Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

I ^•©ddf lawn i Wasan-I'('--.aethyddion.I

- -- -- - - -- -_ Cyngor Dinesig…

TREMADOC.yy-..I

.yvyyyvvYBORTHYGEST.yYYTTT-'I

I Gwleidyddiaeth a Thenantiaeth.

Arian trwy Freuddwyd.I

-Ffair Criccieth.I

Ei Ladd gan Fellten. I

Diangfa Gyfyng .i Blentyn.…

Twyll Ariandy.I

f Dim am Ymneillduo.

Anobaith Benthycwyr. I

-Ofn -Ysbrydion Drwg.

Bwyta Cig Own a Cheffylau.…

Advertising

;O'R PEDWAR OWR.

News
Cite
Share

O'R PEDWAR OWR. Cynhelir Cynhadledd o holl awdurdodau Addysg Gogledd Cymru yn fuan i ystyried cyflogau yr athrawon. Hysbyswyd yn Nghyfarfod Pwyllgor Addysg Caernarfon fod rhai o blant y dosbartbiadau gwledig yn gorfod cerdded pum' milldir i'r ysgol bob dydd. Mae chwarter canrif er pan fu mis Mehefin mor wlyb ag oedd y diweddaf. Fel yr oedd heddgeidwad o'r enw Lumbers yn olwyno yn Islington ddydd Sadwrn, rhed- odd bachgen bychan -ar draws ei beiriant, a thaflwyd y swyddog oddiarno. Yr oedd yn ysmygu ar y pryd, ac aeth blaen coes ei bibell trwy daflod ei enau i'w ymenydd, a lladdwyd ef. Fel yr oeddid yn saethu y graig at ail-adeil- adu Capel y Bedyddwyr yn Frongysyllte, Llangollen, yn ymyl yr ysgol ddyddiol, dis- gynodd maen o'r graig i ganol y plant oeddynt yn chwareu ar y pryd yn muarth yr ysgol gan anafu bachgen o'r enw Rowlands. Gwerthwyd Llawysgrif White Natural History of Selbourne" am zf 750. Yn meddiant y diweddar Samuel Smith yr oedd. Mewn cyfarfod misol yn Morfa Bychan, Porthmadoc, pasiwyd ar gynygiad y Parch. J. T. Prichard yn cael ei eilio gan Mr. David E. Davies benderfyniad yn datgan gofid am fod yr arfer o ysmygu Cigarettes yn myned ar gynydd yn mhlith plant a phobl ieuaingc, ac yn galw sylw masnachwyr at eu cyfrifoldeb yn y mater, ac yn gofyn i rieni wneyd yr hyn a allent trwy esiampl ac addysg yn erbyn yr arferiad. Cyfarfyddodd un Ernest Scammell, South- ampton, a marwolaeth arswydus ddydd Llun, wrth olwyno i lawr allt yn ymyl y dref. Ym- ddengys i geffyl ddeuai i'w gyfarfod ddychrynu, a taflwyd Scammell i shaft y drol fel y tynwyd ei goluddion allan o'i gorph. Cyhuddwyd John Edwards, Adeiladydd, Scarsdale Road, Manceinion, o ladratta [462 lls 6c oddiar ei feistr T. B. Westcott, yn Gorphenaf 1882. Pan oedd y prawf ar ei haner, hysbyswyd mai dyn arall oedd wedi lladrata yr arian, a bod hwnw wedi marw. Pe gwybyddasid yr holl ffeithiau, ni fuasid yn erlyn o gwbl. Cyfranodd Mr. J. Prichard Jones, Niw- bwrch, Mon, dair mil o bunau at drysorfa Adeiladu Coleg Bangor. Hwn yw y swm mwyaf a gyfranwyd hyd yn hyn yn ddiamodol. Anfonwyd John French, llafurwr, i garchar am ddau fis gan Ynadon Pwllheli, am ladratta hwyaden eiddo John Rowlands, Maes, Pwll- heli. Dirwywyd John Williams, Masnachydd Dod- refn, Beatrice Road, Croesoswallt, i [3 13s 6c am deithio o Wrexham i Chirk heb docyn. Yr oedd felly yn gorfod talu yn ol coron y filldir. Rhoddwyd tri chant o bunau am y Bryddest, The Brook" yn Llawysgrif Tennyson ei hun. Dyry Mr. W. Woodley Stocker fanylion yn y Times am daith llythyr-gerdyn aeth o am- gylch y byd yn 1891 mewn deugain niNrnod a phymtheng awr. Anfonwyd ef o Lundain i Hong Kong trwy Canada, ac yr oedd yn ol yn Llundain yn yr amser a nodwyd. Dirwywyd John Williams, Garddwr, Llan- elwy, i 1/- ac 11/- o gostau, am geisio cael trwydded bugail i gadw ci ac yntau ar y pryd heb fod yn cadw defaid. Hysbysir am farwolaeth Mr. Richard Roberts, tad Mr. Richard Roberts, u.H., Llandudno, yn yr oedran aeddfed o 82. Anfonwyd un John Bentwick, Birkenhead, i garchar am dri mis am ymosod ar heddgeid- wad. Ymddengys ei fod yn cael ei feddianu gan fath o gynddaredd pan wel heddgeidwad, ac ymosoda yn ffyrnig arnynt.

Heddlys Porthmadog.