Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ADSAIN HIRAETH I

c OSEDD LLANGOLLEN, MEHEFIN…

Y DADGYSYLLTIAD.-''.I

AM - - - ER COF ~.I

CYFLWYNEDIGI I

GALARGAN I

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG.

News
Cite
Share

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG. Yrt swn ystormydd amser Mae'n anhawdd cael mwynhad, Nid oes ond cymyl trallod Yn hofran dros y wlad; Mae anhawsderau bywyd Yn tyfu'n ol ein traed, Ar wisg pob ymdrech onest Mae olion dafnau gwaed. ( Hyd lenyrch afradloniaid Cysuron dyn sy'n ffoi, Heb ddim ond mangre'gwagedd Yn noddfa iddo droi; Yn ngwlad y mcch a'r cibau Mae etifeddiaeth dyn, Fel gweithiwr, dirmygedig Yw ef i wae a gwyn, Cleddyfau miniog gorthrwm Yn Haw lofruddiog trais, Sy'n dryllio'i annibyniaeth Ac yn mudanu'i lais; Mae'r byd, y cnawd, a'r diafol Yn erlid ar ei ol, Ac yntau ffoi am fywyd I fyd y Caethwas ffoi. amgylchiadau'n ddarnau Dan draed y byd di drefn, A'i gorph yn gwisgo allan Trwy'r chwys sy'n mwydo 'i gefn Mae brwydr galed bywyd Bron, bron a dod i ben, 0 flaen magnelau'r gelyn Mae'i fywyd oil dan len. 0 weithiwr torcalonus Er gwaetha'r byd a'i drais, Er cymaint o elynion Bicellent dan dy ais Mae adeg etto'i wawrio Yn nen dy hanes di, Fydd yn ogoniant bythol Ar dy rasusol fri. Os anhawdd ydyw dioddef Camwri gorthrwm blin, Ac er i'th enaid waedu Dan boenau wrth ei drin Mae dy berthynas anwyl, A'r Iesu gwyn yn werth, A ddeil yr oddaith olaf Heb golli dim o'i nerth. Penrhyn. GLAN TECWYN.

FANDY TUDUR.

Advertising