Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

I ^•©ddf lawn i Wasan-I'('--.aethyddion.I

- -- -- - - -- -_ Cyngor Dinesig…

TREMADOC.yy-..I

.yvyyyvvYBORTHYGEST.yYYTTT-'I

I Gwleidyddiaeth a Thenantiaeth.

News
Cite
Share

I Gwleidyddiaeth a Thenantiaeth. Yn Heddlys Llangollen o flaen Arglwydd Trefor ac Ynadon eraill, gofynodd Mr. William Parker, goruchwyliwr Mr. Richard Myddleton, Castell y Waen, am archeb i droi Mr. Andrew Powell, Llwynycil, Waen, o'i dy.—Ymddang- osodd Mr. Downes Powell, Wrexham dros I Powell. Tystiodd Mr. Wallace Wilson, ei fod yn gwasanaethu ar etifeddiaeth Castell y Waen, ac iddo geisio gwasanaethu rhybudd i ymadael ac iddo yn y diwedd ei wthio o dan ddrws ty Powell yr hwn oedd yn gweithio yn Nglofa Black Park. Dadleuodd Mr. Downes Powell nad oedd y rhybudd yn gyfreithiol iawn. Yr oedd y Diffynydd meddai wedi cymeryd dydd- ordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, a delid ei fod yn gorfod ymadael o'i dy am iddo areithio dros yr ochr wahanol i Mr. Myddleton a'i Oruchwyliwr. Gwrthwynebodd Mr. Parker, pan oedd yn ceisio myned ar Gyngor Plwyfol y Waen, ac yna daeth y rhybudd i ymadael. Dialid arno oherwydd ei wleidyddiaeth.- Arglwydd Trefor, "Tybiaeth noeth yw hyn yna."—Mr. Downes Powell, Dyma y teimlad yn y Waenar y mater."—Mr. Andrew Powell, dyn adnabyddus yn y Waen, a dystiodd ei fod yn byw yn yr un ty er's deng mlynedd, ac ni bu erioed ar ol gyda thalu yrhent ar y diwrnod yr oedd yn ddyledus. Nis gallai gael ty i fyned iddo, ac ysgrifenodd at Oruchwyliwr Mr. Myddleton i ofyn iddo a wnai ef adael iddo gael ty arall, ac atebwyd ef nad oedd ganddo unrhyw dy arall i'r Diffynydd, er fod ganddo dai i'w gosod yn y gymydogaeth. Dywedodd Mr. Downes Powell os gwnai yr ynadon ddyfarnu yn ei erbyn, y byddai iddo ofyn iddo am iddynt roddi achos i'w gymeryd i Lys Uwch. Gallai ddywedyd fod y Diffynydd yn barod i fyned allan o'r ty, ac nad oedd gan- ddo awydd dal y ty yn groes i ewyllys Mr. Myddleton na'i Orucbwyliwr, a gallai gael ty oddiallan i gylch y Waen yn mhen dau fis. Arglwydd Trefor, Cyfarwyddir ni gan ein Clerc fod y rhybudd yn gywir, a bod gan y perchenog hawl i gael yr archeb. Yr wyf fi yn gwybod digon am y Waen i wybod fod yna ddigon o dai i'w cael yn y Waen. Gallasech fod wedi myned pe'n ewyllysio, ond nid oedd- ych yn dewis hyny. Y mae y cais yn cael ei ganiatau. Mr. Downes Powell, Gwnaf gais am i achos gael ei ganiatau." Clerc yr Ynadon, Nis gallaf eich cyfarwyddo i ganiatau achos. Mae yr Archeb wedi ei gwneyd, ac y mae yn rhaid i r Diffynydd fyned allan o fewn deng niwrnod o'r hugain."

Arian trwy Freuddwyd.I

-Ffair Criccieth.I

Ei Ladd gan Fellten. I

Diangfa Gyfyng .i Blentyn.…

Twyll Ariandy.I

f Dim am Ymneillduo.

Anobaith Benthycwyr. I

-Ofn -Ysbrydion Drwg.

Bwyta Cig Own a Cheffylau.…

Advertising

;O'R PEDWAR OWR.

Heddlys Porthmadog.