?- Pasiwyd i adael y mater am nad oeddid yn ei ystyried yn ymarterel. Meddygol. Adroddai Dr. Erazer i 16 o enedigaethau I gael eu cofrestru yn mis Mai, a 13 o farwolaeth- au, ar gyfer 11 o enedigaethau yn Mai y flwyddyn ddiweddaf, a 7 o farwolaethau. I Gwaith Dwfr Trefriw. Pasiwyd i dalu C200 i Mr. Hughes a Rowlands yn nglyn a'r gwaith hwn. Canmolid yr hyn a wnaed ganddynt i fyny hyd yn awr, a deallwyd y byddai yr oil wedi ei orphen gan- ddynt at ddydd Sadwrn. Yr oedd y Cyngor wedi talu £ 500 yn awr allan o'r f 750 cytunedig arno yn nglyn ar gwaith uchod. Llwybrau Llanrhochwyn. Daeth llythyr o Gyngor Plwyfol Llanrhoch- wyn yn gofyn am i Lidiart gael ei osod ar lwybr yr Eglwys yn lie camdda, ac yn dywed- yd fod yn mwriad Mr. Isaac Williams ddodi y wal ar draws Llwybr Penrallt.—Pasiwyd mai mater i'r plwyf ei hun oedd gofalu am y llwy- brau, ac na ddylid ymyraeth a Mr. Isaac Williams hyd nes y bydd y wal wedi ei gwneyd. Awgrymwyd na fuasai Mr. Williams yn codi y wal oni buasai yn hollol glir ei feddwl fod yr hyn a wnai yn gyfreithlon a phriodol. Gallu Dinesig. Daeth cais o Trefriw am gyd-weithrediad y Cyngor i godi Urinals yn y pentref.—Y Clerc a ddywedodd fod hyny yn golygu fod gan y Cyngor Awdurdod Ddinesig. Yr oedd yn rhaid apelio at Fwrdd Llywodraeth Leol am yr Awdurdod hwnw.—Oedwyd hyd y cyfarfod nesaf heb anfon y cais am y cyfryw gan nad oeddid yn gwybod yn sicr beth oedd yn ofynol ei gael rhwng y gwahanol blwyfi, a bod yn rhaid nodi y bethau y gofynid am danynt yn y cais. Golchi Defaid. Pasiwyd i ohirio ystyriaeth o gwyn yr Arol- ygydd yn nglyn a gwaith tenantiaid y ddau Bertheos yn golchi defaid yn afon Hafongwen- llian, a llygru y dwfr trwy hyny. Golyga y Cyngor gymeryd cwrs cyfreithiol yn y mater. Cyflenwad Dwfr Dolwyddelen. Derbyniwyd, telerau Mr. Robert Williatns, Bryntirion am gael gwneyd cronfa ddwfr ar ei dir at gyflenwi pentref DoIV.,yd(lelen.-P- asiwyd i anfon llythyr Mr. Williams i'r. Cyngor Plwyf er cael eu penderfyniad arno. Hen Ffordd Ysbytty. Anfonodd y Cyngor gais at y Cyngor Sirol am i'r ffordd, a adwaenir fel ffordd Pantglas" gael ei hadgvweirio gan y Sir. Daeth llythyr oddiwrth Mr. William Evans, Ysgrifenydd y Cyngor Plwyf, yn gofyn am i ffordd newydd yn Ysbytty gael ei chymeryd o dan ofal y Cyngor Pm-had yn tudalen 8.