Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ADSAIN HIRAETH I

c OSEDD LLANGOLLEN, MEHEFIN…

Y DADGYSYLLTIAD.-''.I

AM - - - ER COF ~.I

CYFLWYNEDIGI I

GALARGAN I

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG.

FANDY TUDUR.

News
Cite
Share

FANDY TUDUR. ENGLYNION YR EISTEDDFOD.—Fel hyn yr englynodd y dawnus David Wynne, i wahanol bersonau yn ein Heisteddfod dydd Iau yr 2 lain :— MR. R. G. OWEN, GREENWICH HOUSE, LLANRWST-LLYWYDD. Galluog yw y llywydd—a hefyd Di-hafal arweinydd; I roi mwyniant i'r ymenydd Trin ei bert ystraeon bydd PARCH. R. DEWI WILLIAMS, BEIRNIAD. Beirniad doeth, coeth ac iawn-yw Dewi, Di-duedd ac uniawn, Ymroddol ac amryddawn Cawr o'n mysg mewn dysg a dawn. MR. J. E. ROBERTS, PENMACHNO, BEIRNIAD CERDDOROL. Cawr ddyry mewn cerddoriaeth-yw efe Ei farn heb amheuaeth Gwr yw a wel ragoriaeth- Ni fwria sen, ni arfer saeth MR. OWEN WILLIAMS. A.C., EGLWYSBACH, CYFEILYDD. Llawn o fiwsig, llunia'i fysedd-seiniau. Swynol eu cynghanedd Dyn o farn, y doniau fedd—a'i rho'n deg Heb boen rhyw adeg ar grib anrhydedd. Deallwn fod yr un bardd wedi anfon y ddau englyn canlynol i'r gystadleuaeth MIS MEHEFIN. Hulia anian hael enwog-yn gywrain Ei goreu toreithiog Miwsig gawn yn mis y Gog A dedwydd hin odidog. ARALL. Mis yr haul, mis yr awelon-tyner, Mis y tanau tynion, Mis anwyl mae ei swynion Yn ymlid braw o deimlad bron.

Advertising