Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

ADSAIN HIRAETH I

c OSEDD LLANGOLLEN, MEHEFIN…

Y DADGYSYLLTIAD.-''.I

AM - - - ER COF ~.I

CYFLWYNEDIGI I

GALARGAN I

News
Cite
Share

GALARGAN Ar 01 y diweddar Griffith Roberts, Miner's Bridge, Bettwsycoed. Galar sydd yn llanw'm calon Am ein gwron serchus cu, Fu'n blaenori yn ein heglwys Nawr sy'n canu 'mhlith y llu Mae ei sedd yn wag ac oeraidd Rym dychmygu gweld ei wedd, Ond mai babell wedi ei symud I gadwynau oer y bedd. Ni bu neb erioed mwy ffyddlon Tra bu'n swyddog yn y lie, Llwyr ymroddai i bob gwasanaeth I hyrwyddo teyrnas ne' Nid oedd gwaith yn boen na gofid Iddo ef tra yma'n byw, Ond ymdaflai iddo'n hollol Er dyrchafu mawl i Dduw. Nid oedd tywydd na helbulon Allai luddias ef fel gwas, Mlaen yr elai trwy bob gofid I gyffiniau gorsedd gras: Nid oedd hin o wlaw ac eira Rwystrai'i gamrau foreu Sul, Byddai'n brydlon at y dechreu Yn hyfforddi'r llwybr cul. Ysgrifenydd fu, a blaenor Ddeugain mlynedd yn y gwaith, Bu yn ddiwyd a gofalus Rhag ymollwng ar y daith Flwyddi maith bu'n arwain canu Fel y medrai wneyd ei ran, Nid oedd ball ar ei fiyddlondeb Parod fu i helpu'r gwan. Er i'n sant gael galwad adref Maes i fyd tu draw i'r lien Cofiwn am ei daer erfyniau Am gael cyrhaedd nefoedd wen; Sain hosana i Frenhin Sion Yw ei iaith yn awr o hyd, Gyd a myrdd o lan seraphiaid Fydd ei gan pan losgo'r byd. R. W. W. (TENORFRYN).

Y GWEITHIWR GORTHRYMEDIG.

FANDY TUDUR.

Advertising