Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TANYGRISIAU.I

.-HARLECH.-I

Vh PENMACHNO.----I

MAENTWROG. - I

I TALSARNAU. I

Family Notices

I IECHYD FFESTINIOG.

YMWELIAD Y BRENIN. I

ICYNGOR PLWYF LLANFROTHEN…

AT DRETHDALWYR PENMACHNO.…

News
Cite
Share

AT DRETHDALWYR PENMACHNO. I Syr,—-Byddaf yn ddiolcbgar iawn i chwi os caniatewch ychydig le yn eich papur i alw sylw trethdalwyr Penmachno at gyflwr gwely yr afon a'r ffordd, y ddwy ochr i gapel Rhyd-y- meirch. Fel y gwyddom pan fydd gwlaw ych- ydig yn anghyffredin, bydd y flordd y ddwy ochr i'r bont o dan ddwfr, a hyny oherwydd anwybodaeth neu ddiofalwch y Cynghorau sydd a wnelont a'r lie. A ydyw ardal dawel i ddioddef peth fel hyn ? Nid peth anghyffredin ydyw gweled degau os nad ugeiniau o ddynion yn y gwahanol chwarelau yn dechreu ar eu di- wrnod gwaith a'u traed yn wlybion. A rhaid gwneyd hyn ar adeg gwasgedig fel y presenol oddieithr i'r diffyg yma gael ei wneyd i fyny. Bythefnos yn ol gwelais ddynion yn cerdded ar ben gwal beryglus er ceisio myned drwodd yn yn droedsych, a hyny yn aflwyddianus. Ac wele gapel y Methodistiaid, Rhydymeirch,- adeilad drudfawr ag sydd yn addurn i'n broydd -yn cael ei gau i fyny, a'r addolwyr yn cael eu hamddifadu o wasanaeth y Cysegr, A pha, sawl gwaith y mae ei haelodau wedi teimlo an- nghysur yn Nhy yr Arglwydd oherwydd gwlyb- aniaeth wedi ei achosi trwy yr esgeulusdra tru- enus hwn. Carem ofyn i'w swyddogion, pe buasai y Capel yn Westty a ydyw yn debygol y buasai hyn yn cael ei oddef ? Mentraf ddweyd yn ddibetrus na fuasai. A ydyw pro- ffeswyr crefydd i fod yn fwy gwasaidd na phobi y byd? Onid yw yn rhan mor bwysig o'u I gwaith i edrych am gysuron yr eglwys y tu allan a'r tu fewn i'r muriau ? Yn sicr ddigon, gall tafarnwr yn mhob man gael pob rhwydd- ineb i gyfleusderau ei fasnach, er mai masnach ag sydd y arwain dynion i ddinystr a cholled- igaeth ydyw. Pa faint rhwyddach y dvlai addoldai gael cyfleusderau gofynol-y lleoedd hyny sydd yn parotoi dynion ar gyfer y bywyd uchaf. Hyderaf y cymerir y mater hwn i fyny ar fyrder. a phriodol iawn, a llawn bryd hefyd, yw i bawb godi i fyny gyda'r swyddogion i iynu cael yr hyn sydd resymol er gwneyd y lie hwn yn debyg i'r hyn y dylai fod. MINYMYNYDD.

[No title]

[ Cyngor Dosbarth Geirionydd.