Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

I ^•©ddf lawn i Wasan-I'('--.aethyddion.I

- -- -- - - -- -_ Cyngor Dinesig…

News
Cite
Share

Cyngor Dinesig Bettwsycoed. I Cyfarfu y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Thomas Griffith (Is-gad- eirydd) yn y Gadair, R. Rawlinson, Henry Williams, John Hughes, J. T. Rees, Dr. Pritchard, J. P. Faichney, R. R. Owen (Clerc), a J. W. Edwards (Arolygydd). Trwyddedau Cerbydwyr. Rhoddwyd trwyddedau gyrwyr cerbydau i William John Parry, David Jones, a William Griffith ond gohiriwyd caniatau trwydded i un arall nes deuai llythyr i'w gymeradwyo oddiwrth ryw berson cyfrifol oedd yn ei adwaen. Polion y Pellseinydd. i Seliwyd y cytundeb a'r National Telephone I Co., gyda golwg ar gael gosod polion yn y I dosbarth yn ol swllt y flwyddyn am bob polyn. I Y Carthffosydd. I Cydnabyddodd Mr. P. Mc'Intyre lythyr y I Cyngor yn datgan eu dymuniadau gyda golwg ar cynlluniau Carthffosu y Dosbarth, a'i fod yn cydsynio a'r cyfryw ddymuniadau. Yswirio. I Hysbysodd y Clerc fod 15 o bersonau yn ngwasanaeth y Cyngor mewn rhyw ddull neu gilydd, a bod y swm i yswirio ar eu rhan yn • £ 170. Yn unol a chais y Cyngor anfonodd am delerau gwahanol Gwmniau Yswirio, a derbyniodd eiddo 17 o honynt, yn amrywio o 18/3 i 6/9. Pasiwyd i yswirio gyda'r British General am 6/9, os byddai y Clerc yn gweled y Policy yn foddhaol. Ysbytty UnigoU. Daeth cais o Gyngor Dinesig Llanrwst am i dri gael eu penodi i gynrychioli y Cyngor i ystyried y priodoldeb o gael Ysbytty Unigoli mewn achosion o glefydon Heintus. Golygid i gael yr Ysbytty rhwng y gwahanol Gyngorau yn y cylch.—Y Cadeirydd a ddywedodd iddo fod ar Ddirprwyaeth i'r un perwyl chwech neu saith mlynedd yn ol, a syrthiodd y peth trwodd y pryd hwnw am fod Cyngor Geirionydd yn gwrthod ymuno yn y mater.—Dr. Pritchard, Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, a gwir angenrheidiol i ni ei ystyried."—Cadeirydd, Y mae yn bwysicach i ni nag i'r un rhan arall o'r cylch hwn oherwydd yr ymwelwyr. Dylem fod yn gwbl barod at gyfarfod achosion o glefydon pe byddai iddynt dori allan yn y lie." —Mr. John Hughes, Na, nid oes dim neill- duol o'r fath ymabyth."—Dr. Pritchard, Mae achosion yn ami yn Penmachno."—Mr. Faich- ney, Ac y mae y papurau yn siwr o ddweyd mai- yn y Bettws y maent!"—Ar gynygiad Mr. Faichney, a chefnogiad Dr. Pritchard pasiwyd i ddewis tri i gynrychioli y Cyngor ar y cyd- bwyllgor. Penodwyd Cadeirydd y Cyngor (Mr. R. Parry), a'r Is-gadeirydd (Mr. T. Griffith), a Dr. Eritchard. Meddygol. Dr. Frazer a adroddodd i dair genedigaeth gael eu cofrestru am fis Mai, ac un farwolaeth. Yr oedd yr un fu farw dros 65 mlwydd oed. Amrywiol. Ni phasiwyd i anfon yr Arolygydd i gynhad- ledd yr Arolygwyr lechydol gynhelir yn Llan- dudno yn Medi gan na theimlid fod budd i neb o hyny ond i'r Arolygydd yn bersonol.Nid oedd y Casglydd wedi cael hamdden i gasglu dim o'r trethi gan mai newydd eu harwyddo yr eedd y galwadau.—Pasiwyd i ofyn am gyn- ygion am gyfleywi y dref a Goleuni Cyhoeddus om dymor y gauaf.—Darllenwyd adroddiad misol yr Arolygydd, yr hwn nad oedd yn cyn- wys dim o ddyddordeb cyhoeddus. Arianol. Pasiwyd i dalu biliau i'r swm o [15. Wal Beryglus. Mr. Faichney a alwodd sylw at y wal oedd yn cyfyngu ar y ffordd ar ben Ffordd y Greig- len wrth Bont Llynyrafangc. Byddai yn hwylusdod mawr i gerbydau hirion allu troi yno pe symudid hi.—Y Clerc a ddywedodd mai y mater i'r Cyngor ei ystyried yn gyntaf ydocdd, a fyddai ei symud ymaith yn drawsfeddiant.—Mr. John Hughes a ddaliai na byddai yn drawsfeddiant gan ei bod yn rhan o'r ffordd oedd y Cyngor wedi ei chymer- yd o dan eu gofal.-Ar gynygiad Mr. Faichney a chefnogiad Mr. Rees pasiwyd i gyflwyno y mater i'r Pwyllgor Ffyrdd gyda gallu i weith- redu. Adroddiad Blynyddol Dr. Frazer. I Y Cadeirydd a ddywedodd fod Adroddiad eu Swyddog Meddygol yn llaw pob un o honynt, ac yr oedd yn ddyledswydd ar bob aelod ei ddarllen yn fanwl. Ar gynygiad Mr. Faichney a chefnogiad Mr. Rawlinson pasiwyd i Dr. Pritchard wneyd sylwadau ar yr Adrodd- iad yn y Cyngor nesaf. A aaaaaaaaaaaaAAAAAAAAAAA M A/

TREMADOC.yy-..I

.yvyyyvvYBORTHYGEST.yYYTTT-'I

I Gwleidyddiaeth a Thenantiaeth.

Arian trwy Freuddwyd.I

-Ffair Criccieth.I

Ei Ladd gan Fellten. I

Diangfa Gyfyng .i Blentyn.…

Twyll Ariandy.I

f Dim am Ymneillduo.

Anobaith Benthycwyr. I

-Ofn -Ysbrydion Drwg.

Bwyta Cig Own a Cheffylau.…

Advertising

;O'R PEDWAR OWR.

Heddlys Porthmadog.